Beirniadaeth Plaid Cymru yn 'sothach' - Starmer

"Rwyf am arwain gwlad lle rydym yn cyd-dynnu," meddai Syr Keir Starmer
- Cyhoeddwyd
Mae Syr Keir Starmer wedi cyhuddo arweinydd seneddol Plaid Cymru o siarad "sothach", ar ôl iddi feirniadu ei rybudd bod y DU mewn perygl o ddod yn "ynys o ddieithriaid" heb newidiadau i'r system fewnfudo.
Yng Nghwestiynau i'r Prif Weinidog, gofynnodd Liz Saville Roberts iddo a oedd "unrhyw gred sydd ganddo sy'n goroesi wythnos yn Downing Street?"
"Oes, y gred ei bod hi'n siarad sothach (rubbish)," atebodd Syr Keir.
Wrth amddiffyn sylwadau a wnaeth ddydd Llun, dywedodd Starmer fod angen system fewnfudo ar y DU "yn seiliedig ar egwyddorion rheolaeth, dethol a thegwch".
'Taro nerf'
Ddydd Llun, datgelodd y prif weinidog gynlluniau i wahardd recriwtio gweithwyr gofal o dramor, tynhau mynediad at fisâu gweithwyr medrus a chodi'r costau i gyflogwyr mewn ymdrech i leihau mudo net.
Addawodd y byddai hyn yn golygu y byddai mudo net yn gostwng yn "sylweddol" dros y pedair blynedd nesaf.
Dywedodd wrth ddarlledwyr fod y DU mewn perygl o "ddod yn ynys o ddieithriaid" heb reolau cryf ar fewnfudo ac integreiddio.

Liz Saville Roberts: "A oes unrhyw gred sydd ganddo sy'n goroesi wythnos yn Downing Street?"
Yng Nghwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mercher, dywedodd Liz Saville Roberts wrth Dŷ'r Cyffredin: "Siaradodd y prif weinidog hwn unwaith am dosturi ac urddas i fewnfudwyr, ac am amddiffyn symudiad rhydd.
"Nawr mae'n sôn am 'ynysoedd o ddieithriaid' ac 'adfer rheolaeth'. Mae'n rhaid i rywun yma ddatgelu hyn.
"Ymddengys mai'r unig egwyddor y mae'n ei hamddiffyn yn gyson yw pa un bynnag a glywodd ddiwethaf mewn grŵp ffocws. Felly rwy'n gofyn iddo, a oes unrhyw gred sydd ganddo sy'n goroesi wythnos yn Downing Street?"
Atebodd Syr Keir: "Ie, y gred ei bod hi'n siarad sothach.
"Rwyf am arwain gwlad lle rydym yn cyd-dynnu ac yn cerdded ymlaen fel cymdogion ac fel cymunedau, nid fel dieithriaid, a rhoddwyd hynny i gyd mewn perygl gan y llywodraeth ddiwethaf wrth golli rheolaeth ar fewnfudo, a dyna pam rydym yn trwsio'r system yn seiliedig ar egwyddorion rheolaeth, dethol a thegwch," ychwanegodd.
Ar ôl Cwestiynau i'r Prif Weinidog, dywedodd Liz Saville Roberts bod ei sylwadau hi wedi "taro nerf".
"Mae wynebau llawer o ASau Llafur yn adrodd eu stori eu hunain – mae llawer ohonyn nhw'n gwybod fy mod i'n iawn," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill
- Cyhoeddwyd20 Awst 2024