Huw 'Fash' Rees: Ffrogiau priodas, Heno a iechyd

Huw ReesFfynhonnell y llun, Huw Rees
  • Cyhoeddwyd

Mae Huw 'Fash' Rees yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ers canol y 90au, yn cynnig cyngor ffasiwn arbenigol ar raglenni S4C fel Heno a Prynhawn Da.

Mae o hefyd wedi bod berchen ar siop ffrogiau priodas yn Llandeilo ers 16 mlynedd. Daeth y cyhoeddiad yn ddiweddar bod Huw yn bwriadu cau'r siop a chanolbwyntio ar bethau eraill mewn bywyd.

Fe gafodd Cymru Fyw air gyda Huw i drafod ei blentyndod, ei gariad at ffasiwn a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Magwraeth yn Nyffryn Aman

Dywed Huw iddo gael magwraeth digon cyffredin yn Nyffryn Aman, ei dad yn gyn-löwr a'i fam yn gweithio mewn siop yn Rhydaman.

"Roedd mynd i Lundain i astudio ffasiwn yn dipyn o sioc i'r system," meddai. "Doedd neb llawer yn wahanol pan o'n i'n ifanc – oeddech chi naill ai'n chwarae rygbi neu o'ch chi ddim.

"Pan es i i Lundain yn amlwg doedd dim pwysau o gwbl i chware rygbi, ac roedd pawb yn wahanol ac yn ymhyfrydu yn hynny."

Doedd gan Huw ddim diddordeb mewn ffasiwn pan oedd yn fachgen ifanc, a doedd o ddim yn berson ffasiynol.

"O'n i dros fy mhwysau ac o'n i'n hapus i wisgo unrhywbeth oedd yn ffitio," meddai. "Doedd dim diddordeb mewn ffasiwn gan y teulu chwaith – roedden nhw mor syn â fi bo fi'n gallu gwneud. Ond unwaith oedden nhw'n gwybod mai hynny o'n i eisiau gwneud roedden nhw gefnogol iawn.

"Dechreues i yn y byd ffasiwn pan es i i Goleg Celf Caerfyrddin i astudio graffeg, a darganfod pan ddaeth yr uned gynllunio ffasiwn i fyny mai dyna ble oedd fy noniau.

"Dwedodd pennaeth yr adran y gallwn i wneud yn dda yn y maes ac fe wnaeth fy annog i drio cael lle yn un o'r colegau yn Llundain."

Ffynhonnell y llun, Heno
Disgrifiad o’r llun,

Huw ac Alun Williams yn cyflwyno i Heno yn y Sioe Frenhinol, gyda'r bardd Sam Robinson yn y canol

"Pryd hynny doedd dim lot o fyfyrwyr o'r Coleg Celf yng Nghaerfyrddin yn ennill llefydd yn y colegau yn Llundain, yn enwedig pan oedd ffasiwn yn y cwestiwn. Ond fues i'n ddigon lwcus i gael lle ym mhob coleg yn Llundain nes i drio amdano, gan benderfynu yn y diwedd i fynd i Ravensbourne i astudio ffasiwn.

"Daeth fy rhieni i Lundain a fy helpu tra o'n i'n trio rhoi casgliad at ei gilydd, yn mynd i wahanol lefydd yn nôl defnydd a botymau ag ati, ac i dorri'r defnydd hefyd.

"Felly, er bod ganddyn nhw falle ddim lot o ddiddordeb mewn ffasiwn, roedd ganddyn nhw ddiddordeb yng ngyrfa eu mab."

Dylunio ffrog briodas y chwaer

Er mai gwisgoedd priodas mae Huw'n adnabyddus amdano bellach, nid hynna oedd y cynllun gwreiddiol.

"O'n i erioed wedi cynllunio gwisgoedd priodas – dillad dynion o'n i'n cynllunio pan o'n i yn y brifysgol! Ond pan ddes i nôl i Gymru 'nath fy chwaer i benderfynu priodi, a bod hi eisiau i mi ddod gyda hi i ddewis ffrog.

"Yn anffodus, pryd hynny doedd dim un siop yn gadael i ddyn fynd fewn i'r stafelloedd gwisgo. Pan ddes i mas o'r ail siop dwedodd fy chwaer 'that's it, ti sydd am gynllunio'n ffrog briodas i'.

"Oedd gen i carte blanche i wneud beth o'n i moyn, cyn belled â bod dim ffrils arno fe. Ffrog fy chwaer oedd y ffrog briodas gyntaf i mi wneud, felly mae hi'n un sbesial iawn ac mae dal gyda fy mam gytre'."

Ffynhonnell y llun, Huw Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw wedi dylunio ffrogiau nifer o gyflwynwyr S4C, yn cynnwys Mari Grug a Sian Thomas yn y llun yma o'i phriodas

Mae Huw yn dweud iddo wneud ffrindiau da drwy ei waith teledu ar Heno a Prynhawn Da

"Mae Elin Style Doctor yn un o'n ffrindiau mawr i, ni wedi gweithio 'da'n gilydd ers dros chwarter canrif a ni'n cwrdd lan ar gyfer wythnos ffasiwn Llundain ac unrhywbeth i'w wneud 'da ffasiwn.

