Caniatáu cynllun tai er bod pryderon am y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun dadleuol i adeiladu 42 o dai mewn pentref yn Sir Gâr wedi cael ei ganiatáu, er i bobl leol rhybuddio y bydd yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg.
Yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin ddydd Iau, fe bleidleisiodd mwyafrif y pwyllgor cynllunio o blaid datblygiad ar gyfer pentref Porthyrhyd.
Daw hyn er gwaethaf pryderon lleol am broblemau llifogydd a charthffosiaeth, ynghyd â’r effaith ar yr iaith.
Yn ôl Grŵp Pobl, a gyflwynodd y cais, bydd y datblygiad "yn lliniaru prinder tai yn lleol", a bydd "polisi o roi blaenoriaeth i bobl leol".
Ond mae Aelod Seneddol lleol yn galw am ymyrraeth gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Er mai ond rhyw 80 o dai sydd ym mhentref Porthyrhyd, cafodd y cais ei gyflwyno gan Grŵp Pobl i adeiladu 42 o dai newydd ar dir fferm Wern Fraith.
Mae’r datblygiad yn gymysgedd o dai - 13 i'w gwerthu ar y farchnad agored, 10 ar ffurf rhan-berchenogaeth, ac 19 i'w rhentu.
Bydd 68% o’r tai, yn ôl y datblygwyr, yn dai fforddiadwy.
Daw’r cais fel rhan o’r bwriad ehangach i adeiladu dros 8,800 o dai newydd yn y sir rhwng 2018-2033, a hynny dan gynllun datblygu lleol newydd yn Sir Gaerfyrddin.
Gofid am yr effaith ar y Gymraeg
Mae Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, wedi galw am oedi’r cynllun yn y gorffennol yn sgil ffigyrau iaith Gymraeg cyfrifiad 202, gan ofyn am foratoriwm ar gynlluniau tai mawr, fel yr un ym Mhorthyrhyd.
Dangosodd canlyniadau’r cyfrifiad 4.1% o ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin.
Dyma oedd y gostyngiad mwyaf o ran canran ymhlith holl siroedd Cymru.
Wedi cynnal arolwg ei hun, dywedodd Mudiad Amddiffyn Porthyrhyd bod 64% o oedolion a 68.9% o blant ac oedolion yn medru'r Gymraeg yn y pentref.
Roedd data'r ward gyfan ar gyfer ardal ehangach ward Llanddarog, serch hynny, yn dangos bod canran y siaradwyr wedi gostwng i 53% yn 2021.
Elfen arall sy'n poeni'r criw lleol yw'r llifogydd ar y safle a'r system garthffosiaeth.
Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru na Dŵr Cymru wedi gwrthwynebu’r cais.
Mewn ymateb i benderfyniad y Pwyllgor Cynllunio, Caerfyrddin dywedodd Zeena o Fudiad Amddiffyn Porthyrhyd ei bod yn "drist ac yn siomedig".
“Mae’n drist i feddwl bod pentref bach y wlad arall yn cael ei effeithio gyda datblygiad mawr," meddai.
Ategodd Mair Evans y farn honno, gan ddweud ei bod yn "anodd credu bod gorddatblygiad fel hwn yn mynd i ddigwydd mewn pentref fel Porthyrhyd - pentref sydd ar orlifdir".
Er iddi ddweud fod y gymuned wedi "trio eu gorau heddiw i gyfleu’r problemau sydd yn bodoli o ran dŵr ffo a’r system garthffosiaeth yn methu ymdopi", dywedodd nad oedd y pwyllgor wedi gwrando ar lais y bobl.
Fe wnaeth y cynghorydd sir Ann Davies, aelod cabinet ar Gyngor Sir Caerfyrddin sy’n gyfrifol am bolisi cynllunio, annog ei chyd-aelodau i wrthod y cais "achos o’n i yn teimlo bod e’n ormod o safle i’r pentref".
