Sut mae sicrhau mwy o reolwyr busnes benywaidd?
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwella’r gefnogaeth i fenywod allu dod yn arweinwyr ym myd gwaith, yn ôl pennaeth cwmni glanhau blaenllaw.
Dywedodd Rachael Flanagan, wnaeth sefydlu Mrs Buckét, bod angen cynnig oriau gwaith hyblyg a gwella argaeledd gofal plant er mwyn cynyddu nifer y rheolwyr benywaidd.
Yn ôl ymchwil y grŵp busnes CBI Cymru, mae gwahaniaethu a thuedd anymwybodol (unconcious bias) yn rhwystro menywod rhag symud i fod yn rheolwyr, ac y byddai cyfleusterau gofal plant mwy fforddiadwy yn gwella gyrfaoedd.
Mae'r CBI yn dadlau y gall helpu mwy o fenywod i gyflawni eu potensial, a dod yn arweinwyr, gael "effaith sylweddol" ar economi Cymru.
Mae Rachael Flanagan eisiau chwalu ystrydebau'r byd glanhau, a newid agweddau tuag at fenywod yn y gweithle.
"Mae'r dyddiau wedi mynd lle mae rhywun yn plygu dros fop," meddai sylfaenydd Mrs Buckét, y cwmni glanhau a gychwynnodd ar ôl iddi fethu arholiad busnes Lefel A.
Menywod yw mwyafrif ei staff, ac mae hi am gael gwared ar y rhwystrau sy'n eu hwynebu mewn llawer o fusnesau eraill.
Cyhoeddodd CBI Cymru data yn dangos fod agweddau negyddol yn y gweithle yn dal menywod yn ôl.
'Diwylliant busnes yn ei gwneud hi'n anodd i fenywod'
I Rachael Flanagan, mae’n golygu cefnogi menywod a allai ddioddef o ddiffyg hyder, i drio am swyddi fel rheolwyr yn y busnes.
"Rwyf wedi cael rheolwyr sydd wedi gweithio gyda fi, a dwi wedi cael sawl sgwrs gyda nhw ar yr ymylon i ddweud, 'Wir i chi, fe allwch chi wneud hyn'."
Ond, meddai, mae angen i'r dynion yn y swyddfa hefyd fod yn rhan o'r newid mewn agweddau.
"Dylai hi ddim fod fyny i fenywod yn unig i chwalu drwy’r holl rwystrau gwahanol," meddai.
"Dylai'r dynion yn yr ystafell sylweddoli eu bod nhw eu hunain yn cau cyfleoedd, bod rhywbeth am y diwylliant busnes sy'n ei gwneud hi'n anodd i fenywod."
Mae'r gwaith ymchwil gan CBI Cymru a Phrifysgol De Cymru yn dangos yr heriau sy'n wynebu menywod ym myd gwaith.
"Ni allwn wadu bod gwelliannau wedi'i gwneud," meddai prif swyddog pobl y CBI, Asha Musoni.
"Ond mae rhwystrau sefydliadol a diwylliannol yn dal i fodoli.
"Mae'r rhwystrau hynny yn ymwneud â gweithio hyblyg, mynediad at ofal plant digonol, tueddiad yn erbyn merched yn y gwaith, diffyg cyfleoedd mentora a diffyg cefnogaeth i’r tadau sy’n gweithio."
Roedd y data yn dangos y gwahaniaeth rhwng profiadau dynion a merched yn y gweithle.
Dim ond 11% o ddynion, o gymharu â 48% o fenywod, sy'n credu eu bod yn cael anwybyddu oherwydd eu rhyw pan fydd cyfleoedd am swyddi newydd yn codi.
Mae Siwan Morgan yn gydlynydd twf i gwmni Mrs Buckét, ac yn cydnabod bod y byd busnes yn heriol i fenywod, ac i famau yn benodol.
"Mae gyda fi tair merch o dan saith mlwydd oed," meddai.
Mae'r cwmni yn cefnogi hyblygrwydd o ran oriau gwaith.
"Mae hwnna'n bwysig iawn i fi ar hyn o bryd. A dwi ddim yn credu ma' hynna'n dal fi'n ôl o ran cyfleoedd yn gwaith, jest bo' ni'n gorfod dangos bo' ni'n gallu 'neud y swydd."
Galw am newid agweddau
Fel ei bos, mae Siwan yn gweld bod angen newid agweddau ehangach tuag at fenywod ym myd busnes.
"Maen nhw’n dweud mae'n cymryd pentre' i godi plentyn, a fi'n credu bod hynna'n wir.
"Ma' angen lot o gydbwysedd, ma' angen lot o mewnbwn o teuluoedd - mam a dad yn helpu, mam a tad fy ngŵr i’n helpu mas hefyd, a ma' hyblygrwydd gyda 'ngŵr i yn y gwaith hefyd... fi’n credu bod hwnna'n bwysig.
"Ni'n ffodus bo' ni mewn sefyllfa bo' ni'n gallu gweithio o amgylch y gofal plant, a casglu'r plant o ysgol. A fi'n credu bod pethe'n newid... wnaeth Covid hefyd helpu, gyda helpu pob' i weithio o adre."
Tra bod y gyfraith yn cefnogi hawliau menywod yn y gweithle, mae'n anoddach osgoi'r agweddau niweidiol sy'n dal menywod yn ôl.
Mae’r gyfreithwraig Fflur Jones o gwmni Darwin Gray yn dweud bod merched a dynion yn gyfartal iawn hyd nes eu bod yn cyrraedd 30 oed.
"Oherwydd bod merched yn tueddu i gael plant tua'r oed hynny, wedyn maen nhw'n disgyn i lawr y rheng o ran y cyfleoedd sydd gyda nhw," meddai.
"Mae’n broblem oesol yn anffodus, ac mae angen i gyflogwyr fod yn ddeheuig iawn o ran sut maen nhw’n trin hynny."
Byddai newid sut mae llwyddiannau gweithwyr yn cael eu cofnodi yn gallu newid agweddau, a gorfodi rheolwyr i sylweddoli’r cyfraniad mae menywod yn gwneud yn y gweithle.
"Mae cyflogwyr hefo cof byr," meddai Fflur Jones. "Mae pobl yn cofio pwy sydd yn y gweithle ar y funud hon, pwy sydd wedi gwneud yn dda yn y flwyddyn ddiwethaf.
"Ond os mae merched wedi cael amser bant i godi plant, mae'n bwysig cofio cyn hynny maen nhw wedi bod yn seren yn y gweithle."
Gobaith cyhoeddwyr y gwaith ymchwil yw dangos sut mae modd i fenywod ddisgleirio ym myd busnes, a chwalu’r rhwystrau sydd yna o hyd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd16 Mai 2023