Mam o Wynedd yn pledio'n euog i bedwar achos o esgeuluso plant
![Llys Caernarfon](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/901/cpsprodpb/f6ee/live/c97cd940-7692-11ef-b282-4535eb84fe4b.png)
Clywodd Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau bod cymdogion wedi codi pryderon ar ôl i larwm dân seinio am gyfnod hir o amser
- Cyhoeddwyd
Mae mam 33 oed o Wynedd wedi pledio'n euog i bedwar achos o esgeuluso plant.
Clywodd Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau bod cymdogion wedi codi pryderon ar ôl i larwm dân seinio am gyfnod hir o amser.
Ar ran yr erlyniad, dywedodd Helen Hall bod y larwm wedi canu am gyfnod hir a bod y cymdogion, pan yn edrych drwy'r ffenestr, wedi gweld dau blentyn noeth yng nghyntedd y tŷ a bod yr heddlu wedi'u galw.
Ychwanegodd bod yr heddlu yn pryderu am yr amodau byw yn y tŷ oedd yn gartref i bedwar o blant.
Dywedodd bod cyflwr y tŷ yn peri pryder a bod carthion yn yr ystafell folchi ac ystafell wely ac nad oedd yr heddlu yn gallu dweud ai carthion dynol neu rhai anifeiliaid oedden nhw.
Cyfaddefodd y fenyw ei bod wedi "ymosod yn fwriadol, cam-drin, esgeuluso a gadael" pob plentyn mewn modd "sy'n debygol o achosi dioddefaint neu niwed diangen i’w hiechyd".
Fe blediodd y fam yn euog i bedwar cyhuddiad ar wahân. Nid oes modd enwi'r fam na'r plant am resymau cyfreithiol.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol ac mae disgwyl iddi hi gael ei dedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ar 11 Hydref.