Rhwng streiciau a chostau uwch - ydy'n werth mynd i brifysgol?
- Cyhoeddwyd
Ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd mae myfyrwyr yn ymgartrefu, yn gwneud ffrindiau ac yn dysgu i reoli eu cyllidebau.
Mae pwysau costau byw a mwy o weithredu diwydiannol gan ddarlithwyr ymhlith yr heriau y gallai myfyrwyr eu hwynebu.
Mae canran y bobl 18 oed sy'n dechrau yn y brifysgol wedi gostwng ers y pandemig, ond mae'n parhau i fod yn ddewis poblogaidd.
Dywedodd Prifysgolion Cymru fod addysg uwch yn arwain at gyflogau uwch ac yn hollbwysig i'r economi.
Wrth i filoedd o fyfyrwyr deithio i gampysau ar ddechrau'r tymor, bu BBC Cymru'n gofyn am eu gobeithion a'u pryderon ar ôl cyfnod anodd i addysg uwch.
Mae'r rhes hir o fyfyrwyr sy'n aros i fynd mewn i ŵyl y glas ym Mhrifysgol Abertawe yn ymestyn yr holl ffordd o amgylch adeiladau chwaraeon y brifysgol.
Unwaith ry'ch chi trwy'r drws, mae hi'n anodd cerdded drwy'r tri neuadd fawr oherwydd yr holl lefydd bwyta sy'n cynnig nwyddau am ddim, a chlybiau'n ceisio denu aelodau newydd.
Mae yna ffair swyddi rhan amser hefyd, sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith gwrdd â chyflogwyr lleol posib.
Fel Swyddog y Gymraeg Undeb Abertawe, fel arfer mae Macsen Davies yn gweithio gyda myfyrwyr, trefnu digwyddiadau a datblygu polisïau iaith yr undeb. Yn ystod ŵyl y glas, rheoli'r dorf a chwrdd â wynebau newydd ydy'r prif gyfrifoldebau.
Dywed fod yr undeb yn ymwybodol iawn o effaith costau byw cynyddol.
"Mae pob myfyriwr yn poeni. Mae popeth, o goffi lan i gostau rhent, mae popeth wedi cynyddu a mae just yn rhan o fywyd ar hyn o bryd os ydych chi yn y brifysgol neu na," meddai
"Mae cyfleoedd… iddyn nhw dderbyn arian trwy grantiau, trwy'r llywodraeth neu drwy'r brifysgol ei hun yn ogystal â chael swydd rhan amser.
"Nes i fe yn ystod fy nghyfnod i. Dwi'n gwybod mae'n anodd gweithio a jugglo gwneud gwaith [coleg], ond mae wastad cyfleoedd i wneud yr arian lan."
'Dewis personol iawn'
Yn cynnig teisennau cri er mwyn denu pobl i stondin y Gymdeithas Gymraeg mae Meleri Foster-Evans a Casi Jones, y ddwy yn eu hail flwyddyn yn y brifysgol.
Gwelodd Casi effaith costau byw yn ei blwyddyn gyntaf: "Mae wedi bod yn anodd efo'r prisiau'n cynyddu, ond mae'r brifysgol wedi bod yn dda iawn yn gwneud fatha brecwast am ddim, a digwyddiadau i helpu ni allan."
Ond ar ôl y costau uwch a tharfu llynedd yn sgil streics staff, ydy Meleri yn meddwl mai gwneud gradd oedd y dewis iawn?
"Mae'n anodd dweud achos mae 'na gymaint o bethau sy'n dod fewn iddo fo.
"I fi'n bersonol dwi'n credu bod o werth o, ond i rywun mewn sefyllfa gwahanol ella bod o ddim. Mae'n rhywbeth really personol iddyn nhw faswn i'n dweud."
Mae data diweddaraf UCAS yn dangos bod 10,470 o geisiadau prifysgol wedi'u derbyn gan fyfyrwyr 18 oed o Gymru.
Mae hynny 4% yn llai na llynedd.
Ond mae'n uwch na'r tair blynedd cyn y pandemig - 2017, 2018 a 2019.
Eleni cafodd 29.9% o'r boblogaeth 18 oed le mewn prifysgol, o'i gymharu â 32.4% y llynedd.
