Llai yn ceisio am le prifysgol - ond pam?

Brooke
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brooke, 17, yn bwriadu mynd i'r brifysgol ond mae data yn dangos gostyngiad yn y ceisiadau gan bobl ifanc o Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae penaethiaid prifysgolion yn dweud y dylai pobl Cymru "boeni" am ostyngiad yn nifer y bobl ifanc 18 oed sydd yn ceisio am le yn y brifysgol.

Mae'r data, gan y gwasanaeth mynediad i brifysgol UCAS, yn dangos hefyd gwymp yn nifer y ceisiadau gan ddisgyblion o gefndiroedd mwy difreintiedig.

Dros yr haf, mae Prifysgol Abertawe yn cynnal cyrsiau i annog pobl ifanc i wneud cais am le.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhaglen Camu Ymlaen, Prifysgol Abertawe, yn cynnig gwahanol weithgareddau i ddarpar myfyrwyr

Ymhlith y disgyblion fuodd yn rhan o'r cynllun eleni roedd Brooke o Sgiwen ger Castell-nedd - un o'r rhai cyntaf o'i theulu i ddewis addysg uwch.

Tra'n astudio ar gyfer ei harholiadau Safon Uwch yng Ngholeg Castell-nedd, penderfynodd Brooke ei bod am ddilyn cwrs prifysgol ar seicoleg fforensig ar ôl gwylio fideo am y pwnc ar YouTube.

"Doedd Mam a Dad byth wedi mynd i brifysgol a does neb yn y teulu wedi rili mynd oni bai am chwaer mam – oedd hi wedi mynd blwyddyn diwethaf.

"So hi yw'r unig role model."

Mae ei theulu'n falch iawn ohoni.

"Maen nhw ffili credu fe... a mae nhw jyst môr prowd," meddai.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf UCAS roedd 33.8% o bobl ifanc 18 oed Cymru wedi gwneud cais am brifysgol - o'i gymharu gyda 41.9% ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae'r bwlch yma yn destun gofid meddai Gwen Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Prifysgolion Cymru "o safbwynt goblygiadau hirdymor ar y gweithlu yma yng Nghymru, ar ein heconomi ni ac ar ein cymdeithas ni".

Ond mae'r rhesymau tu ôl i'r ffigyrau'n debygol o fod yn gymhleth, meddai.

Mae yna bryder cynyddol wedi bod am ddyledion graddedigion - y ddyled ar gyfartaledd i fyfyrwyr Cymru erbyn hyn yw £37,360.

Dywedodd y gallai’r cynnydd mewn costau byw fod yn “ffactor” ond mae angen deall “pam mae’r ffigyrau yma’n edrych mor ofidus i ni yng Nghymru pan mae’r ffactorau yn reit debyg ar draws Prydain".

'Tuedd bryderus'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ceisio deall y sefyllfa gyda chymorth arbenigwyr a thystiolaeth.

Mae'r broblem yn "ehangach nag addysg uwch" meddai llefarydd, gan addo diweddariad ar ymateb polisi'r llywodraeth yn yr hydref.

Ond yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig mae hwn yn "duedd bryderus sy'n gofyn am ymchwiliad".

Pe na bai hynny'n digwydd, meddai llefarydd addysg y blaid yn y Senedd, Tom Giffard, "mae peryg o lesteirio gweithlu Cymru yn y dyfodol o bobl broffesiynol medrus a phrofiadol a chyfyngu'n ddifrifol ar gyfleoedd i bobl ifanc a chenedlaethau'r dyfodol".

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Cefin Campbell: "Mae angen gweithredu ar frys gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r dirywiad mewn safonau a dyheadau drwy ein system addysg yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl siarad gyda'u rhieni a defnyddio gwefan Cymru'n Gweithio penderfynodd Arwen ddilyn prentisiaeth

Ychwanegodd Gwen Williams bod yna ostyngiad "yng nghyfranogiad holl bobl ifanc addysg ôl-16 ac felly dydy o ddim bo nhw’n dewis un opsiwn dros y llall mewn ffordd" a dywedodd bod hynny'n "frawychus".

Un sydd wedi dilyn llwybr gwahanol yw Arwen Jones o Faesteg, wnaeth brentisiaeth marchnata a chyfathrebu ar ôl gadael yr ysgol.

Cael profiad ymarferol oedd yn apelio ati ac ar ôl cwblhau'r brentisiaeth fe fuodd hi'n gweithio i Aelod Seneddol.

"Mae’r profiad fi 'di cael o’r brentisiaeth ac ar ôl y brentisiaeth – mae'n rhywbeth fi’n gwybod bydde fi ddim yn cael os es i i'r brifysgol," meddai.

Roedd yna ddisgwyliad yn yr ysgol y byddai'n gwneud gradd.

"O'dd yr ysgol i ddechre bach fel ‘o falle dylsech chi dal fynd i'r brifysgol’ ond nawr fi dal yn siarad 'da athrawon fi ac maen nhw’n cytuno bod y prentisiaeth y peth gorau fi di 'neud," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Fe fuodd Francesca Thomas ar y cwrs Camu Ymlaen fel disgybl - nawr mae hi'n cyfrannu fel myfyriwr

Ond mae Francesca Thomas o Gwm Gwendraeth yn falch iddi ddewis mynd i brifysgol, er doedd hi ddim yn sicr ar un adeg ai dyna'r dewis gorau.

Buodd hi ar gwrs Camu Ymlaen Prifysgol Abertawe ddwy flynedd yn ôl.

Roedd rhywun agos ati wedi cael profiad anodd fel myfyriwr ac roedd hynny wedi cael effaith ar Fran.

"O’n i wastad isie dod – oedd e jyst cael yr hyder i ddod yma," meddai.

"Collais i lot o hyder fi a wedyn ar ôl Camu Ymlaen o fi jyst wedi mynd gartre a dwedes i wrth mam ‘ie, fi’n mynd!’."

Nawr mae hi'n siarad gyda disgyblion gyda heriau tebyg.

"Mae’n neis gweld pobol yn newid trwy’r wythnos a ddim cael outlook negyddol am brifysgol – mae hynny’n rili neis i weld," meddai.