Angen 'newid diwylliant' y gweithle i annog menywod

  • Cyhoeddwyd
Louise a'i phlantFfynhonnell y llun, Louise O'Shea
Disgrifiad o’r llun,

Mae Louise O'Shea yn aml yn dod â'i merched i'r gwaith ac yn credu bod angen normaleiddio bywyd teuluol yn y gwaith

Mae'n rhaid cyflwyno newidiadau mewn mannau gwaith i gefnogi menywod i fod yn rheolwyr, yn ôl prif weithredwr cwmni yswiriant Confused.com.

Dywedodd Louise O'Shea ei bod hi'n lwcus ei bod yn gweithio i gwmni sy'n meithrin a chefnogi menywod ond dywedodd bod hynny'n "anarferol".

Daw ei sylwadau wrth i adroddiad newydd ddangos fod cyfran y menywod sy'n rheolwyr a chyfarwyddwyr wedi aros ar ei hunfan ar 39%.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod cynllun ar waith i wella cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Louise O'Shea
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Louise O'Shea yn feichiog ers wyth mis pan ymgeisiodd am swydd Prif Weithredwr Confused.com

Ymgeisiodd Ms O'Shea o Gaerdydd am swydd Prif Weithredwr Confused.com pan oedd hi wyth mis yn feichiog. Cafodd gefnogaeth grŵp o gydweithwyr benywaidd.

Esboniodd fod llawer yn "teimlo'n ofnus" wrth gerdded i ystafell llawn rheolwyr gwrywaidd ac er ei bod wedi ymdrechu i newid y diwylliant hwnnw yn ei sefydliad, dydy hi ddim yn sefyllfa gyffredin.

Dywedodd ei bod yn dal i brofi rhwystrau a'i bod wedi'i cham-drin yn eiriol wyneb yn wyneb ac ar-lein - rhywbeth "na fyddai wedi digwydd i ddyn".

Serch hynny, mae'n cydnabod y gallai polisïau fel absenoldeb galar ar gyfer colli plentyn, polisïau mamolaeth a thadolaeth addas a normaleiddio bywyd teuluol yn y swyddfa helpu "newid y diwylliant".

Ychwanegodd y gallai gwell amodau ar gyfer cyfnod tadolaeth olygu fod 'na fwy o gefnogaeth i'w partneriaid.

Ffynhonnell y llun, Chwarae Teg
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Cerys Furlong o elusen Chwarae Teg mae newidiadau'n "digwydd yn rhy araf"

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, bu'n rhaid i 72% o famau sy'n gweithio orfod gweithio llai o oriau ac ennill llai oherwydd diffyg darpariaeth gofal plant, yn ôl ymchwil dros y DU.

Mae Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg, yn cydnabod bod llawer o gynnydd wedi'i wneud tuag at wneud Cymru'n wlad gyfartal o ran rhywedd ers sefydlu Chwarae Teg 30 mlynedd yn ôl, ond mae'n pwysleisio bod y newid yn llawer rhy araf.

"Er bod angen gweithredu mewn nifer o feysydd rydym yn gwybod bod dau fater yn dal i fod yn gwbl hanfodol os ydym am sicrhau Cymru gyfartal o ran rhywedd - gofal plant a gwaith di-dâl, ac aflonyddu rhywiol, cam-drin a thrais," meddai.

Ychwanegodd: "Mae'r orddibyniaeth barhaus ar fenywod i ddarparu gofal a gwaith di-dâl mewn cymdeithas yn atal menywod rhag cymryd rhan yn yr economi ffurfiol â thâl."

Ategodd bod diffyg gofal plant fforddiadwy yn gwaethygu'r mater ymhellach.

'Ffocws benodol ar bynciau STEM'

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod cynllun ar waith i wella cydraddoldeb rhywedd, dolen allanol yng Nghymru.

Dywedodd: "Mae'r cynllun yn amlinellu ystod o weithrediadau i gyflawni'r uchelgais gan gynnwys ymrwymiadau yn ymwneud ag addysg, cyflogadwyedd a gwella cynrychiolaeth o fewn rolau arwain."

Ychwanegodd y llefarydd bod gan y llywodraeth "ffocws benodol ar wella cydraddoldeb rhywedd mewn pynciau STEM".

"Mae rhagdybiaethau o bynciau STEM yn gallu dechrau mewn oedrannau cynnar, felly mae'n allweddol ein bod yn cyflwyno pob dysgwr i wyddoniaeth a thechnoleg o gychwyn cyntaf eu siwrnai o ddysgu".

Beth arall gafodd ei ddarganfod yn yr adroddiad?

Mae adroddiad elusen Chwarae Teg yn dangos:

  • Mae mwy o fenywod 16-24 oed yn y DU bellach mewn gwaith o'i gymharu â dynion.

  • Ond mae 'na gynnydd cyffredinol mewn diweithdra ymhlith menywod, gyda menywod o leiafrif ethnig yn cael eu heffeithio'n benodol (6.7% yn ddi-waith nawr o'i gymharu â 2.4% y flwyddyn flaenorol)

  • Mae bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi cynyddu i 12.3% eleni.

  • Dim ond 29% o gynghorwyr Cymru sy'n fenywod.

  • Dim ond 28% o fenywod yng Nghymru sy'n teimlo'n saff yn cerdded ar ben eu hunain yn y tywyllwch.

  • Mae 73% o holl ddioddefwyr cam-drin domestig yng Nghymru a Lloegr yn fenywod gyda 53% o'r holl droseddau trais yn erbyn menywod yn gysylltiedig â cham-drin domestig.

Yn ôl arolwg ar ymddygiad busnesau bach yng Nghymru yn 2019, 13.5% o fusnesau bach a chanolig oedd yn cael eu harwain gan fenywod.

Ond, er y pryderon, nid pawb sydd yn yr un sefyllfa.

'Ni'n fwy hapus fel teulu'

Yn ystod y pandemig mae Gemma Pugh o Abertawe wedi ailasesu ei gyrfa a sefydlu busnes newydd.

Yn dilyn 15 mlynedd fel athrawes wyddoniaeth mae hi bellach yn rhedeg cwmni ffitrwydd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe newidiodd Gemma Pugh o Abertawe ei gyrfa yn ystod y pandemig trwy adael ei swydd fel athrawes

"Erbyn hyn mae dros 100 o fenywod wedi ymuno â Fiercely Fit." meddai.

"Mae'r yrfa newydd yma yn siwtio fi achos gallai'n amlwg weithio rownd y plant a rownd fy mywyd personol i a 'neud yn siŵr wedyn mod i'n blaenoriaethu'r plant."

Ychwanegodd bod nifer o'i ffrindiau wedi dweud wrthi y bydden nhw wedi hoffi bod yn ddigon dewr i fentro.

"Mae 'na lot fawr - yn enwedig mamau - yn stryglan i allu ymdopi a trio neud."

Pynciau cysylltiedig