Llwybr pererindod Cadfan yn ysgogi llenorion ac yn denu ymwelwyr
- Ffynhonnell y llun, Esgobaeth Bangor
Disgrifiad o’r llun, Mae nifer o eglwysi ar y llwybr - yn eu plith Eglwys Tanwg Sant - Llandanwg ym Mro Ardudwy
1 o 4
- Cyhoeddwyd
Yn Hydref 2024 fe agorodd llwybr cerdded 128 milltir - o Dywyn yn ne Gwynedd i Ynys Enlli - yn swyddogol.
Ar hyd Llwybr Cadfan ym Meirionnydd, Eifionydd a Phen Llŷn mae'n bosib i bererinion ymweld â 15 eglwys hynafol a chwe ffynnon sanctaidd.
Nos Fercher, yn Nhafarn y Plu yn Llanystumdwy, bydd cyfrol newydd o waith llenorion ac artistiaid sydd wedi bod ar y daith yn cael ei chyhoeddi.
Dywedodd Elin Owen o brosiect Pererin, Esgobaeth Bangor, fod y gyfrol wedi deillio o brosiect yn 2022, cyn i'r llwybr agor yn swyddogol.
Tridiau heb ffôn, wi-fi na thrydan
"Ers cyfnod Covid mae mynd ar bererindod yn sicr yn fwy apelgar," meddai Elin Owen.
"Dim pobl sy'n chwilio am y profiad ysbrydol yn unig sy'n dewis cerdded ar lwybrau fel hyn.
"Mae 'na bobl grefyddol wrth gwrs, ond hefyd pobl sydd eisiau bod yn yr awyr agored ac sy'n ymhyfrydu ym myd natur ac mae'r llwybr wedi ysgogi nifer fawr o lenorion."
Ymhlith y rhai sydd wedi cyfrannu at y gyfrol newydd mae dau fardd preswyl sef Siôn Aled a Sian Northey, Manon Steffan Ros, Twm Morys, a Gwyneth Glyn.

Mae Llwybr Cadfan yn 128 milltir ac yn ymestyn o Dywyn i Ynys Enlli
Ychwanegodd: "Fe ddaeth y prosiect llenyddol cyn agor y llwybr.
"Ym Mawrth 2022 fe aethon ni i 11 o leoliadau ar hyd Llwybr Cadfan - llwybr sydd wedi'i gerdded gan Sant Cadfan o'r 6ed ganrif - ac fe 'nathon ni greu ryw fath o ddathliad ynddyn nhw gyda beirdd a cherddorion.
"Ar ddiwedd y prosiect roedd yna dridiau o encil ar Ynys Enlli heb ffôn, wi-fi na thrydan.
"Doedd hi ddim yn fwriad yn wreiddiol i gyhoeddi'r cyfan ond wedi gweld y cynnyrch dyma fynd amdani a chreu cyfrol sy'n llawn cerddi, blogs a gwaith celf."

Mae'r llyfr yn gymysgedd o waith llenorion, gwaith celf a ffotograffau
"Yn sicr wedi llwyddiant cyfresi fel Pilgrimage mae llwybrau pererindod yn boblogaidd," meddai Elin Owen.
"Yn ei hanfod taith ydy pererindod gyda nod penodol ar ei diwedd hi. Dwi'n meddwl bod hynny yn wir i amryw o bobl sy'n cerdded.
"Yr hyn sy'n arbennig bellach yw bod y gymuned gyfan yn rhan o'r prosiect hwn wrth i bob ysgol ar y daith gynllunio stamp arbennig i'w roi ar basbort teithwyr.
"Ac ydy mae'r llwybr bellach yn camino go iawn. Mae yna 12 cam a dau stamp i'w casglu bob dydd a dau ychwanegol - un yn Abaty Cymer a'r llall ar Ynys Enlli."

Dywedodd Elin Owen, yma gyda'i meibion yn Ffynnon Cybi, fod y llwybr wedi cael argraff wahanol ar bawb fu'n rhan o'r gyfrol
Er nad oes rhaid i bererindod fod yn grefyddol mae'n bwysig bod yr eglwys yn rhan allweddol o brosiect fel yr un yma ynghyd â sefydliadau mwy seciwlar, medd Elin Owen.
Dywed hefyd ei bod yn bwysig am ei fod yn "clymu mewn hefo y datblygiadau yn y Cwricwlwm newydd i Gymru, a'r pwyslais ar ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, ac ar iechyd a lles disgyblion".
"Os yn chwilio am le i dreulio 12 diwrnod o wyliau, yn sicr Llwybr Cadfan yw'r lle i ddod neu mae modd gwneud rhannau ohono wrth gwrs," meddai.
"Mae'r llwybr yn cynnwys ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ac arfordir heb ei ddifetha - balm i'r enaid yn wir."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024