Dirgelwch y Fedal Ddrama bellach yn 'fater i'r gymdeithas theatrig'
- Cyhoeddwyd
Gyda phedwar mis ers gohirio seremoni'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Pontypridd, mae galwadau ar yr Eisteddfod Genedlaethol i fod yn fwy tryloyw yn parhau.
Dywedodd y dramodydd a'r cyfarwyddwr theatrig Cefin Roberts nad oedd cyfarfod i drafod y sefyllfa yn ddiweddar wedi rhoi'r atebion y mae'n teimlo sydd eu hangen.
Wrth siarad ar raglen Hawl i Holi BBC Radio Cymru, dywedodd ei bod hi felly yn fater i'r "gymdeithas theatrig yng Nghymru ddod at ei gilydd i drafod hwn yn hytrach na'r Steddfod".
Dywedodd yr Eisteddfod eu bod "wedi trafod a gwrando ar farn ein panelau a'n pwyllgorau ers yr Eisteddfod, fel sy'n digwydd yn flynyddol, wrth i ni werthuso'r prosiect a'r ŵyl, er mwyn sicrhau bod ein prosesau'n addas ar gyfer y dyfodol".
'Pawb wedi eu mygu yn y drafodaeth'
Mae dros 150 o ddramodwyr, llenorion, beirdd ac academyddion wedi arwyddo llythyr agored at yr Eisteddfod yn galw am esboniad ynghylch canslo'r fedal.
Fis diwethaf fe wnaeth Dr Gareth Llŷr Evans, cadeirydd panel canolog theatr yr Eisteddfod, arwain sesiwn 'Cynrychioli Cynrychiolaeth'.
Pwrpas y sesiwn oedd cynnal "trafodaeth amserol am gynrychiolaeth yn y theatr", meddai'r Eisteddfod.
Nid oedd hawl i'r wasg fod yn y cyfarfod, ond disgrifiodd Cefin Roberts y sesiwn fel "siom".
Er ei fod yn cydnabod fod "rhai pobl yn dweud fod 'na bethau difyr wedi eu trafod", dywedodd "dwi'm yn meddwl bo' ni fymryn yn nes i'r lan o fod wedi cael y symposiwm".
"Ma' pawb yn teimlo eu bod wedi cael eu mygu yn y drafodaeth ac yn ysu am gael bod yn rhan o'r drafodaeth sy'n dod â ni'n nes at ein gilydd."
Roedd o'r farn felly fod "angen i'r gymdeithas theatrig yng Nghymru ddod at ei gilydd i drafod hwn, yn hytrach na'r Steddfod".
Un arall fu'n lleisio ei farn ar y rhaglen oedd Llyr Gruffydd AS, a dywedodd ei fod dal yn y niwl ynghylch y sefyllfa.
Roedd yn feirniadol o'r ffordd y mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi trin y mater gan ddweud ei fod wedi creu "vacuum llwyr".
"Roedd pob math o theorïau yn hedfan o gwmpas wedyn ac roedd y peth yn mynd yn gylch dieflig, a dwi'n meddwl mai dyna lle mae'r camgymeriad wedi bod," meddai.
Dywedodd y byddai'n well pe bai'r Eisteddfod wedi "rhoi cardiau ar y bwrdd a bod yn gwbl dryloyw".
"Mae just yn teimlo fel eu bod nhw'n trio cuddio rhywbeth a dwi wir ddim yn meddwl eu bod nhw."
Dywedodd ei fod yn fater anodd, ond mai'r "ffordd i ddelio â materion anodd yw siarad".
- Cyhoeddwyd14 Awst 2024
- Cyhoeddwyd9 Awst 2024
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2024
Mewn datganiad i Hawl i Holi, dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Fel rydyn ni wedi'i ddatgan yn gyson, ni allwn ddatgelu mwy am gystadleuaeth y Fedal Ddrama, ac mae hynny er mwyn gwarchod y cystadleuwyr a'r beirniaid a fu'n rhan o'r broses eleni.
"Rydyn ni wedi trafod a gwrando ar farn ein panelau a'n pwyllgorau ers yr Eisteddfod, fel sy'n digwydd yn flynyddol, wrth i ni werthuso'r prosiect a'r ŵyl, er mwyn sicrhau bod ein prosesau'n addas ar gyfer y dyfodol."
Gallwch wrando ar raglen Hawl i Holi yn llawn yma.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2024