'Cyfnod cyffrous' i seiclo merched yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Daniel Williams yn ymddiddori mewn seiclo, fel cefnogwr brwd ac fel rhywun sy'n seiclo ei hun.
Gymaint yw ei ddiddordeb yn y gamp ei fod yn cyflwyno podlediad o'r enw Pen y Pass, sy'n trafod popeth sy'n ymwneud â'r byd seiclo - y rasus mawr, clybiau bach, y dechnoleg a'r ffasiwn.
Mae Daniel, sy'n wreiddiol o Ddyffryn Nantlle ond sy'n byw yng Nghaerdydd ers sawl blwyddyn bellach, wedi gweld newid mewn agweddau tuag at seiclo.
'Mwy o sylw i ferched'
Un agwedd benodol sydd wedi datblygu'n ddiweddar, ac sydd wedi dal sylw Dan, yw'r twf o fewn seiclo merched.
"Mae ‘na lot o le i wella dwi’n meddwl, ond yn sicr mae 'na fwy o sylw yn cael ei roi i seiclo cystadleuol merched bellach.
"Mae’r Tour of Britain Merched, sy'n cael ei chynnal eto ar ôl blwyddyn i ffwrdd yn esiampl dda o hynny, efo dau gymal yma yng Nghymru.
"Mae 'na fersiynau merched o’r tri Grand Tour bellach (Tour de France Femmes, Giro d'Italia Donne a La Vuelta Femenina) a sawl ras fawr arall fel y Paris-Roubaix.
"O ran y twf yn gyffredinol, ac o ddilyn seiclo menywod a dynion ers rhai blynyddoedd bellach, byswn i'n dweud bod y bwlch rhwng seiclo dynion a menywod o ran sylw yn lleihau; mae seiclo menywod bellach ar safon cyfatebol, gyda llwyth o dalent newydd yn dod i'r amlwg."
Mae Daniel yn cydnabod pwysigrwydd yr elfen wirfoddol, gymunedol i lwyddiant y merched hefyd.
"Mae’r gwaith mae'r clybiau lleol yn ei wneud drwy gynnal rasys pwrpasol i ferched, hybu talent ifanc, cynnal diwrnodau agored a chynnal reidiau cymdeithasol i ferched yn unig yn hanfodol er mwyn annog mwy o ferched i ymddiddori yn y gamp.
"Pan 'nes i gyfweld Elinor Barker yn ystod Tour of Britain gofynnais iddi am ei hamser efo clwb Ajax Caerdydd pan oedd hi’n cychwyn seiclo yn gystadleuol yn ei harddegau.
"Dywedodd ei bod wedi dibynnu ar garedigrwydd pobl o fewn y clwb a oedd yn mynd â hi i rasys, neu roi benthyg beic time trial iddi gael cymryd rhan yn y Pencampwriaethau Byd Iau.
"Felly, mae’n dangos fod cefnogaeth fel 'na yn hanfodol ar gyfer hybu talent a ffeindio’r Barkers nesaf - fel mae clybiau Maindy Flyers a Towy Riders, er enghraifft, hefyd yn ei wneud."
Podlediad Pen y Pass
Mae podlediad Pen y Pass yn trafod pob math o bynciau gwahanol o fewn y byd seiclo, nid yn unig rasio ar lonydd.
"Dwi a Gruff ab Owain yn canolbwyntio ar bach o newyddion am rasys Taith Byd Dynion a Merched sydd wedi bod yn ystod y mis a fu, siarad â chlybiau seiclo o bob math (lôn, trac, a BMX hyd yn oed!) o bob rhan o Gymru.
"Da ni'n trafod technoleg a ffasiwn, sgyrsiau hirach, yn ogystal â rhai elfennau hwyl fel ceisio dod o hyd i’r olwynion mwyaf swnllyd yng Nghymru!
"Mae'n bodlediad sydd i fod yn anffurfiol ac yn hawdd i wrando arno, a’r nôd yw i apelio at bobl sydd ddim o reidrwydd yn hoffi seiclo hefyd.
"Yn y bennod ddiweddara' roedden ni’n siarad â Gruff Lewis, sy’n gyn-reidiwr proffesiynol, am ei yrfa seiclo a'r ffaith fod o bellach yn gweithio fel sylwebydd i S4C."
'Diffyg seilwaith'
Sut mae Daniel yn teimlo mae'r diwylliant seiclo Cymru yn ei gymharu â gwledydd y cyfandir, fel Yr Iseldiroedd neu Wlad Belg?
"Dwi’n meddwl fod o bach yn anodd cymharu Cymru â’r Iseldiroedd o ran diwylliant seiclo achos ma'r seilwaith (infrastructure) wedi ei adeiladu yno ers dros ganrif felly mae llawer mwy ingrained yn enaid y wlad.
"Dwi’n meddwl fod camau yn cael eu rhoi ar waith i drio gwneud hi’n saff i bobl neidio ar gefn beic yn hytrach na chymryd y car o hyd, ond mae angen y seilwaith ‘na yno i roi’r hyder i bobl sydd allan ar y beic fel eu bod nhw ddim yn gorfod ‘cystadlu’ efo'r traffig.
