Dyn, 20, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Ninas Powys
![Ardal y gwrthdrawiad](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/f6c1/live/0c150120-41f9-11ef-b74c-bb483a802c97.jpg)
Fe gafodd yr heddlu eu galw i Ffordd y Barri, Dinas Powys yn yr oriau mân ddydd Sul
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 20 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd - Ford Fiesta llwyd - o gwmpas 03:50 fore Sul ar Ffordd Y Barri, Dinas Powys, yn ôl Heddlu De Cymru.
Bu farw'r dyn, oedd o'r Barri, yn y fan a'r lle.
Fe gafodd dwy ddynes, un yn 21 oed ac o'r Barri a'r llall yn 18 oed ac o Ddinas Powys, eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru fel rhagofal.
Mae'r heddlu'n apelio am glywed gan unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad.