Cory Hill: Dynes wedi trafod profiad 'dychrynllyd' gyda Gatland

Hill a GatlandFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gatland ei fod wedi gwneud camgymeriad wrth ddewis Cory Hill fel capten

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes gafodd ei thŷ wedi’i ddifrodi gan grŵp o ddynion - oedd yn cynnwys chwaraewr rygbi Cymru, Cory Hill - yn dweud iddi sôn am effaith “ddychrynllyd” hyn wrth Warren Gatland mewn cyfarfod y llynedd.

Dywedodd y ddynes, sydd ddim am gael ei hadnabod, ei bod “wedi siomi ac mewn sioc” pan wnaeth Gatland enwi Hill fel capten Cymru’r wythnos hon.

Gall BBC Cymru ddatgelu fod cyfarfod wedi digwydd rhwng y ddynes, Gatland, a Chyfarwyddwr URC Nigel Walker yn y Senedd ym mis Mai 2023.

Ddydd Gwener fe ymddiheurodd Gatland am ddewis Hill fel capten, ar ôl i’r chwaraewr dynnu yn ôl o’r tîm cyn y gêm am “resymau personol”.

Fe wnaeth Sara – nid ei henw iawn – siarad mewn cyfweliad arbennig gyda BBC Cymru, a dydyn ni ddim yn datgelu pwy ydy hi er mwyn gwarchod ei phlant.

‘Ofn am ei bywyd’

Roedd Sara eisoes wedi sôn am sut y bu hi ofn am ei bywyd hi a’i phlant pan achosodd y grŵp o ddynion, gan gynnwys Hill, ddifrod i’w thŷ ym mis Mai 2021.

Dywedodd Sara ei bod hi’n gallu clywed “sŵn curo anferth drosto a throsto” wrth ei drws ffrynt.

Fe wnaeth ei merch ofyn iddi mewn ofn, “mam, oes ‘na bobl yn trio cael aton ni?”

Dywedodd ei bod hi’n swnio fel bod rhywun yn defnyddio gordd (sledgehammer) i guro ar ei drws, a’i bod hi’n ofni bod “rhywun yn dod i’n lladd ni”.

Yn 2021 fe ddywedodd Heddlu’r De fod y mater wedi’i ddatrys drwy “gymodi cymunedol”.

Dywedodd llefarydd ar ran Cory Hill ar y pryd fod y grŵp wedi mynd i’r “tŷ anghywir”, ac ymddiheuro.

Yr haf hwnnw, cyhoeddwyd bod Cory Hill yn gadael y garfan genedlaethol a’i gytundeb hir dymor gyda Chaerdydd ar unwaith, i chwarae yn Japan.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cory Hill mewn cynhadledd i'r wasg ei fod yn difaru'r hyn ddigwyddodd

Dros yr haf eleni, cafodd Hill ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer eu taith i Awstralia.

Fe ymddangosodd fel eilydd yn y ddwy golled ddiweddar yn erbyn Awstralia yn Sydney a Melbourne.

Ond yn gynharach yr wythnos hon fe gyhoeddodd Warren Gatland y byddai Hill yn gapten yn y gêm yn erbyn Queensland Reds.

Ddydd Mercher dywedodd Hill wrth y cyfryngau fod yn flin ganddo am beth ddigwyddodd.

“Ydw i’n difaru fe? Ydw, wrth gwrs,” meddai. “Fe wnes i gamgymeriad a fi’n sori."

'Fi wedi bod yn onest ac yn agored'

“Mae ymateb negyddol wastad am fod i gamgymeriadau mae rhywun wedi’i wneud yn y gorffennol.

“Fi wedi bod yn onest ac agored fan hyn. Fe wnaeth yr awdurdodau a’r clwb ddelio gyda hyn dair blynedd yn ôl.

"Fi’n dal fy nwylo lan ac yn flin am beth ddigwyddodd.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Hill ymuno â'r Yokohama Canon Eagles ar ôl gadael Caerdydd

Ddydd Iau fe ofynnodd BBC Cymru i Undeb Rygbi Cymru am ymateb i sylwadau Sara.

