Tîm merched Caerdydd i chwarae'n lled-broffesiynol

Tim Merched Dinas CaerdyddFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Merched Dinas Caerdydd y gynghrair yn 2022/23 heb golli'r un gêm

  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Merched Dinas Caerdydd wedi cadarnhau eu bod wedi cynnig cytundebau lled-broffesiynol i'w holl garfan ar gyfer y tymor nesaf.

Nhw fydd y tîm cyntaf yng Nghymru i gynnig cytundebau o'r fath i'w holl chwaraewyr, gyda'r clwb yn dweud eu bod yn "haeddu" hynny yn dilyn eu llwyddiant diweddar.

Tymor diwethaf fe enillodd Caerdydd y Genero Adran Premier, sef prif gynghrair merched Cymru, gan olygu y byddan nhw'n chwarae yn Ewrop eleni.

"Mae hon yn foment fawr i gêm y merched yng Nghymru, ac yn rhywbeth y gallwn ni fod yn hynod falch ohono fel clwb pêl-droed," meddai pennaeth pêl-droed merched y clwb, Iain Derbyshire, wrth sôn am y cytundebau.

Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd perchnogion Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, y byddan nhw'n gwneud tîm y merched yn lled-broffesiynol os oedden nhw'n sicrhau dyrchafiad i'r Adran Premier.

Fe lwyddodd y tîm i wneud hynny, ac maen nhw hefyd bellach wedi cynnig cytundebau lled-broffesiynol i 10 o'u chwaraewyr.