'Cael canser wedi bod yn achubiaeth i fi'

Laura Butcher Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Laura Butcher ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw o Borthcawl wedi dweud bod "cael canser wedi bod yn achubiaeth" iddi.

Mae Laura Butcher yn athletwr brwd, yn cymryd rhan mewn cystadlaethau triathlon.

Mae newydd gael gwybod y bydd hi’n cael cyfle i gynrychioli Cymru, a thîm Prydain dros y misoedd nesa'.

Ond nid oedd hyn yn teimlo fel breuddwyd bosib rai blynyddoedd yn ôl, wrth iddi frwydro canser y coluddyn.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Laura bod ei bywyd wedi "stopio mewn eiliad" ar ôl y diagnosis

Wrth edrych nôl ar y cyfnod, fe esboniodd: “Awst 2020 o'dd e, es i mas triathlon training, a nes i gwympo off y beic, a thorri collarbone fi.

"Es i i’r ysbyty, 'naethon nhw rhoi fi ar medication am nerve damage i’r collarbone a nes i ffeindio bo' fi methu mynd i’r tŷ bach.

"Dyna sut ddechreuodd pethe.”

Cafodd mam Laura ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2010, ac o ganlyniad roedd hi’n ymwybodol iawn o’r symptomau

“Es i nôl at y doctor a gofyn am brawf gwaed, ar ôl sylwi bo fi’n gwaedu wrth fynd i’r tŷ bach.

"Ges i fy anfon am fwy o brofion, ac ie, yn y diwedd, dyma nhw’n dweud wrtho fi ‘I’m really sorry Laura you’ve got rectal cancer.’

"'Naeth bywyd fi stopio mewn eiliad."

'O'n i angen rhywbeth i gadw fi fynd'

Dywedodd ei bod "wedi mynd mewn i sioc am tua thri diwrnod".

Fe gychwynnodd driniaeth IVF yn 2021 "i arbed wyau fi, achos o’n i’n sengl ac o'dd dim plant gyda fi".

Dywedodd iddi gychwyn "radiotherapi am bum diwrnod ym mis Tachwedd, a syth ar ôl hynny nes i ddechre cemotherapi - chwech cycle 'naeth bara tua pum mis".

Gwneud ymarfer corff fyddai’r peth olaf ar feddyliau nifer o bobl ar ôl cael diagnosis o’r fath, ond roedd Laura yn benderfynol o barhau i hyfforddi.

“Fi’n stwbwrn! O'n i angen rhywbeth i gadw fi fynd," meddai.

"O’n i ddim isie jyst eistedd yn y tŷ yn meddwl am y canser a beth oedd yn mynd i ddigwydd, os o’n i’n mynd i farw.”

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Laura yn cynrychioli tîm Prydain ym mhencampwriaeth triathlon y byd i athletwyr amatur

Fe ddechreuodd Laura hyfforddi am oriau, saith diwrnod yr wythnos.

Doedd dim modd iddi gystadlu wrth gael triniaeth, ond pan orffennodd y driniaeth, fe aeth hi ati’n syth i gystadlu.

"Nes i hanner Iron Man yn Abertawe, nes i Aquathon chwe diwrnod wedyn, sef nofio ac wedyn rhedeg, a nes i qualifio i fod yn rhan o Dîm Tri Cymru.

"Nes i gystadleuaeth aquabike wedyn, sef triathlon heb y rhedeg a nes i qualifio am dîm GB.

“Yn y space o wyth i naw o’n i 'di mynd o heb neud unrhyw ras triathlon i qualifyo am dîm Cymru a thîm GB.

"O’n i’n cymryd e i’r extreme ond o'n i angen ffocws ar ôl cael y diagnosis.”

'Ro'n i angen y canser'

Mae profiad pawb o ganser yn wahanol, ond mae Laura yn edrych ar y profiad fel un positif.

“Mae’n swnio’n rhyfedd, ond mae cael canser wedi bod yn achubiaeth i fi - o'dd e’n make or break i fi.

"Dwi weithie’n dweud o’n i angen y canser, o'n i angen rhywbeth i pwsho fi.

"'Naeth y canser helpu fi i sylweddoli be o'n i moyn 'neud yn fy mywyd i. Triathlon oedd hwnna - 'naeth e safio fi.

"O'n i ddim yn sylweddoli pa mor resilient o’n i tan i fi gael canser. Dwi 'di llwyddo i droi cyfnod tywyll iawn yn rhywbeth positif nawr.”

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Laura gyda'i bag stoma dros dro ar ôl ei llawdriniaeth

Mae Laura yn dal i gael problemau gyda’i stumog a’i choluddyn, ond ym mis Gorffennaf bydd hi’n cynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth Aquathon Prydain i athletwyr amatur.

Yna yn yr hydref fe fydd hi’n cynrychioli tîm Prydain ym mhencampwriaeth triathlon y byd i athletwyr amatur rhwng 40 a 44 oed.

“Dwi dal yn cael lot o broblemau efo stumog a bowels fi, ond dwi’n trio edrych i’r dyfodol yn bositif," meddai.

"Bydd e’n dda i gwisgo siwt triathlon gyda big red dragon arno fe - bydd hwnna’n rili cŵl.

"Mae’r world championships yn mynd i fod yn once in a lifetime opportunity. Dwi’n edrych ymlaen.”

Pynciau cysylltiedig