"Dwi'n cofio mynd i sioe gyntaf John Galliano pan nath o raddio â'i MA yn y Royal College of Arts. O'n i'n gweithio i Terrence Conran, ac ar y pryd roedd yna gynllunydd enwog o Brydain o'r enw Betty Jackson ac o'n i'n gweithio iddi hi am flwyddyn, a dwi dal nawr ac yn y man yn cwrdd lan da Betty am goffi pan yn Llundain."

Ffynhonnell y llun, Huw Rees
Disgrifiad o’r llun,

Huw gyda'i ffrind a chyd-arbenigwr ffasiwn, Elin Mai o'r cwmni Style Doctor

30 mlynedd gyda Heno

Pan ddechreuodd Huw weithio gyda Heno doedd dim syniad ganddo y byddai'n troi fewn i rywbeth hir-dymor.

"O'n i'n gweithio yn Llundain a ges i alwad ffôn allan o unman yn dweud bod nhw'n chwilio am rywun i wneud eitem ffasiwn yn Abertawe, ar raglen o'r enw Heno," eglurodd. "O'n i erioed wedi clywed am Heno achos o'n i'n byw yn Llundain a ddim yn cael S4C.

"Dwi'n cofio dweud wrth fy rhieni ac oedden nhw'n excited bost! Dos i lawr a ffilmio rhyw ddydd, gyda'n chwaer yn modelu, ac wedi hynny wnaethon nhw gynnig swydd rhan amser yn gwneud eitemau ar Heno, a wnaeth hynny jest tyfu ac erbyn diwedd ddos i weithio 'ma llawn amser.

"Un o'r pethau pwysig yn fy ngyrfa i yw bod fi'n cymysgu gyda phobl a chefnogi elusennau – dwi byth yn dweud na os oes rhywun yn chwilio am rywun i arwain noson ar gyfer elusen neu sioe ffasiwn, a dyna beth sy'n cadw chi'n boblogaidd mewn ffordd.

"Maen bwysig cofio mai'r gwylwyr sy'n bwysig a nhw sy'n cadw chi yn eich swydd, ac mae'r ffaith bo' chi'n cefnogi achosion ac elusennau nhw yn hollbwysig."

Ffynhonnell y llun, Huw Rees
Disgrifiad o’r llun,

Huw gyda rhai o griw Heno yn eu siwmperi Nadolig

Siop yn Llandeilo

Dywed Huw ei fod wastad wedi bod eisiau agor siop ffrogiau yng Nghymru.

Meddai: "Un diwrnod 'nes i gerdded mewn i siop yn Llandeilo gyda ffrind a dweud yn uchel pan o'n i ddim yn gwybod bod pobl yn fy nghlywed 'os fysa siop briodas 'da fi bydde fan hyn yn berffaith!' O fewn tridiau ges i alwad ffôn gan y perchennog yn dweud bydd y siop yn dod i fyny ar y farchnad a gofyn a bydde ddiddordeb gen i.

"Yn eistedd gyferbyn â fi oedd Elinor Jones y gyflwynwraig. Roddes i'r ffôn lawr a dweud wrth Elinor pwy odd ar yr alwad a dwedodd hi 'cer amdani! Ma' rhaid ti wneud e!' ac o fewn pythefnos roedd yr adeilad gyda fi ac oedd eisie llenwi fe gyda ffrogiau priodas.

"O fewn y flwyddyn nathon ni ennill accolade mawr sef Siop Briodas y Flwyddyn, a ni wedi ennill y wobr na 14 gwaith mewn 16 mlynedd."

Ffynhonnell y llun, Huw Rees
Disgrifiad o’r llun,

Huw yn archwilio un o'r ffrogiau yn ei siop

"Yn ystod y flwyddyn gyntaf roedd pobl yn dod aton ni am mai 'Huw Fash S4C' odd berchen yn lle, ond rwy'n credu ers hynny ni wir wedi ennill ar y farchnad ble mae pawb yn cael gwasanaeth un i un drwy'r amser, a ni ar gael ar y ffôn bore, dydd a nos.

"Ni wedi cael y fraint o fod yn rhan o ddiwrnodau arbennig pobl. Mewn siop briodas wrth gwrs chi'n prynu gwisg ar gyfer blwyddyn neu ddwy yn y dyfodol, ac yn yr amser hynny mae gymaint o bethau'n gallu digwydd – salwch pobl, eu rhieni, colli pobl fel mamau yn cael canser, ac ni wedi bod yno felly i'r ferch drwy'r cyfan ac mae hynny wir yn fraint nid yw pawb yn ei gael."

Ffynhonnell y llun, Huw Rees
Disgrifiad o’r llun,

Huw gyda staff ei siop, Nia, Marie a Sara

Mae'r un aelodau staff wedi bod gyda Huw ers blynyddoedd.

