'Angen sicrwydd o drefn Eisteddfod' yn sgil atal y Fedal Ddrama

Paul Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Griffiths yn paratoi i yrru llythyr agored at yr Eisteddfod Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd

Mae dramodydd yn paratoi i yrru llythyr agored at yr Eisteddfod yn gofyn am “sicrwydd o drefn Eisteddfod” yn sgil atal y Fedal Ddrama eleni.

Mae llythyr y dramodydd a'r beirniad Paul Griffiths bellach wedi cael cefnogaeth dros 50 o enwau - gan gynnwys dramodwyr, llenorion, beirdd ac academyddion.

Fe wnaeth yr Eisteddfod ganslo'r Fedal Ddrama yn ystod wythnos y brifwyl, gan ddweud bod y penderfyniad wedi ei wneud ar ôl y broses o feirniadu'r gystadleuaeth.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Mr Griffiths bod y “sefyllfa yn fregus iawn, iawn” gan ddweud bod angen parchu “yr holl batrwm sylfaenol cystadlu”.

Dywedodd yr Eisteddfod eu bod wedi cynnal sgwrs ar gyfer y sector a "gwrando ar farn ein panelau a’n pwyllgorau... er mwyn sicrhau bod ein prosesau ni’n addas ar gyfer y dyfodol".

Dywedodd Mr Griffiths fore Mawrth: “Ma' nhw 'di torri y drefn eisteddfodol a ma' hynny wrth gwrs yn mynd i gael effaith ar yr holl gystadleuaeth lenyddol, oherwydd pwy sy’n cael sgwennu am ba gymuned?

“Ma' 'na awduron, llenorion wedi cysylltu â fi a d'eud ma' gynna nhw ofn rŵan - 'dwi 'di trio cyfleu y byd da ni’n byw ynddi, dwi 'di creu cymunedau traws, dwi 'di creu cymeriadau hoyw, anabl, du, pa bynnag gymuned, a rŵan ma' gen i ofn dwi am gael fy nghosbi'.”

Ni wnaeth yr Eisteddfod roi rheswm am ganslo'r gystadleuaeth ar y pryd, ond dywedodd un o'r beirniaid mai "nid sensora oedd eu bwriad ond gwarchod pawb a oedd ynghlwm â’r gystadleuaeth a’r gymuned roedd y dramodydd yn honni ei chynrychioli".

Cafodd sesiwn “Cynrychioli Cynrychiolaeth” ei arwain gan Dr Gareth Llŷr Evans - cadeirydd panel canolog theatr yr Eisteddfod - ddydd Mercher diwethaf.

Bwriad y sesiwn oedd cynnal "trafodaeth amserol am gynrychiolaeth yn y theatr", meddai'r Eisteddfod, a gwneud i bobl deimlo'n fwy hyderus wrth fynd ati i greu yn y dyfodol.

'Sefyllfa fregus'

Nid oedd gan y wasg yr hawl i fod yn bresennol gan ei fod yn gyfarfod i’r sector, meddai’r Eisteddfod.

Yn ôl Mr Griffiths roedd y sesiwn yma yn “ddwy awr o bregeth” ar “feddiant diwylliannol” a’r angen i ddramodwyr a llenorion “siarad efo’r cymunedau 'ma 'da ni yn gynnwys yn ein gwaith".

“Doedden ni ar-lein ddim yn cael gweld pwy arall oedd ar-lein," meddai Mr Griffiths.

"Doedd 'na ddim modd i ni wneud sylwadau fel sy’n arferol mewn unrhyw fath o waith ar-lein fel cynulleidfa.

"Yr unig fodd i gysylltu oedd drwy’r blwch cwestiwn.

“Felly y cwbl gafwyd oedd dwy awr o bregeth – pregethu academaidd gan amlaf gyda 'chydig bach o flas theatrig."

Roedd 15 munud i ofyn cwestiynau ar ddiwedd y sesiwn, meddai, ble trafodwyd tri chwestiwn.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cystadleuaeth y Fedal Ddrama ei hatal yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf eleni

Aeth ymlaen i ddweud mai “gwarchod yw’r gair mawr sydd wedi cael ei ddefnyddio ers mis Awst” gan ychwanegu “gwarchod pwy ydan ni mewn gwirionedd?”

“Beth am y cannoedd eraill, fel cystadleuwyr, cyn-gystadleuwyr, cystadleuwyr 'leni – beth am warchod rheiny?

"Beth am ddarpar gystadleuwyr eisteddfod y dyfodol?"

Mae Mr Griffiths o’r farn bod yr “holl beth wedi creu sefyllfa fregus iawn, iawn, iawn”.

Galw am barchu 'patrwm cystadlu'

Dywedodd bod angen parchu “yr holl batrwm sylfaenol cystadlu”.

“'Da chi’n creu darn o waith, 'da chi’n rhoi’r darn o waith yna o dan ffug enw, yn anhysbys.

“Ma' 'na dri beirniad wedyn yn edrych, yn darllen y gwaith, yn pwyso a mesur ac yn dyfarnu yn ôl eu profiad nhw.

"Fedrwch chi ddim disgwyl i’r beirniad hynny gael yr holl wybodaeth am yr holl gymunedau 'ma 'da ni’n sôn amdanyn nhw.

“Os oedd y ddrama yn deilwng o gael ei gwobrwyo, wedi cael ei dewis gan dri beirniad profiadol, yna pwy sydd wedi camu i’r twll a 'di d'eud a gofyn y cwestiwn 'ydy hyn yn deg?'”

Mae Mr Griffiths yn parhau i gasglu llofnodion i'w lythyr agored, gyda'r bwriad o'i yrru'n swyddogol at yr Eisteddfod yn fuan.

Mewn datganiad, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: “Yn dilyn yr Eisteddfod eleni, cadarnhawyd y byddai’r Eisteddfod yn cynnal sgwrs ar gyfer y sector yn yr hydref i drafod y pynciau sydd wedi codi dros y misoedd.

"Gwnaethpwyd hyn yr wythnos ddiwethaf.

“Rydyn ni hefyd wedi gwrando ar farn ein panelau a’n pwyllgorau ers yr Eisteddfod wrth drafod yr ŵyl a’n prosesau eleni, er mwyn sicrhau bod ein prosesau ni’n addas ar gyfer y dyfodol.”