Y gantores ac athrawes Eirlys Parri wedi marw

Eirlys ParriFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Mae'r gantores, actores ac athrawes Eirlys Parri wedi marw yn 74 oed.

Roedd fwyaf adnabyddus am ei gwaith cerddorol, gan ryddhau sawl record boblogaidd yn y 70au a'r 80au.

Hi hefyd oedd yn canu cân fuddugol Cân i Gymru yn 1986 - Beth Ddylwn i Ddweud? - a gyfansoddwyd gan Mari Emlyn.

Yn ogystal, bu'n gweithio fel athrawes mewn sawl ysgol ar hyd y wlad yn ystod ei gyrfa.

Ffynhonnell y llun, Marian Ifans
Disgrifiad o’r llun,

Bu Eirlys Parri yn siarad ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul ar Radio Cymru yn 2011

Cafodd Eirlys Parri ei magu ym Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn cyn mynd i astudio Cymraeg a Drama yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin.

Cyn mynd i'r coleg roedd hi eisoes wedi bod yn actio yn nramâu Wil Sam.

Yn ddiweddarach fe wnaeth hi ymddangos yn sioe Mrs Noa Theatr Cymru, cyn serennu yng nghyfres Codi Pais - oedd yn cynnwys sgetsau a chaneuon a berfformwyd gan Eirlys Parri ynghyd â Siw Hughes, Sue Roderick a Gillian Elisa.

Bu'n rhan o raglen deledu Disc a Dawn a bu'n teithio Cymru i ganu yng nghyngherddau'r Pinaclau Pop.

Fe ymddangosodd hefyd ar gyfresi ei hun - Eirlys - ar S4C ar ddiwedd y 1980au.

Bu hefyd yn gweithio am gyfnod yn adran cysylltiadau cyhoeddus S4C, cyn dychwelyd i fyd addysg yn ddiweddarach yn ardal Caerdydd, ble roedd hi wedi byw ers blynyddoedd.

'Un o'r sêr go iawn'

Roedd Siân Thomas, cyflwynydd rhaglen Heno, wedi bod yn un o ffrindiau gorau Eirlys ers degawdau.

Roedd Siân wedi cyflwyno Eirlys mewn cyngherddau ynghynt yn ei gyrfa, ond daeth y ddwy i adnabod ei gilydd yn dda pan yn gweithio yn S4C, a roedden nhw hefyd yn byw dros y ffordd i'w gilydd am dros 10 mlynedd hefyd.

"O'dd hi'n un o enwau mawr y sîn Gymraeg yn y 70au a'r 80au, ac o'dd pawb yn gyfarwydd ag Eirlys Parri," meddai Siân.

"O'dd 'da hi'r llais mwya' anhygoel, ac o'dd hi mor dlws ac yn edrych mor wych - roedd hi wedi'i gwneud ar gyfer rhaglenni teledu.

"O'dd hi'n un o'r sêr go iawn - o'dd enw Eirlys Parri yn un cyfarwydd iawn i ni gyd.

"O'dd 'da hi'r ddawn o gyflwyno cân mewn ffordd mor ddiffuant - roedd hi'n sicr yn un o'r goreuon."

Ychwanegodd Siân Thomas y bydd hi'n "gweld ei heisiau hi'n fawr iawn, a bydd hi'n chwith iawn hebddi".

"O'dd hi wastad yn lot o hwyl, ac o'dd Eirlys wastad yn edrych yn hollol anhygoel lle bynnag oedden ni.

"Dwi'n cofio bod yn Jordan yng nghanol anialwch, ac o'dd 'na olwg arna i - o'n i'n llwch i gyd ac yn edrych fel 'mod i mewn anialwch - ac o'dd Eirlys yn edrych fel bod hi newydd gamu off y catwalk!

"O'dd hi'n ffrind arbennig o dda. Yn ffrind triw iawn, ffyddlon iawn.

"O'dd hi jest mor garedig. Byddai hi'n rhoi ei cheiniog ola' i ti - o'dd hi jest yn ffrind hollol, hollol anhygoel."

Mae'n gadael cyn-ŵr a ffrind oes, Geraint, dwy o ferched - Lois ac Esther - a phedwar o wyrion - Aaron, Evan, Brandon a Jason.

'Wedi colli rhywun mor hyfryd'

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Llun, dywedodd yr actores Gillian Elisa: "Ry ni wedi colli rhywun mor hyfryd ac annwyl a gwerthfawr".

Wrth roi teyrnged, dywedodd fod gan Eirlys Parri "lais unigryw iawn, ma' 'na gynhesrwydd yn ei llais... roedd gyda hi'r ddawn i ddod â'r stori yn fyw".

Dywedodd fod y ddwy wedi dod yn dipyn o ffrindiau, ac wedi gweithio gyda'i gilydd tra'n actio ar y gyfres adloniant Codi Pais.

Ychwanegodd: "Roedd hi'n glamorous iawn, yn bert, llygaid mawr glas, yn beniog, yn gallu siarad gydag unrhyw un, yn allblyg, yn berson cynnes."

Pynciau cysylltiedig