'Argyfwng' post Gwynedd wrth i swyddfa Cricieth gau

Swyddfa Bost CricciethFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Swyddfa'r Post ar y Stryd Fawr yng Nghricieth yn cau ar 31 Ionawr

  • Cyhoeddwyd

Mae gwasanaethau post yng Ngwynedd "mewn argyfwng", meddai AS, wedi i Swyddfa'r Post gadarnhau bod cangen yn y sir yn cau.

Bydd Swyddfa'r Post ar y Stryd Fawr yng Nghricieth yn cau ar 31 Ionawr, 2025.

Bydd cau'r gangen yn cael effaith ehangach ar draws Gwynedd, meddai AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts, gan fod gwasanaeth symudol ar gyfer tua 25 o gymunedau ar draws y sir yn dod o Gricieth.

Dywedodd Swyddfa'r Post fod y gangen yn cau oherwydd eu bod wedi colli defnydd o'r adeilad wedi i'r postfeistr ymddiswyddo.

Ychwanegodd eu bod yn bwriadu ailagor swyddfa newydd yn yr ardal "cyn gynted 芒 phosib", a bod swydd wag y postfeistr eisoes yn cael ei hysbysebu.

Nid oes ychwaith gwasanaeth Swyddfa'r Post yn Nefyn, ac mae'n dilyn cyhoeddiad yn ddiweddar bod dyfodol Swyddfa'r Post yng Nghaernarfon hefyd dan fygythiad.

Mae Ms Saville Roberts yn galw am ystyried anghenion cymunedau gwledig.

Dywedodd: "Mae hyn yn ergyd arall i'n cymunedau gwledig, rhyw wythnos yn unig ers i Swyddfa'r Post gyhoeddi bod cangen Caernarfon dan fygythiad.

"Mae canghennau gwledig fel Cricieth yn gwasanaethu ardal llawer ehangach na'r dref ei hun ac o ystyried fod gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb eraill yn cau, mae'r angen i gynnal presenoldeb Swyddfa鈥檙 Post yn hanfodol bwysig.

"O ystyried bod gan Swyddfa'r Post ymrwymiad i sicrhau bod 95% o'r boblogaeth wledig o fewn tair milltir i Swyddfa'r Post, a bod 95% o boblogaeth pob c么d post o fewn chwe milltir i Swyddfa Post, rwyf am wybod sut mae Swyddfa'r Post yn bwriadu cynnal hyn yn sgil cau cangen Cricieth."

Ffynhonnell y llun, PA/Ty'r Cyffredin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ms Saville Roberts fod cau'r gangen "yn ergyd arall i'n cymunedau gwledig"

Dywedodd yr AS ei bod hefyd yn gofyn am eglurder ar ddarpariaeth gwasanaethau symudol i'r cymunedau sy'n derbyn gwasanaeth ar hyn o bryd o Gricieth.

"Mae pobl sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn, yn enwedig yr henoed a'r rhai heb drafnidiaeth, mae angen sicrwydd y bydd y gwasanaethau hyn yn dal i fod yno ar eu cyfer yn y flwyddyn newydd," meddai.

Ychwanegodd: "Ar adeg pan ddylai prif flaenoriaeth Swyddfa'r Post fod i adfer ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd, mae'n ymddangos eu bod yn benderfynol o wneud bywyd yn anoddach i'w cwsmeriaid ffyddlon."

Swyddfa newydd i agor yn yr ardal

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Post: "Rydym yn cydnabod yn llwyr pa mor hanfodol yw鈥檙 gangen, nid yn unig i鈥檙 gymuned gyfagos ond i nifer o gymunedau cyfagos eraill sy鈥檔 dibynnu ar y gangen a鈥檌 gwasanaethau Allgymorth.

"Rydym yn bwriadu adfer Swyddfa'r Post i鈥檙 ardal cyn gynted 芒 phosib ac yn croesawu unrhyw geisiadau gan ddarpar bartneriaid manwerthu sydd 芒 diddordeb yn rhedeg y gangen.

"Mae'r swydd wag yn cael ei hysbysebu ar ein gwefan."

Pynciau cysylltiedig