"Roedd ‘na wrthwynebiad chwyrn yn y gymuned oherwydd maint y safle, ond hefyd yr iaith Gymraeg, ac mae 'na broblemau carthffosiaeth gyda ni yn y pentref," meddai.
Dywedodd Hefin Jones, cynghorydd Cyngor Cymuned Llanddarog, ei fod wedi cael ei wahardd rhag siarad yn y cyfarfod.
Dywedodd fod y "cyngor cymuned wedi sicrhau bod nhw’n ymgynghori gyda’r gymuned leol, a barn y gymuned leol yn cael ei adlewyrchu yn ymateb y Cyngor Cymuned.
"Y dealltwriaeth oedd, ar y cychwyn, drwy gyfathrebu gyda’r adran gynllunio, y byddai’r Cyngor Cymuned yn cael siarad gerbron y pwyllgor heddiw.
"Fe wnaeth y sefyllfa newid neithiwr ac yn anffodus, doedd llais y Cyngor Cymuned ddim i’w glywed yn y pwyllgor heddiw.”
Dywedodd y cyngor fod y rheolau'n datgan mai uchafswm o ddau wrthwynebydd sy'n cael annerch y pwyllgor, a bod y ddau a gysylltodd gyntaf i wneud cais wedi cael eu dewis.
'Yr iaith dan warchae'
Yn ôl AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, mae penderfyniad y pwyllgor cynllunio i ganiatáu datblygiad tai Porthyrhyd yn "siom aruthrol".
Dywedodd fod yr "iaith dan warchae", a bod "amddiffyn y pentrefi Cymraeg yma sydd gyda ni ar ôl yn y sir yn hollbwysig".
"S'dim dal bod y datblygiad yma yn mynd i gael effaith ryfeddol negyddol ar yr iaith Gymraeg," meddai.
Dywedodd nad yw'r cyngor sir yn gweithredu "strategaeth bendant i amddiffyn ein cymunedau" a bod angen "rhoi rôl statudol nawr i Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg" wrth gynllunio stadau tai mewn cymunedau Cymraeg.
Cydweithio â'r cyngor i ddiogleu'r iaith
Mewn datganiad, fe ddywedodd pennaeth datblygu Grŵp Pobl, Adam Roberts, sy'n gyfrifol am y cais, eu bod "wrth ein boddau i gael caniatâd ar gyfer cymysgedd o 42 o gartrefi safonol ym Mhorthyrhyd2.
"Bydd y datblygiad yma yn lliniaru prinder tai yn lleol - problem sydd wedi cael ei chydnabod gan y Cyngor Sir a Llywodraeth Cymru," meddai, gan ychwanegu y byddan nhw'n "gwrando ar adborth pobl wrth gynllunio".
Wrth ymateb i'r problemau llifogydd, eu bwriad yw "dargyfeirio'r dŵr i mewn i'r Gwendraeth Fach", a fydd yn "datrys problem hir dymor".
Fe wnaethon nhw gadarnhau bod Dŵr Cymru yn dweud "y bydd modd gwasanaethu'r cartrefi newydd" ac nad oes gan Gyfoeth Naturiol Cymru bryderon.
Wrth gyfeirio at sefyllfa'r Gymraeg, dywedodd eu bod am "ddatblygu polisi o roi blaenoriaeth i bobl leol sydd am rentu" gan "gydweithio gyda'r cyngor i weithredu rhannau o'r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg".
Dywedodd Rhodri Griffiths, Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd Cyngor Sir Caerfyrddin fod sylwadau gan y gymuned wedi cael eu hystyried pan yn cymeradwyo'r cais.
Ychwanegodd y bydd 69% o'r tai yn rhai fforddiadwy ac y bydd "cyfraniadau gan y datblygwr tuag at wella cyfleusterau addysg, mannau chwarae a mannau agored ym Mhorthyrhyd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2018