Ddydd Gwener fe gyhoeddwyd bod Cory Hill wedi tynnu yn ôl o’r gêm am “resymau personol”.

Wedi’r ornest fe ddywedodd Warren Gatland ei fod wedi gwneud camgymeriad wrth ei enwi’n gapten.

Cyfarfod yn 2023 i drafod y sefyllfa

Nawr all BBC Cymru ddatgelu bod Sara wedi cyfarfod gyda Gatland a Chyfarwyddwr Gweithredol Rygbi URC, Nigel Walker yn y Senedd ym mis Mai 2023.

Roedd y penderfyniad i enwi Hill yn gapten eisoes wedi bod yn ddadleuol ymhlith cefnogwyr, ond nawr mae cwestiynau pellach am benderfyniadau URC yn sgil y cyfarfod hwn.

Mewn sgwrs agored, dywedodd Sara iddi ddisgrifio i’r dynion sut oedd y digwyddiad yn dal i effeithio ar ei hiechyd hi a’i merch.

“Fi’n cofio wyneb Warren Gatland, o’dd e’n edrych mewn sioc pan nes i ddechrau rhannu gyda fe beth oedd fy mhrofiad i a’r plant,” meddai.

“Doedd e methu credu’r peth.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sara fod Gatland "mewn sioc" pan glywodd ei disgrifiad o'r digwyddiad

Mae Sara'n dweud bod ei merch hynaf yn dal i ddeffro “mewn arswyd ac yn crynu”, a'i bod hi a’i merch yn dal i gael therapi yn dilyn y digwyddiad.

“Nes i ddweud wrthyn nhw am yr effaith gafodd e arnon ni i gyd. O’n i’n upset iawn yn y cyfarfod yna,” meddai.

Dywedodd Sara fod y ddau ohonyn nhw’n ceisio ei darbwyllo hi i “faddau” wrth Hill, ond bod Gatland yn dangos “cydymdeimlad”.

Ychwanegodd Sara mai ei “hargraff gref” hi o’r cyfarfod oedd bod “dim ffordd yn ôl” i Hill chwarae dros Gymru, ond mae’n cydnabod na wnaeth yr un o’r ddau ddweud hynny’n blaen.

“Roedd Warren Gatland yn edrych mewn anobaith ar y pwynt yna,” meddai.

Dywedodd Sara nad oedd hi’n credu y byddai Hill yn chwarae dros Gymru yn dilyn y cyfarfod.

“Ro’n i’n teimlo fel bod popeth ar ben, felly pan nes i ddarganfod eu bod nhw wedi gwneud tro pedol ar y teimlad yn y cyfarfod yna, sut ddaeth e i ben, ro’n i mewn sioc lwyr,” meddai.

Mae’n teimlo bod enwi Hill yn gapten wedi “baeddu” y rôl.

Ddydd Mercher fe ddywedodd Gatland fod Hill wedi cael y gapteiniaeth ar ôl ystyried yn ddwys.

“Dywedodd Cory wrtha i ei fod wedi gwneud camgymeriad dair blynedd yn ôl a’i fod yn difaru beth ddigwyddodd – mae dynion ifanc yn gwneud camgymeriadau,” meddai.

Ond yn dilyn y gêm yn erbyn Queensland Reds, fe gyfaddefodd Gatland ei fod wedi gwneud camgymeriad wrth enwi Cory Hill.

“Fe ddaeth Cory ata i a dweud ei fod e’n tynnu mas o’r gêm am resymau personol,” meddai Gatland.

“Felly roedd rhaid i fi barchu ei benderfyniad i wneud hynny.

“Fe wna i roi fy llaw lan a dweud mae’n siŵr na ddylen i wedi ei roi e yn y sefyllfa yna.

“Nes i ei ddewis ar sail beth mae’n ei wneud mas fan yna. Penderfyniad rygbi oedd e gen i.”

Disgrifiad o’r llun,

Doedd Sara ddim am ddefnyddio ei henw cywir er mwyn amddiffyn ei phlant

Mae cwestiynau nawr yn cael eu holi ynghylch pam y gwnaeth Gatland enwi Cory Hill fel capten, wedi iddo siarad gyda Sara y llynedd am yr effaith roedd y digwyddiad yn parhau i’w gael arni hi a’i merch.

Dywedodd Sara mai’r “peth iawn” oedd bod Hill wedi camu o’r neilltu fel capten, ond mae’n cwestiynu pam gafodd y penderfyniad hwnnw ei wneud yn y lle cyntaf.

“Fi’n meddwl bod y peth iawn wedi digwydd, ond mae e dal yn broblematig iawn bod e hyd yn oed wedi cael ei ystyried yn y lle cyntaf,” meddai.

“Fi eisiau teimlo’n hyderus bod nhw am newid eu ffordd o feddwl.”

Ychwanegodd Sara ei bod hi wedi “siomi” yn Gatland.

“Fe wnaeth e gwrdd gyda fi ym mis Mai 2023, wyneb i wyneb, ac fe gafodd e gyfle i wneud y penderfyniad iawn a chadw at egwyddorion URC ar ôl i fi rannu fy mhrofiad gyda fe wyneb i wyneb,” meddai.

“Ro’n i’n meddwl bydde fe, ond wnaeth e ddim, a fi’n tu hwnt o siomedig.”

‘Cwestiynu’r camau’

Heledd Fychan AS wnaeth drefnu’r cyfarfod rhwng Sara, Gatland a Walker, ac roedd hi’n bresennol yn y drafodaeth.

Dywedodd ei bod hi’n “siomedig” na wnaeth URC gysylltu gyda Sara i ddweud wrthi fod Hill yn cael ei wneud yn gapten, o ystyried pa mor gryf oedd yr hyn oedd ganddi i’w ddweud yn y cyfarfod.

“Mae’n fy mhoeni i nad ydy o’n edrych fel bod gan URC y prosesau mewn lle i sicrhau bod tystiolaeth fel un Sara yn cael ei wrando arno,” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Heledd Fychan AS wnaeth drefnu’r cyfarfod rhwng Sara, Gatland a Walker, ac roedd hi’n bresennol yn y drafodaeth

“Mae hi wedi bod yn gyfnod pryderus iawn, ac anodd dwi’n siŵr i Sara a Cory Hill i gael hyn i gyd yn ôl yn y cyfryngau, yr holl negyddoldeb.

“Mi ydw i’n cwestiynu’r camau gafodd eu cymryd gan Warren Gatland i wneud Cory Hill yn gapten, sydd wedi gorfodi Sara i ail-fyw ei thrawma, mynd dros y stori eto – ac i Cory Hill orfod dod dan y chwyddwydr hefyd dros rywbeth ddylai fod yn foment fawr yn ei fywyd.

“Dwi’n gobeithio bod URC yn adlewyrchu ar beth sydd wedi digwydd. Yn amlwg mae ‘na rywbeth wedi mynd o’i le, ac mae lle i wella heb os.”

Disgrifiad o’r llun,

"Rydyn ni'n cyfaddef ein bod ni wedi cael hwn yn anghywir," medd Nigel Walker

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi URC, Nigel Walker ei fod yntau'n cytuno bellach na ddylai Cory Hill fod wedi cael ei ddewis yn gapten.

"Mae 'na bethau tu allan i rygbi ddylai efallai wedi bod yn rhan o'r sgwrs, a bydd hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n ystyried wrth symud ymlaen.

"Rydyn ni'n cyfaddef ein bod ni wedi cael hwn yn anghywir.

"Y peth pwysig yw sylweddoli ein bod ni wedi gwneud camgymeriad, a chyfaddef hynny, lle yn y gorffennol falle fydden ni heb."

Ychwanegodd nad oedd URC yn "berffaith" ond eu bod nhw'n ceisio gwella.

Dywedodd eu bod nhw hefyd yn fodlon cynnig cymorth i Sara, gan ymddiheuro iddi.

"Rydw i'n flin am y boen ychwanegol sydd wedi dod o ganlyniad i'r penderfyniad cwpl o ddyddiau yn ôl," meddai.

Ychwanegodd bod Hill hefyd yn "dioddef" ar ôl gadael y tîm.