Tair gradd a nofel ar ôl dychwelyd i fyd addysg yn 48 oed

Bethan yn gafael yn ei nofel mewn siop lyfrauFfynhonnell y llun, Bethan Nantcyll
Disgrifiad o’r llun,

Bethan yn gafael yn ei nofel mewn siop lyfrau

  • Cyhoeddwyd

Roedd Bethan Nantcyll o Bant-glas yn Nyffryn Nantlle yn 48 ac yn fam sengl i ddwy o ferched pan benderfynodd hi i adael ei swydd fel cymhorthydd dosbarth a gwneud gradd mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf cyn mynd ymlaen i wneud gradd meistr a doethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol.

Yn goron ar ei thair gradd, mae hi newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf a ddaeth yn agos at gipio Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf sef Dau.

'Ddim digon aeddfed ar y pryd'

Wedi ei magu ar fferm Nantcyll, dywed Bethan nad oedd hi'n "ddigon aeddfed" ar y pryd i orffen ei chwrs Lefel A yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle.

"Mae'n siŵr fod Mam yn fwy na Dad isio fi fynd yn syth i'r coleg o'r chweched dosbarth ond wnes i sylwi'n fuan iawn ar ôl dechra 6.2 nad o'n i'n cael pleser o Lefel A ac nad oedd gen i syniad chwaith be o'n i isio ei neud fel gyrfa.

"Dwi ddim yn meddwl o'n i isio gadal adra chwaith achos 'swn i'n hiraethu, wedyn nes i benderfynu gadael chweched dosbarth," meddai.

Treuliodd Bethan "ddyddiau hapus ofnadwy" fel clerc yn swyddfa'r dreth ym Mhorthmadog cyn dod yn fam i Martha a Margiad, sydd yn eu hugeiniau erbyn hyn.

Pan oedd y plant yn fach daeth Bethan yn fam sengl a rhwng ei phrysurdeb yn magu a chadw tŷ, dod â chyflog i gynnal ei merched a hithau oedd ei blaenoriaeth:

"Unwaith ti'n cael plant a'r plant yn fân a biliau yn dod i mewn driphlith draphlith ac o'n i'n fam sengl ers 2002 – fedrat ti ddim ystyried deud y gwir 'neud o'n gynt."

Bethan gyda'i rhieni a'i brodyr yn nhop lon eu fferm, NantcyllFfynhonnell y llun, Bethan Nantcyll
Disgrifiad o’r llun,

Bethan gyda'i rhieni a'i brodyr Dewi ac Idris yn nhop lon eu fferm, Nantcyll

Ond ar ôl blynyddoedd yn gweithio fel cymhorthydd yn amryw o ysgolion yr ardal, roedd y bygythiad i ysgolion bach Dyffryn Nantlle yn ei thristáu.

Meddai: "Ro'n i'n gymhorthydd yn Ysgol y Groeslon ar y pryd a nôl yn 2015 roedden nhw'n cau Ysgol Carmel, Ysgol Bronyfoel ac Ysgol Groeslon fel ag yr oedd hi i greu un ysgol.

"O'n i'n ei weld o'n ofndawy fod tair ysgol fach leol yn cau. Nath o 'nharo fi, aethon ni i Ysgol Bronyfoel ar ddiwrnod ola ei bodolaeth hi ac oedd hi'n wag ac ogla tamp a dwi'n cofio meddwl i fi fy hun - fydd 'na byth sŵn plant yn chwara ar iard yr ysgol yma eto – a hynny ar ôl tua 150 o flynyddoedd."

Cael lle yn y brifysgol

Rhoddodd orau i'w swydd fel cymhorthydd a dychwelyd i fyd addysg wrth weld Margiad, ei merch hynaf, yn dod â thestunau difyr adref efo hi tra'n astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

"Roedd Margiad yn byw adra hefo fi er mwyn arbed arian, ac o'n i wrth fy modd gyda'r hyn oedd hi'n ei gael yno, a gyda'r genod yn mynd yn fwy annibynnol a'r ddwy'n gweithio i ennill pres hefyd, o'n i'n teimlo fel bo' gen i fwy o le i anadlu.

"Wnes i 'neud cais i fynd yn fyfyrwraig. O'n i wedi 'neud rhyw gwrs oedd gyfystyr â hyn a hyn o Lefel A flynyddoedd yn ôl felly mi ddoth i mewn yn handi. Ges i fynd am gyfweliad a ges i 'nerbyn, wedyn dechra fel myfyriwr llawn amsar ym mis Medi 2015."

Doedd Bethan, er yn ddarllenwraig brwd, heb astudio'r Gymraeg fel pwnc academaidd ers iddi roi'r gorau i'w chwrs Lefel A ddegawdau ynghynt ond mae ei hangerdd at y pwnc wedi bod yno erioed.

"Dwi'n cofio astudio Awdl Yr Haf gan R. Williams Parry efo'r diweddar annwyl Joan Davies," meddai.

"Ac o'n i'n gwirioni ar sŵn Awdl Yr Haf a bob dim fel'na ond do'n i methu mynd i'r llofft i astudio fel fy nghyfoedion.

"Dwi wastad wedi mwynhau darllan ac mae'r diolch i Mam am hynny - oedd Mam yn prynu llyfra' i fi ac mae gen i un o'r cyfresi cynta' ges i gan Mam o hyd yn llofft - cyfres Merlyn y Mynydd Mawr gan Emily Huws a dyna o'n i'n ei gael bob pen-blwydd, ryw lyfr ychwanegol oedd Emily 'di sgwennu."