'Heriol cael swydd'
Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, fe waethygodd yr anghydfod diwydiannol rhwng Undeb y Prifysgolion a'r Colegau (UCU) a'u cyflogwyr, gan arwain at ganslo darlithoedd a seminarau.
Canslodd y rhan fwyaf o ganghennau lleol streic arall oedd wedi'i chynllunio ar gyfer wythnos y glas, er iddi fynd yn ei blaen ym Mhrifysgol De Cymru.
Ond mae'r UCU yn cynnal pleidlais arall ledled y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd gyda'r bwriad o weithredu ymhellach yn y flwyddyn academaidd hon.
Er bod boicot marcio ac asesu bellach wedi dod i ben, mae nifer o gyn-fyfyrwyr yn dal i aros am eu graddau terfynol.
Tri mis ar ôl graddio, dydy Martha Owen heb dderbyn ei marciau.
"Dwi 'di llwyddo cael rhywfaint o waith freelance ond mae wedi bod chydig bach o struggle heb gradd ar fy CV."
Mae Martha wedi ei dadrithio gan y profiad.
"Mae'r ffaith bod ni 'di gorfod mynd mewn i fyd gwaith heb radd ar ein dwylo ar ôl talu gymaint a gweithio gymaint tuag ato fo dros bedair mlynedd yn siom enfawr, a dylai ddim un myfyriwr gorfod mynd trwy hyn."
Mae ei ffrind Ellie Fitzgerald wedi cael ei derbyn ar gwrs ymarfer dysgu, ond wedi gorfod arwyddo cytundeb yn dweud fydd ganddi ei chanlyniadau yn llawn erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae'r profiad wedi wneud iddi gwestiynu "os ydy o werth cael gradd".
"Maen nhw'n gadael i ni fynd mewn i fyd gwaith heb radd, felly oes hynna faint o werth yn y gradd?"
'Byddwn i dal yn ei wneud o eto'
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd Prifysgolion Cymru, ei bod yn edrych ymlaen at gyfnod o "dawelwch" ar ôl blynyddoedd cythryblus yn y sector.
Ond fe wnaeth hi gydnabod fod prifysgolion hefyd yn wynebu gwasgfa ariannol a "chyfnod heriol iawn".
"Mae'r brifysgol yn wirioneddol bwysig iawn i'r unigolyn, i'r gymdeithas ac i'r economi. Rydyn ni'n mynd i fod angen mwy a mwy o raddedigion â sgiliau arbenigol," meddai.
"Rydyn ni'n gwybod ei fod yn arwain at incwm uwch ac rydyn ni'n gwybod ei fod yn gwbl hanfodol i ddatblygu swyddi'r dyfodol.
"Felly byddwn i'n dweud wrth fyfyrwyr, pobl ifanc, pobl sy'n chwilio am newid gyrfa - mae bendant yn werth mynd i'r brifysgol."
Er gwaetha'r costau a'r gofidion am streicio, yn Abertawe mae'r myfyrwyr yn ffyddiog eu bod wedi gwneud y penderfyniad iawn.
Mae Sioned Lewis Page, 19 o Frynaman, ar fin dechrau cwrs hanes a llenyddiaeth.
"Mae gen i swydd rhan amser i helpu allan ond mae dal yn straen. Fi'n gweithio mewn siop ac mae'n helpu fi i astudio'n well yn gwybod bod arian 'da fi os mae eisiau arian.
"Mae prifysgol yn rhoi gymaint o gyfleon i bawb a phrofiadau mae neb byth yn anghofio.
"Ydy mae fe'n galed - sa i'n mynd i ddweud celwydd, mae 'na lot o waith. Ond chi'n cwrdd â ffrindie a dysgu mor gymaint am dy hunan a be' ti'n gallu gwneud yn y dyfodol."
Mae Macsen hefyd dal i feddwl fod mynd i'r brifysgol yn rhywbeth werth ei wneud.
"Fel myfyriwr sydd wedi bod trwyddo fe gyd, rhwng Covid, costau byw, a nawr y streiciau blwyddyn diwethaf - trwy bopeth i gyd byddwn i dal yn ei wneud e eto."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2023
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2023