"Dwi’n teimlo bod gwledydd eraill yn trio ffeindio ffyrdd i 'neud i’r beic lwyddo, yn hytrach na 'neud hi’n haws i’r car lwyddo fel 'da ni'n gwneud."
"Mae buddsoddiad ariannol ar gyfer seilwaith a sylw gan Llywodraeth Cymru yn helpu yn sicr", medd Daniel.
"Dwi’n teimlo mai lonydd beicio ar wahân i draffig sy’n mynd i wneud i bobl gyffredin (sydd ddim yn seiclo lôn fel hobi) deimlo’n gyfforddus i fynd allan ar feic.
"Mae’r gwaith mae'r clybiau yn ei wneud yn hanfodol i roi hyder i bobl drio seiclo am y tro cyntaf, boed yn annog pobl i fynd allan efo’r clwb neu gynnal rwbath fwy bespoke.
"Mae’n medru bod yn frawychus mynd allan ar y ffordd fawr am y tro cyntaf felly, er enghraifft, mae Ajax Caerdydd yn cynnal pethau fel diwrnod i ferched yn unig sy’n rhoi’r cyfle i seiclo, heb draffig, o amgylch trac seiclo Maindy er mwyn dod i arfer â bod ar ddwy olwyn, heb gymaint o bwysau."
Ydy hi'n saff i seiclo yng Nghymru?
Oes 'na beryg i feicwyr yng Nghymru tra allan ar y ffordd?
"Mae’r pwnc yma o hyd yn mynd i achosi dadl, boed yng Nghymru, Prydain neu ar draws y byd.
"Beryg fydd o ddim yn cael ei ddatrys unrhyw adeg yn fuan! Mae modurwyr yn beio beicwyr, a vice versa.
"Os wyt ti’n sôn am bobl cyffredin, mae’n mynd yn ôl i’r ddadl am gael y seilwaith priodol i 'neud hi’n saff i feicwyr. Er dweud hynny, wyt ti o hyd yn mynd i gael pobl sydd yn mynd i fod isio seiclo ar y ffordd fel hamdden."
"Mae angen darganfod parch newydd o’r ddwy ochr ac mae angen newid meddylfryd pobl a’u hagwedd tuag at feicwyr", meddai Daniel.
"Mae o ddigon scary seiclo allan ar y lôn pan mae bocs metal mawr ar olwynion ochr yn ochr â chi sydd â’r gallu i’ch lladd chi, a weithiau dwi’n meddwl fod modurwyr yn anghofio hynny. Mae pawb o hyd ar frys, a dyma ydi natur dynol ryw yn yr oes yma bellach."
"Ond mae angen i’r beicwyr yn ogystal ddangos yr un parch yn ôl i fodurwyr wrth ufuddhau i’r un rheolau traffig; dwi’n meddwl fod hyn yn rhywbeth sy’n medru blino modurwyr a rhoi enw drwg i feicwyr.
"Mae’n hawdd anghofio weithiau nad ydyn ni yn y Tour de France a bod ni allan ‘na i gadw’n heini, gwella ein hunain a mwynhau!"
Gobaith i Geraint? Sêr y dyfodol?
Oes gan Geraint Thomas siawns o ennill y Tour eleni?
"Os ydy ei berfformiad yn y Giro a gorffen yn y trydydd safle yn unrhyw arwydd o’i gyflwr, yna mae ‘na obaith," meddai Daniel.
"Ond dwi’n meddwl y bydd dod o fewn yr ugain uchaf yn fwy realistig iddo eleni. Dwi’m hyd yn oed yn meddwl mai mynd am y dosbarth cyffredinol fydd cynllun y tîm ar ei gyfer.
"Dwi’n gobeithio allai gael fy mhrofi yn anghywir! Ond dwi'n teimlo fod gymaint o reidwyr cryf fel Pogačar (enillydd y Giro eleni), Vingegaard (enillydd y ddau Tour diwethaf) a hyd yn oed Carlos Rodriguez yn nhîm INEOS ei hun, mae am fod yn anodd i Geraint gyflawni mwy na helpu, yn enwedig hefo Grand Tour yn ei goesau yn barod eleni.
"Rhaid sôn am Stevie Williams o Aberystwyth fydd hefyd ar y Tour eleni. Mae o wedi cael blwyddyn anhygoel hyd yma felly dwi wir yn gobeithio am Tour da iddo!"
Beth am y dyfodol? Oes seren byd-enwog arall ar y gorwel?
"Mae’n anodd dweud. Mae Josh Tarling, hefyd o dîm INEOS, newydd ennill Pencampwriaeth Prydain Ras yn Erbyn y Cloc am yr eildro felly mae’n sicr yn reidiwr talentog iawn o Gymru, ac mi fydd yng Ngemau Olympaidd Paris.
"Ond efo reidwyr ifanc fel y chwiorydd Bäckstedt, Eluned King, Awen Roberts a Lowri Richards yn ogystal â rhywun mwy profiadol fel Elinor Barker, mae seiclo merched yn edrych yn llawer mwy addawol a chyffrous o ran y sêr nesaf yn fy marn i."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd10 Mai
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd15 Mai