Ateb y Galw: Iestyn Tyne
- Cyhoeddwyd
Iestyn Tyne ydi Bardd y Dre' cyntaf Caernarfon.
Fe fydd y bardd o Ben Llŷn, sydd wedi byw a gweithio yn ardal Caernarfon ers chwe blynedd, yn cyflwyno pum cerdd wreiddiol y flwyddyn, am weddill tymor y cyngor tref.
Ond yn ddiweddar mae wedi bod yn crafu ei ben yn pendroni sut i ateb rai o gwestiynau BBC Cymru Fyw...
Beth yw eich atgof cyntaf?
Cario oen bach du yr holl ffordd o waelod y cae i'r buarth yn Nhy'n y Mynydd pan o'n i, mae'n siwr, tua thair oed.
Yr unig oen du a anwyd yn Nhy'n y Mynydd yn y chwarter canrif y bu fy rhieni'n ffermio yno; fy nafad i oedd honno byth wedyn. Yn yr atig, mae gen i lond sach o'i gwlân, yn aros i gael ei weu yn siwmper, am wn i (gweler yr ateb i'r cwestiwn am arferion drwg).
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Mae gweld gwlad Llŷn wedi'i thaenu o 'mlaen wrth ddod trwy Fwlch yr Eifl wastad yn teimlo fel dychwelyd; ond mae'n anodd sbïo heibio – na gwahaniaethu rhwng – y ddwy dref arfordirol sydd wedi bod yn gartref i mi dros y ddegawd ddiwethaf, Aberystwyth a Chaernarfon.
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Noson genedigaeth ein merch yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Gyrru nôl am bedwar y bore am nad o'n i'n cael aros ar y ward, ac amau a o'n i'n ffit i fynd yn y car oherwydd fy mlinder. Cyrraedd i'r tŷ tawel wedi golau gwyn yr ysbyty, a holl arwyddion y newydd-ddyfodiad yn eu lle, yn barod i'w chroesawu hi a Sophie adra drannoeth.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Gorbryderus. Egwyddorol. Gweithgar.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Dwi'n ffodus o gael dweud fod yna lawer o'r rhain. Mae cael mynd â llenyddiaeth neu gerddoriaeth ar daith wastad yn esgor ar bob math o straeon abswrd.
Un sy'n sefyll allan yn y co wrth feddwl rŵan ydi taith Pendevig yn haf 2018 – cyfres o gigs gwyllt allan yn yr ŵyl Ryng-Geltaidd yn Lorient, Llydaw; cyn dychwelyd dros y dŵr at gynulleidfa lawn llwyfan pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yng Nghanolfan y Mileniwm. A chyn hynny, recordio dwy albym mewn wythnos – ddydd a nos – yn stiwdios Rockfield yn Sir Fynwy.
Dyma fi'n pastynu yn live room eiconig Rockfield, sydd i'w weld yng nghefndir clawr sengl gyntaf Oasis, Supersonic:
Mae Pendevig yn fand mawr, lliwgar, swnllyd, a dwi'n cyfri'n hun yn ffodus iawn o fod yn rhan fach o'r bwystfil! 'Dan ni wedi perfformio unwaith ers y cyfnodau clo, a hynny ar brif lwyfan Gŵyl Werin yr Amwythig yn haf 2021. Wnawn ni eto? Wn i ddim. Ond dwi'n dal i obeithio, yn enwedig gan fod yna lond albym o ddeunydd recordion ni saith mlynedd yn ôl sydd dal heb weld golau dydd.
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2019
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Dwi'n difaru sawl sefyllfa lle na lwyddais i gymodi â rhywun yn dilyn anghydfod. Ambell gelwydd (nid rhai golau) a cham gwag. 'Cywilydd' oedd testun y gadair pan enillais i yn yr Urdd, a'r argyfwng hinsawdd oedd gen i dan sylw yn y cerddi hynny. Dwi'n dal i gywilyddio at yr hyn rydan ni'n ei wneud i'r blaned ac i'n gilydd.
O ran yr hyn ro'n i'n ei deimlo yn y foment (dwi ddim yn cywilyddio o gwbl wrth edrych yn ôl), efallai mai un sy'n sefyll allan yn y cof ydi cael pwl o banig yn ystod sgwrs banel yng Ngŵyl y Gelli, a gorfod gadael y llwyfan yn ddiesboniad ar ganol ateb cwestiwn gan aelod o'r gynulleidfa.
Hwn oedd fy nigwyddiad byw cyntaf o flaen llond stafell o bobl ers dechrau 2020, a chyn y cyfnod clo ro'n i'n medru cymryd rhan mewn digwyddiadau o'r fath heb lawer o baratoi – ei 'wingio hi' yn hyderus. Ond hyd yn oed gyda nodiadau manwl o 'mlaen, yn y Gelli aeth y cyfan o 'ngafael, fel pe bai rhywun wedi mynd â sugnydd llwch drwy f'ymennydd.