"Mae tair wedi gweithio i mi dros y blynyddoedd – Marie pan agorodd y siop, daeth Nia cwpl o flynyddoedd wedyn, a daeth Sara ar brofiad gwaith 'da ni ond 'nath hi fyth gadael. Mae pob aelod o'r staff yn teimlo fel teulu i fi, achos dwi wedi diodde' tipyn dros y blynyddoedd gyda'n hiechyd – ges i drawiad a llawdriniaeth ar y galon, a wnaethon nhw redeg y siop.

"Yn ystod y blynyddoedd d'wethaf dwi wedi cael clefyd yr aren a dwi ar dialysis, ac mae merched y siop wedi bod yn gryf iawn ac yn gefnogol dros ben drwy'r adeg yma i gyd – maen nhw'n ffantastig o bobl."

Cau'r siop

Daeth y cyhoeddiad yn ddiweddar bod Huw yn bwriadu cau'r siop yn Llandeilo, yn bennaf oherwydd ffactorau iechyd.

"Beth dwi wedi darganfod dros y pedair blynedd d'wethaf yw bod iechyd yn bwysig iawn, ac mae trio canolbwyntio ar siop briodas ble mae pob manylyn yn cyfri, yn anodd iawn pan chi wedyn yn gorfod mynd i'r ysbyty i gael triniaeth," meddai.

"Erbyn hyn dwi'n gwneud dialysis adref, ond wrth gwrs mae'n cymryd wyth awr ar y tro, pum nosweth yr wythnos. Daeth y cyfle i fi benderfynu ar y pethau pwysig mewn bywyd.

"Felly, er bod un drws yn cau gyda'r siop briodas, rwy'n hyfforddi nawr i fod yn celebrant, sy'n golygu bydde i methu gwerthu'r ffrogiau priodas, ond fydda i'n gallu priodi'r merched yn lle. Dwi'n gwneud cwrs mis ar y we, ac arholiadau'n rhan ohono, ac felly ymhen chwe mis fydda i'n gallu priodi a charu pobl.

"Un o'r pethau fydd yn denu pobl ata i fel celebrant yw'r ffaith pan fydda i'n mynd i'r cartref yn y bore fydda i'n gallu helpu i wisgo'r ferch hefyd a gwneud siŵr bod popeth yn ei le."

Ffynhonnell y llun, Huw Rees
Disgrifiad o’r llun,

Huw gyda'r enwog 'Sash Huw Fash' i'r unigolyn mwyaf crand mewn digwyddiad - yma, mae Huw yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd

"Mae fy iechyd i'n iawn heddiw", meddai Huw.

"Mae hwn yn rhywbeth oesol, ble os na cha i transplant fydda i ar y dialysis am byth, felly mae angen ei wneud yn rhywbeth sy'n rhan o fywyd bob dydd.

"Dyna pam mae cau'r siop wedi bod yn benderfyniad mor bwysig – mae angen amser nawr i fi fy hun, ac i ddewis i wneud pethe eraill hefyd. Ni wedi bod yna 16 o flynydde felly ni 'di cael good run am ein harian.

"Dydy'r penderfyniad i gau'r siop ddim am fy ngwella i o'r cyflwr, ond mi fydd o'n well i fy iechyd i. Ambell i fore pan ti'n dod oddi ar y peiriant (dialysis) ti'n teimlo'n iawn, a dyddie eraill ti'n teimlo'n drained, ac felly'n her i gofio beth mae pawb eisiau o ryw wisg benodol. Felly, fi moyn gadael pan ni dal yn cynnig gwasanaeth o'r safon orau, do'n i ddim isho dim byd i slipio.

"O'n i ddim moyn gwerthu'r siop achos fy enw i sydd ar y siop, a dwedodd fy nhad wrtha i pan nes i agor y siop 'beth yw gwerth dy enw di?', a does dim cuddio tra bo'ch enw chi sydd ar flaen y siop.

"Ges i gynigion i brynu a buddsoddi yn y siop, ond beth o'n i'n poeni oedd bod rhywbeth yn mynd o'i le efo'r siop ar ôl fi adael a bod fy enw i dal ar yr arwydd – dyna pam 'nes i benderfynu bydde'n well cael clean break.

"Mae'r staff yn gwybod ers tri mis felly gafon nhw chwe mis o rybudd, ac maen nhw am ailhyfforddi i swyddi eraill, felly mae pawb yn gadael efo meddylfryd eitha' positif - bydd neb yn crio wrth y drws wrth ni adael a bydd parti mawr pan ni'n cau ym mhenwythnos olaf mis Mawrth!"

Ond mae Huw yn deud bod dim bwriad i adael y sioe Heno.

"Na, fi wrth fy modd yn gwneud y stwff teledu ac mi fydda i ar y sioe cyn hired ac maen nhw eisiau fi 'ma!"

Pynciau cysylltiedig