Merch yn ei harddegau wedi marw yn dilyn argyfwng meddygol
- Cyhoeddwyd
Mae merch yn ei harddegau wedi marw yn dilyn argyfwng meddygol yn Rhydaman dros y penwythnos.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw yn dilyn adroddiad o argyfwng meddygol yn y dref nos Wener.
Cafodd merch yn ei harddegau ei chludo i'r ysbyty ar ôl cael ei tharo'n wael, ond bu farw yn oriau mân fore Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu fod achos y farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad ar hyn o bryd, a bydd adroddiad yn cael ei baratoi i'r crwner.
Cadarnhaodd Clwb Rygbi Yr Aman fod y lle ar gau ddydd Sadwrn a bod gemau wedi eu gohirio.