Mae o'n brofiad brawychus – peidio gwybod dim oll, mwya sydyn; ac yn yr eiliad honno, gyda sylw pawb wedi'i hoelio arna i, ro'n i am i geudwll agor yn y ddaear i fy llyncu i. O'r golwg, mi ges i ddiod o ddŵr, canolbwyntio ar anadlu, ailadrodd fy affirmations, a dod ataf fy hun yn ara bach.
Dychwelyd i'r llwyfan ymhen rhyw 10 munud, a gorffen ateb y cwestiwn yn lled-huawdl. Roedd o'n gadarnhad nad oeddwn i'r un un wedi profiadau'r blynyddoedd a fu, ond 'mod i hefyd wedi dechrau dysgu sut i ddygymod â'r realiti newydd hwnnw.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Dwi'n crïo'n aml iawn, gan fwya os ydw i dan bwysau neu'n methu gweld y ffordd ymlaen. Mi fydda i'n dueddol hefyd o fynd yn emosiynol iawn wrth ddarllen cerdd dwi wedi'i sgwennu ar goedd am y tro cynta – gweithred fewnblyg ydi'r barddoni ei hun; mae ei roi o flaen cynulleidfa yn tueddu i blicio pob haen o amddiffyniad oddi ar y lle bregus y bu'n rhaid mynd iddo i farddoni'r profiad.
Ond yn ddiweddar, rhywbeth sgwennodd rywun arall ddaeth â dagrau i'r llygaid. Roeddwn i'n pori mewn llythyrau yn y Llyfrgell Genedlaethol cyn y Nadolig wrth ymchwilio tuag at fy llyfr diweddaraf, a dyma faglu ar fynegiant annisgwyl i'r hyn ro'n i wedi bod yn chwilio amdano – ennyd o eglurder mewn dryswch o emosiynau. Roedd yn rhaid i mi adael y papurau dros y bwrdd yn yr ystafell ddarllen, a mynd am goffi ac awyr iach i sadio.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Aml un, ond fel enghraifft, dwi'n greadur sy'n dueddol o hel lot o stwff o 'nghwmpas, a chadw pob math o drugareddau 'rhag ofn' y bydd eu hangen rhyw ddydd.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
A finnau newydd orffen sgwennu llyfr am ei gerdd enwocaf, mi fyddwn i'n mynd am beint i un o dafarndai clyd Caernarfon neu Aberystwyth yng nghwmni'r bardd a'r newyddiadurwr E. Prosser Rhys.
Yn rhyfedd iawn, nid o reidrwydd y cyfle i'w holi am ei fywyd a'i waith sy'n apelio fwyaf, ond cael rhoi llais i'r wyneb a'r cymeriad y bûm i'n ei astudio cyhyd. Bu farw'n ifanc ym 1945 a hyd y gwn i, does dim recordiad ohono'n siarad yn bodoli yn unman.
Roedd sôn fod ganddo lais soniarus iawn, a dwi'n siwr y byddai'i glywed yn darllen detholiadau o sonedau Atgof yn wefreiddiol.
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2021
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae clywed sŵn felcro yn gwneud i 'nhrwyn i gosi. Er mynych ŵglo, tydw i erioed wedi dod o hyd i esboniad. Hefo todlar yn y tŷ mae 'na fwy o felcro yma nag y bu ac felly mae 'nhrwyn i'n cosi'n amlach.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Cael pwl mawr o banig am y peth a methu â gwneud dim, siwr o fod.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Dyma Nansi yn cyrraedd y copa cyntaf iddi gerdded bob cam ato, rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd sydd newydd fod. Mae Sophie a finnau wastad wedi mwynhau cerdded y mynyddoedd a'r arfordir ond mae pethau wedi arafu gydag un bach hefo ni, felly roedd gallu rhannu'r profiad hefo hi'n teimlo fel carreg filltir fach.
Enw'r bryn ydi Cefn Du, ac mae'n codi y tu cefn i'n cartref newydd yn y topiau uwchlaw pentref Waunfawr, lle rydym wedi ymgartrefu ers rhyw chwe mis. Ar drothwy blwyddyn newydd, roedd bod yn y fan honno yn herio'r gwynt gyda'r bobl bwysicaf, yn weithred iachusol, llawn gobaith.
Y dydd o'r blaen, a ninnau'n teithio yn y car i gyfeiriad Pen Llŷn, roedd llais bach o'r cefn yn gofyn am enw pob copa ar hyd y ffordd. Mae gen i gerdd yn Saesneg i blant sy'n olrhain copaon yr un daith, ac mae meddwl ei bod hithau'n dechrau cymryd diddordeb yn siâp y dirwedd o'i chwmpas yn llonni'r enaid.
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Byddai cael gweld y byd am ychydig trwy lygaid fy merch fach dair oed yn f'atgoffa fod pethau sy'n ddim i mi yn gallu bod yn bethau anferth iddi hi. Dyma rydw i'n ceisio ei wneud bob dydd, ond dwi'n methu weithiau.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
- Cyhoeddwyd13 Ionawr