Arestio dau ar ôl i ddyn farw mewn gwrthdrawiad ar yr A465

- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A465 rhwng Rhymni a Dowlais.
Bu farw dyn 20 oed o Frynmawr yn y fan a'r lle, ar ôl i feic cwad gael ei ddarganfod wedi troi drosodd am tua 04:50, ddydd Sadwrn 31 Mai.
Mae'r heddlu yn credu y gallai ail gerbyd, BMW gwyn a gafodd ei ddarganfod wedi'i losgi'n llwyr yn ardal Dowlais, wedi bod yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Mae dyn 40 oed o Ferthyr yn y ddalfa ar hyn o bryd ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a gyrru o dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol.
Cafodd ail ddyn 37 oed o Ferthyr ei arestio ar amheuaeth o newid cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr - mae'n parhau yn nalfa'r heddlu ar hyn o bryd.
Mae teulu'r dyn fu farw wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth, meddai'r heddlu ac maen nhw'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl