Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio dynes yn Aberarth

Swyddog yr heddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth menyw 45 oed yn Aberarth, Ceredigion.

Bu farw'r ddynes, sydd heb ei henwi, ddydd Llun 1 Gorffennaf.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un sydd "heb esboniad".

Mae dyn 51 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.

Mae dau ddyn, 65 a 29 oed, ac un fenyw 48 oed hefyd wedi eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae'r tri wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Pynciau cysylltiedig