'Gwleidyddiaeth angen denu mwy o gefndir lleiafrifol ethnig'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw o’r newydd ar bleidiau gwleidyddol a'r llywodraeth i wneud mwy i ddenu pobl o gefndir lleiafrifol ethnig i wleidyddiaeth, ar lefel lleol a chenedlaethol.
Daw’r alwad gan y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol ar Fis Hanes Pobl Ddu.
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd ei Bil Etholiadau Newydd yn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i ddarpar ymgeiswyr er mwyn cynyddu amrywiaeth aelodaeth y Senedd a llywodraeth leol.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig fe ddylid dewis ymgeiswyr "ar sail eu gallu ac nid ar sail eu rhyw, hil neu nodwedd warchodedig arall".
Mae gweddill y pleidiau hefyd wedi cael cais am ymateb.
'Pam nad ydyn ni’n cael llawer o bobl ddu yma?'
Gyda’i wreiddiau yn Rwanda a Burundi, mae Bowen Cole o Abertawe yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.
Ond wrth edrych ar siambr Bae Caerdydd, mae am weld newid.
"Mae angen i ni ofyn i'n hunan, ac yn benodol y Senedd, pam nad ydyn ni’n cael llawer o bobl ddu yma?" meddai.
"Pam nad ydyn ni’n blaenoriaethu pobl o gefndir ethnig i weithio yma?
"Beth ydyw Cymru os ni ddim yn cael pawb Cymraeg?"
O'r 60 o aelodau yn Senedd Cymru, tri aelod sydd o gefndir lleiafrifol ethnig, gyda dau yn y Blaid Geidwadol ac un yn y Blaid Lafur.
Mae holl aelodau Plaid Cymru - ac un aelod y Democratiaid Rhyddfrydol - yn wyn.
Yn ôl ffigyrau Senedd Cymru, 10% o aelodau San Steffan sydd o gefndir lleiafrifol ethnig, 4.7% yn Holyrood yn Yr Alban, a does dim un yn Stormont yng Ngogledd Iwerddon.
'Mwy gwyn, mwy hen, mwy gwrywaidd'
Yn ddiweddar daeth un o bwyllgorau’r Senedd i’r casgliad nad oedd cynghorau tref a chymuned ac awdurdodau lleol yn gynrychiolaeth o’r boblogaeth.
"Mae ein cynghorau sir ni yn dueddol o fod yn fwy gwyn, yn fwy hen ac yn fwy gwrywaidd," meddai Dr Nia Thomas o’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol.
"Byddwn yn hoff iawn o weld mwy o weithredu ac mae angen i hynny ddod o bob rhan - o Lywodraeth Cymru, y pleidiau a llywodraethau lleol.
"Does dim un silver bullet, ond llawer o waith i'w wneud mewn nifer o wahanol lefydd."
Erbyn hyn mae rhai pleidiau'n defnyddio rhestr ymgeiswyr benywaidd yn unig mewn rhai etholaethau er mwyn ceisio sicrhau cynrychiolaeth decach.
Hefyd mae yna gronfa ar gael i bobl ag anableddau, sy’n eu helpu gyda chostau ymgeisio mewn etholiad.
Wedi ei ethol yn ddiweddar yn gadeirydd ar Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae Joseff Gnagbo, sy’n wreiddiol o'r Arfordir Ifori, am weld pobl o gefndir lleiafrifol ethnig yn sefyll mewn etholiadau.
"Rydyn ni’n dod â phrofiadau gwahanol, felly efallai bod datrysiad a syniadau newydd gyda ni i gyfrannu," meddai.
"Os mae cyfle yn dod, byddwn yn hoffi trio."
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion cyfansoddiadol, Darren Millar: "Er bod y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi dyheadau ar gyfer Senedd fwy amrywiol, rydym yn credu'n gryf y dylid dewis ymgeiswyr ar sail eu gallu, nid ar sail eu rhyw, hil neu nodwedd warchodedig arall.
"Yn hytrach na chyflwyno cwota, mae angen i bob plaid wleidyddol yng Nghymru weithio'n galetach i ymgysylltu â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ledled Cymru i annog darpar ymgeiswyr i gyflwyno eu hunain."
Rhoddwyd cais i Lafur Cymru, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol am ymateb.
'Annog mwy i fod yn rhan o'r broses'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "awyddus i annog ac ennyn brwdfrydedd mwy o bobl i fod yn rhan o’r broses ddemocrataidd".
"Mae cynyddu amrywiaeth aelodau etholedig yn helpu cynghorau i gynrychioli'r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu'n well," meddai.
"Bydd ein Bil Etholiadau newydd yn sicrhau bod cyngor, hyfforddiant a chefnogaeth ar gael i ddarpar ymgeiswyr er mwyn cynyddu amrywiaeth aelodaeth y Senedd a llywodraeth leol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2022