Angen 'swm anferth' i adfer to capel 'rhyfeddol' Ynys Enlli

 Capel Cydenwadol Ynys EnlliFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Ynys Enlli
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r capel wedi sefyll ar Ynys Enlli ers 1875

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na bryder am ddyfodol Capel Cydenwadol Ynys Enlli, gydag angen gwaith adnewyddu sylweddol ar do'r adeilad hynafol

Mae'r capel wedi sefyll ar yr ynys ers 1875 drwy garedigrwydd Arglwydd Newborough, ac wedi gwrthsefyll heriau stormus.

Ond yn ôl Galluogydd y Gymraeg Esgobaeth Bangor ac aelod o bwyllgor Ysbrydoliaeth Ynys Enlli, Elin Owen, mae'n wynebu cyfnod heriol arall.

"Mae cyflwr yr adeiladau'n dirywio ac angen gwaith, 'da ni wedi ffeindio fod y capel yn un o'r rhain.

"'Da ni wedi bod yn cael problemau 'efo'r to ers ambell flwyddyn rŵan ac yn gweld darnau ohono'n disgyn."

"Mae o wedi cyrraedd pwynt rŵan na fedrwn ni ei agor o bellach i'r cyhoedd, yn ystod y cyfnod twristiaeth nesaf oherwydd mae o'n rhy beryglus i unrhyw un fod ynddo fo.

"'Dan ni wedi cael amcanbris o £100,000 sy'n swm anferth o bres."

'Lle hyfryd a thawel i gael bendith'

Yn 2024 fe lansiodd Esgobaeth Bangor lwybr pererindod newydd, Llwybr Cadfan - sy'n mynd o Dywyn i Ynys Enlli.

Mae'r daith yma wedi'i henwi yn un o'r 10 uchaf o ran llwybrau cerdded newydd yn Ewrop.

Yn ôl Elin Owen mae yna gynnydd yn nifer y bobl sydd â diddordeb mewn pererindod, a phobl sy'n cerdded llwybrau o'r fath.

"Mi ydan ni'n rhagweld y bydd yna lot o bobl eisiau mynd ar bererindod, ac mae'n mynd i fod yn sefyllfa eithaf trist eleni nad oes yna ddim canolfan Gristnogol iddyn nhw fynd wedi'r gwaith.

"Mi fydd adeilad yr ysgol dros dro yn cael ei ddefnyddio, a dyna lle oedd y capel gwreiddiol."

To Capel Ynys Enlli, sydd angen cael ei atgyweirio ar gost o £100,000Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Ynys Enlli
Disgrifiad o’r llun,

Does dim gwasanaethau wedi eu cynnal yn y capel ers tro oherwydd bod darnau o'r to yn disgyn y tu mewn

Mae'r Parchedig Aneurin Owen yn rhan o is-bwyllgor ysbrydolrwydd Ynys Enlli a hefyd yn cael bod yn Gaplan ar yr ynys o dro i dro.

"Mae'r capel rŵan, 'dio ddim yn perthyn i unrhyw enwad.

"Enwad Methodistiaid Calfinaidd ddaru gychwyn y capel fel cenhadaeth ar Ynys Enlli, ond bellach wrth gwrs mae o'n ofod i bob enwad.

"Mae o'n le hyfryd iawn, a lle tawel iawn i gael bendith.

"Mae 'na gyplau'n dod i gael bendith ar yr ynys, ac mae 'na awyrgylch ryfeddol yna, oherwydd y traddodiad a'r heddwch, a'r tangnefedd sydd ar yr ynys.

"Wrth gwrs roedd pobl yn trafeilio i'r ynys i gael eu bendithio am ganrifoedd."

Lisa Eurgain Taylor a'i gŵr Ifan y tu allan i gapel Ynys Enlli wrth gael bendithio eu priodas yn 2022Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr artist Lisa Eurgain Taylor a'i gŵr Ifan fendithio eu priodas y tu allan i'r capel ym mis Awst 2022

Ym mis Awst 2022 fe gafodd yr artist Lisa Eurgain Taylor a'i gŵr Ifan fendithio eu priodas y tu allan i'r capel.

"Dwi 'di bod yna droeon ar wyliau, ac mi oedd o'n freuddwyd ers pan yn ifanc i gael priodi ar Enlli," meddai Lisa.

"Mi oeddwn i mor falch o gael y cyfla' i gael gwasanaeth mor lyfli yno efo teulu a ffrindiau.

"Roedd o wir yn ddiwrnod bythgofiadwy.

"Fel artist dwi wedi peintio Enlli nifer o weithia', ac wrth fy modd yn trio dal teimlad ysbrydol Enlli yn y llunia'."

'Dim posib piciad i nôl deunyddiau'

Wrth i'r gwaith o gasglu'r arian ddechrau, fe fydd yna heriau hefyd o ran y gwaith atgyweirio gyda deunyddiau traddodiadol oherwydd ei fod yn adeilad rhestredig Gradd II, ac oherwydd yr angen i groesi i Ynys Enlli.

"Ti ddim jest yn sôn am adnewyddu'r to, ti'n sôn am groesi'r swnt 'dwyt i Ynys Enlli," meddai Elin Owen.

"'Dio ddim fatha bod ti'n piciad i nôl y deunyddia' i drwsio'r to.

"Ti'n mynd i orfod dod a nhw drosodd yna, y logistics wedyn o sut ti'n mynd i'w cael nhw draw i'r capel, maen nhw'n ddeunyddiau trwm, mawr.

"'Di hyn ddim yn mynd i fod heb ei heriau."

Pynciau cysylltiedig