Beth yw gwaddol T. H. Parry-Williams heddiw?
Gwyliwch T. H. Parry-Williams yn darllen ei gerdd Bro yn Rhyd-ddu
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n 50 mlynedd ers marwolaeth T. H. Parry-Williams, y bardd a'r llenor o Ryd-ddu ar 3 Mawrth.
Dros yr wythnosau diwethaf mae cannoedd wedi bod yn gwylio'r ddrama Congrinero yn neuaddau Cymru. Mae'r ddrama gan Angharad Price gyda Siôn Emyr yn chwarae rhan T. H. yn gofnod o fywyd y bardd ifanc ar doriad y Rhyfel Mawr a'r blynyddoedd yn dilyn hynny. Fel gwrthwynebydd cydwybodol, dyma bedair blynedd a wnaeth iddo gwestiynu pwrpas ei holl fodolaeth ar y ddaear.
Gyda chenedlaethau o bobl ifanc wedi astudio barddoniaeth T. H. Parry-Williams ar faes llafur TGAU a Lefel A, mae dipyn mwy i waddol un o lenorion mawr yr ugeinfed ganrif na'i gariad at ei fro - fel mae Angharad Price a'r actor Siôn Emyr yn ei egluro.
'Paratoi'r ffordd i lenorion diweddarach'
Angharad Price:
"Roedd y prifathro wedi rhoi poster o soned Tŷ'r Ysgol gan T. H. Parry-Williams ar wal ein hysgol gynradd, ochr yn ochr ag Y Llwynog gan R. Williams Parry ac Ywen Llanddeiniolen gan W. J. Gruffydd (tri bardd lleol).
"Roeddwn yn arfer darllen y geiriau agoriadol, 'Mae'r cyrn yn mygu er pob awel groes', ac yn methu gwneud pen na chynffon ohonyn nhw. 'Cyrn' oedd y pethau ar ben tarw, a 'mygu' oedd methu cael eich gwynt. Cyrn yn mygu? Mae'n siwr fy mod yn meddwl mai bardd swrreal oedd T. H. Parry-Williams bryd hynny.
"Yn ddiweddarach mi ddes i ddarllen ei ysgrifau a dod i'w hoffi nhw'n fawr, y disgrifiadau manwl sy'n creu mwy a mwy o hud y manylaf maen nhw'n mynd, fel meicrosgop.
"Dwi'n credu mai Hen Chwareli ydi fy hoff ysgrif. Mae'n sôn am domennydd llechi, a'r bersonoliaeth a'r anwyldeb sydd ynddyn nhw wrth iddyn nhw duchan ac ochneidio fin nos. O ran ei farddoniaeth, mae'r gerdd a'r teitl annisgwyl, Dwy Gerdd, yn ffefryn. Dwi'n ei gweld yn debyg i ffiwg gerddorol, neu'n ddarn o gelf giwbistaidd.

T. H. Parry-Williams a'i feic modur, KC 16, Mai 1920
"Yn bendant, mae gwaith T. H. Parry-Williams yn dal i apelio at fyfyrwyr heddiw, yn enwedig y ffordd mae o'n mynegi rhyfeddod at y pethau sy'n esboniadwy a'r pethau sy'n anesboniadwy yr un pryd - a'r ffaith nad ydi un persbectif ddim yn dileu'r persbectif arall.
"Mae hanes ei fywyd yn berthnasol heddiw hefyd: ei brofiadau ar gyfandir Ewrop yn ddyn ifanc, ei deithiau i dde a gogledd America yn y 1920au a'r 1930au, a'i brofiadau anodd trwy ddau ryfel byd. Ond mae'n biti mai Moelni sydd ar faes llafur Cymraeg Safon Uwch - nid un o'i gerddi mwya' diddorol, yn fy marn i.
"Mi ymestynnodd T. H. Parry-Williams y posibiliadau ieithyddol sydd ar gael i lenorion Cymraeg. Mi ddaeth ag iaith bob-dydd i ryddiaith a barddoniaeth Gymraeg, gan gynnwys geiriau llafar a thafodieithol, a pharatoi'r ffordd i lenorion diweddarach fel Caradog Prichard yn Un Nos Ola Leuad.
"Yn ei ysgrifau mi ddangosodd bod unrhyw destun yn deilwng o gael ei drin mewn llenyddiaeth - o foto beic i'r pry genwair i'r tywod mewn 'peth berwi wyau'. Mae'r pethau hyn i gyd, wrth i artist geiriau rhagorol ymdrin â nhw, yn dod yn dyst i wyrth y greadigaeth."
'Mae o'n meddwl mewn ffordd hollol wahanol'
Siôn Emyr:
"Yr unig beth o'n i'n ei wybod am T. H. oedd ei berthynas â'i ardal enedigol o yma yn y gogledd a'i fod o'n sgwennu barddoniaeth - y cerddi ro'n i wedi eu hastudio ar gyfer TGAU a Lefel A.
"Ond yn fwy na hynny do'n i ddim yn gwbod am ei hanas o yn yr Almlaen nac ym Mharis sydd wedi siapio T. H. fel dyn ifanc - ei gyfnod o yn Aberystwyth, Rhydychen – ei gyfnod o'n trafeilio ac yn cyfarfod pobl tebyg iddo fo a phobl hollol wahanol iddo fo hefyd – wedi ei siapio fo fel person, fel bardd, fel unigolyn, fel brawd a fel mab felly mae bron iawn bob dim dwi wedi ei ddysgu amdano fo'n newydd i fi.
"Fel actor, mae ei fyfyrdodau a'i ysgrifau o hyd yn oed yn cael fwy o effaith arna i na'i gerddi. Dwi'n meddwl fod Ceiliog Pen-y-Pass yn ddifyr ofnadwy.
"Y ffordd mae o'n edrych ar y byd neu bethau o'i gwmpas o - boed goed neu blanhigion, mae o'n rhoi personoliaeth i bethau gwahanol mor ddifyr. Mae'n dangos fod o'n meddwl mewn ffordd hollol wahanol.

Siôn Emyr yn actio rhan T. H. Parry-Williams yn Congrinero
"Be' wnaeth fy nharo i wrth ymchwilio ac astudio i roi y sioe yma ar ei thraed ydi faint o gymariaethau 'dan i'n gallu 'neud rhwng Cymru y Rhyfel Byd Cyntaf a'r byd rŵan felly dwi'n meddwl bod yna hen ddigon o le i ni ddysgu wrth athrylith fel T. H. - mae ei waith o'n oesol.
"Does yna ddim llawer o archif ohono'n siarad yng nghyfnod cynnar ei fywyd, dim ond lluniau.
"Felly wrth actio T. H. do'n i ddim isio mynd i ddynwared gormod achos o'n i'n gwybod y basa pobl yn beirniadu.
"Nes i drio rhoi bach o'i lais o i mewn weithia' – mae o'n deud 's' mewn ffordd ddifyr iawn, mae o'n dal 'u' yn hir weithia', ac mae ei 'd' a'i 't' o yn esmwyth iawn felly o'n i'n trio rhoi rhyw flas bychan ar sut oedd o heb fynd i ddynwarad.
"Dwi'n meddwl fod Congrinero wedi codi chwilfrydedd am T. H. unwaith eto gan wneud i lot o bobl ail-ymweld â'i waith o."
Bydd taith Congrinero yn dod i ben yn Theatr Twm o'r Nant, Dinbych ar 7 Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2024