Canslo'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf

Disgrifiad,

Yr ymateb ar y Maes i'r dirgelwch dros atal y Fedal Ddrama

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi canslo'r Fedal Ddrama eleni.

Daeth y penderfyniad ar ôl y broses o feirniadu'r gystadleuaeth, medd y brifwyl mewn datganiad.

Bydd adolygiad o gystadlaethau cyfansoddi'r Eisteddfod yn sgil y penderfyniad.

Does dim manylion pellach am y rheswm dros ganslo'r fedal ar hyn o bryd.

Y Fedal Ddrama oedd i fod yn brif seremoni'r dydd yn y Pafiliwn ddydd Iau.

Disgrifiad,

Y cyn-newyddiadurwr Arwyn Jones, oedd yn arwain yn y Pafiliwn, yn cyhoeddi'r newyddion o'r llwyfan

Mewn datganiad, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Yn dilyn trafodaethau a gafwyd ar ôl cwblhau’r broses o feirniadu’r Fedal Ddrama, daethpwyd i’r penderfyniad bod yn rhaid atal y gystadleuaeth eleni.

"Yn ogystal, ni fydd beirniadaeth yn cael ei chyhoeddi yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.

"Bydd yr Eisteddfod yn adolygu prosesau a gweithdrefnau ein cystadlaethau cyfansoddi yn sgil y penderfyniad hwn."

Disgrifiad o’r llun,

Y Fedal Ddrama oedd i fod yn brif seremoni'r dydd yn y Pafiliwn ddydd Iau

Ychwanegodd yr Eisteddfod na fyddan nhw na'r beirniaid yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater.

Y dasg oedd cyfansoddi drama lwyfan ac nid oedd unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

Geinor Styles, Mared Swain a Richard Lynch oedd y beirniaid eleni.

Fel arfer, bydd y wobr yn mynd i ddrama sydd â photensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.