Ehangu cynllun ‘Doctoriaid Yfory’ i ddenu siaradwyr Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae yna gynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr meddygaeth yng Nghymru sy’n astudio rhan o’u cwrs yn y Gymraeg, yn ôl gwaith ymchwil gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Fe gafodd cynllun ‘Doctoriaid Yfory’ ei sefydlu gan y Coleg Cymraeg yn 2017 er mwyn ceisio hybu hynny.
Mae Elin Bartlett yn ei phedwaredd blwyddyn yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Dechreuodd ar y cynllun pan oedd hi’n 16 oed.
Dywedodd na fyddai wedi gallu ymgeisio am y brifysgol "heb gynllun Doctoriaid Yfory yn y lle cyntaf".
'Gorfod gwneud penderfyniadau mor ifanc'
Dechreuodd Elin ar y cynllun pan oedd hi’n 16, a dywedodd nad yw pobl "wir yn gwerthfawrogi faint mae hi’n cymryd i gyrraedd y brifysgol yn y lle cyntaf".
"Fyswn i wir heb allu ymgeisio am y brifysgol heb gynllun Doctoriaid Yfory, yn enwedig yng Nghymru.
"Oedd o wir mor gefnogol, oeddech chi’n dod i adnabod pobl eraill oedd yn ymgeisio ond hefyd darlithwyr ‘dan ni dal mewn cysylltiad hefo hyd heddiw.”
I Elin roedd gallu gwneud cysylltiad buan gyda mentoriaid a darlithwyr yn bwysig wrth iddi wneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
“’Da ni’n gorfod gwneud penderfyniadau mor ifanc. Mae cynlluniau fel Doctoriaid Yfory wir yn rhoi blas i bobl ifanc o be' mae’r yrfa yn cynnwys a’r gwahanol gyfleoedd sydd ar gael, yn enwedig i rywun fel fi sy’n dod o deulu lle does neb yn gweithio yn y maes."
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd12 Medi 2016
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
Cafodd y cynllun ‘Doctoriaid Yfory’ ei sefydlu ym Mhrifysgol Caerdydd yn wreiddiol, ac erbyn hyn mae’r cynllun wedi ehangu i brifysgolion Abertawe a Bangor.
Mae'r Athro Rhian Goodfellow, Cyfarwyddwr Rhaglen Feddygol C21 ym Mhrifysgol Caerdydd o'r farn fod "ishe denu mwy o fyfyrwyr o Gymru i geisio astudio meddygaeth ac mae’r cynllun yma wedi agor y drws i hynny".
Dywed fod y cynllun yn gadael i bobl "weld beth yw bod yn feddyg, gwybod beth yw’r disgwyliadau, pa bynciau i astudio fel lefel A, a hefyd dod i’r brifysgol i gael gweld beth mae’n myfyrwyr ni’n gwneud.”
Mae data sy’n mesur llwyddiant y cynllun yn dangos bod nifer y myfyrwyr sy’n dewis astudio rhan o’u cwrs meddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu ers ei sefydlu.
Rhwng 2017 a 2022 roedd nifer y rhai oedd wedi dewis astudio 40 credyd o’r cwrs wedi cynyddu o 20 i 105, a’r rhai oedd wedi dewis astudio o leiaf pum credyd wedi codi o 70 i 125.
Mae nifer y myfyrwyr o ysgolion Cymraeg a dwyieithog sydd wedi derbyn lle i astudio mewn ysgol meddygaeth yn un o brifysgolion Cymru hefyd wedi cynyddu ers sefydlu’r cynllun – gyda chanran y rhai sy’n cael eu derbyn ar y cyrsiau wedi cynyddu 25% rhwng 2017 a 2022.
Erbyn hyn, mae’r llwyddiant wedi arwain at sefydlu cynllun newydd i gynyddu’r ddarpariaeth ddwyieithog mewn swyddi eraill ym maes iechyd a gofal.
Gweithwyr Iechyd Yfory ydy enw’r cynllun sy'n mentora myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg i ymgeisio am le ar y cyrsiau mwyaf cystadleuol yn y maes iechyd a gofal.
Bydd y cynllun newydd yn cynnwys nifer o bynciau fel ffisiotherapi, bydwreigiaeth, fferylliaeth a therapi iaith a lleferydd.
Dywedodd Dr Gwenllian Owen, Uwch Reolwr Addysg Uwch y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “’Ni’n gwybod bod heriau yn wynebu'r sector iechyd o ran recriwtio a chadw staff felly ni’n falch iawn bod ni’n gallu cyfrannu at geisio gwyrdroi hynny trwy ddenu rhagor o siaradwyr Cymraeg at gyrsiau meddygol.
"Felly ni’n ymestyn y cynllun eleni i gynnwys meysydd eraill fel ffisiotherapi a fferylliaeth."
Aeth ymlaen i ddweud eu bod yn "dilyn y myfyrwyr sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun ar y cwrs a hefyd tu hwnt yn y byd gwaith felly maen nhw yn teimlo yn rhan o gymuned ac yn barod iawn i roi yn ôl at y cynllun fel mentoriaid felly ’dan ni’n hyderus bod y cynllun wedi cyfrannu at y llwyddiant o ran cynnydd y niferoedd".
Croesawu datblygiadau i'r maes
Fel un sy'n astudio i ddilyn gyrfa yn y maes, mae Elin yn croesawu’r datblygiad.
“Mae meddygaeth yn angenrheidiol i gael tîm o’ch cwmpas. Does yr un gweithiwr iechyd yn gallu gweithio heb y llall felly mae mor bwysig bod y cynllun hwn yn ehangu er mwyn pwysleisio’r ffaith bod pawb yn gweithio fel tîm.”
Yn ôl Elin, nid y myfyrwyr eu hunain sydd ar eu hennill ond mae gallu darparu gwasanaeth yn y Gymraeg hefyd yn bwysig i gleifion.
“Mae’n bwysig i ni ddefnyddio’r Gymraeg, ond yn fwy na dim mae’n bwysig i’n cleifion ni achos mae gan bawb yr hawl i dderbyn gofal iechyd yn eu hiaith gyntaf.
"Mae’n bwysig i ni fel myfyrwyr a hefyd meddygon a phob gweithiwr iechyd allu cynnig y gofal yna iddyn nhw drwy’r Gymraeg felly mae cael cynllun fel yma sy’n hybu’r iaith o fewn y maes yma yn hollol angenrheidiol.”