Mam a'i merched yn cyd-astudio

Roedd cyfnod pan oedd Bethan a'i dwy merch yn y brifysgol yr un pryd; roedd Margiad ar ei thrydedd flwyddyn, Bethan yn ei hail a Martha ar ei blwyddyn gyntaf yn astudio Astudiaethau Plentyndod.

Wrth hel atgofion am ddechrau'r brifysgol yn hŷn ac yn rhannu darlithoedd â myfyrwyr deunaw oed, meddai: "Do'n i ddim yn ei weld o'n ofnadwy o ysgytwol, ar adegau oedda chdi'n teimlo fel rhyw hen ddresal pam oedda chdi'n clywad amdanyn nhw' mynd i dafarn Y Glôb neu ryw glybiau neilltuol, ond fuon nhw i gyd yn glên iawn ac yn fy nghynnwys i yn bob dim fedrwn i fod yn rhan ohono.

"A dwi dal mewn cysylltiad efo rhai ohonyn nhw hyd heddiw er bo' fi ddigon hen i fod yn fam iddyn nhw 'de," chwarddai Bethan.

Llun graddio Bethan a llun o'i seremoni gradd DoethurFfynhonnell y llun, Bethan Nantcyll
Disgrifiad o’r llun,

Llun graddio Bethan (chwith) a llun o'i seremoni gradd Doethur (dde)

Ddegawdau yn aeddfetach na'r Bethan ifanc a adawodd yr ysgol cyn gorffen ei chwrs, oedd astudio'n haws iddi fel myfyriwr hŷn?

"O rywun oedd yn casáu stydio pan o'n i'n rysgol, fyddwn i'n dod i'r llofft yma am oriau a dysgu petha fel poli parot, ddim am bo' fi isio serennu ond am 'mod i isio llwyddo ac o'n i'n mwynhau.

"Mae pobl ifanc yn rhan o'r system ac wedi bod ynddo fo ers blynyddoedd, ac efallai'n meddwl 'O mam bach – traethawd arall'. Ond i mi oedd yn ailgydio ynddi hi, o'n i'n cael y diléit mwya' erioed."

Cyhoeddi nofel

"Doethuriaeth?! Be' ydy peth felly 'dwch? Am faint fyddi di yno eto?" oedd ymateb mam Bethan pan benderfynodd hi wneud doethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol ar ôl ei llwyddiant fel myfyriwr israddedig a'i gradd meistr.

Yn rhan o'i doethuriaeth fe ysgrifennodd Bethan rannau o ddwy nofel, a dyna sail ei nofel newydd Dau. Stori'r ddau efaill Wiliam a Gwen, y ddau olaf o 'ddwsin dedwydd' fferm y Nant sydd yma. A thrwy eu llygaid nhw mae'r darllenydd yn profi'r newid a welir ar yr aelwyd ac o fewn cymuned wledig sefydledig dros gyfnod o flynyddoedd.

Penderfynodd Bethan ei rhoi hi mewn i gystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith am feirniadaeth y llynedd ar ôl sylwi mai Newid oedd y testun a'i gwaith yn gweddu.

"O'n i wedi rhoi y ffugenw Carno achos o'n i'n meddwl fydd yna uffar o neb yn nabod fi os roi Carno achos yn fan'no gath fy nhaid ei eni yn Sir Feirionnydd," eglurai.

"Dyma ddiwrnod y feirniadaeth yn dod ag o'n i adra fan hyn a dyma'r beirniaid yn dweud ar y teledu fod yna 14 wedi ymgeisio – oedd y genod wedi dwad i'r llofft erbyn hyn a dyma nhw'n enwi rhai'r trydydd dosbarth a dyma Margiad yn deud 'Diolch i Dduw bo' chdi ddim yn fan'na 'de – fasa hynna yn rili embarrassing'!

"Yna ddathon nhw i drafod yr ail ddosbarth a nath Margiad ddeud 'Ti'n siŵr bo' nhw wedi derbyn dy waith di do?' 'Do,' medda fi, 'ges i receipt a dyma ni'n dod i drafod y tri ucha' ac yn fan'no o'n i – Carno."

Bethan gyda'i merched Martha a MargiadFfynhonnell y llun, Bethan Nantcyll
Disgrifiad o’r llun,

Bethan gyda'i merched Martha a Margiad

Gyda'i nofel bellach mewn print, sut mae Bethan, ei merched a'i mam yn adlewyrchu ar ei champ?

"Dwi ddim yn un o'r mamau 'Steddfod yr Urdd 'ma na ddim byd. Dwi byth yn fam sy'n deud 'O ges ti gam'. Rhyw bobl 'Duw reit dda 'de' ydan ni. Maen nhw'n falch ohona i, mae'n siŵr bo' nhw meddwl 'mod i ddim yn gall ar un adag. Mae naw mlynedd o astudio yn gyfnod hir felly oedd o wedi mynd yn ffordd o fyw doedd ond faswn i ddim yn newid dim."

Beth yw cyngor Bethan i unrhyw un sydd eisiau dychwelyd i fyd addysg neu roi cynnig ar ysgrifennu nofel am y tro cyntaf?

"Ewch amdano fo heb betruso dim. Mae'n rhaid i chi gymryd y cam."

Bydd Bethan yn lansio ei nofel Dau ym Mhant Du, Penygroes ar 7 Mawrth.