Rhedeg 100 milltir ar gyfer ymchwil canser er cof am Dewi Pws
- Cyhoeddwyd
Mae brawd-yng-nghyfraith y diweddar Dewi 'Pws' Morris yn rhedeg 100 milltir yn ystod mis Medi i godi arian at ymchwil canser.
Bu farw Dewi Pws, un o ffigyrau mwyaf amryddawn a phoblogaidd byd adloniant Cymru, yn 76 oed ddiwedd Awst.
Roedd wedi dioddef o ganser.
Dywedodd Rhys Roberts fod "salwch Dewi wedi digwydd mor frawychus o sydyn - roedd o'n sioc i ni gyd".
Ychwanegodd fod cwblhau'r her yn "neud i fi deimlo llawer gwell 'mod i'n gallu cyfrannu mewn rhyw ffordd".
Dywedodd y tad i dri bod y syniad wedi dod i'r fei "pan oedd Dewi'n sâl yn yr ysbyty a ddoth hysbyseb fyny ar y cyfrifiadur am yr her".
"Gyda'r sefyllfa fel oedd hi ac efo nifer fawr o aelodau o fy nheulu wedi dioddef o ganser, 'nes i roi fy enw 'mlaen heb feddwl pa mor bell oedd 100 [milltir] i ddweud y gwir."
Er ei fod yn un sy'n rhedeg yn rheolaidd ac wedi gwneud marathon yn y gorffennol, dywedodd ei fod yn bwriadu cwblhau'r her yn "ara' bach a 'neud 'chydig bach bob diwrnod neu bob yn ail ddiwrnod i gadw fynd".
Dywedodd ei fod yn "cael cefnogaeth gan aelodau o’r teulu, maen nhw’n dod allan hefo fi, mae’r tri o blant wedi bod efo fi yn 'neud 'chydig o filltiroedd ar y tro ac mae pobl gwaith am ddod gyda fi wythnos nesaf".
Yr her yn mynd 'lot gwell na'r disgwyl'
Aeth ymlaen i ddweud fod "cymaint o waith wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf" o ran ymchwil canser gan ychwanegu fod ei wraig a'i dad wedi dioddef o'r salwch.
"Cymaint o ymchwil gall ei wneud, gore posib, a'r unig ffordd i ariannu hynny ydy i wneud ymgyrchoedd o’r fath yma."
Dywedodd fod yr her yn mynd "lot gwell na o'n i'n disgwyl" a'i fod wedi gosod targed o £200.
Er ei fod yn dweud fod ganddo dipyn o'r rhedeg ar ôl, dywedodd ei fod wedi casglu tua £900 hyd yma - "a’r pres yn dal i lifo mewn".
Ddydd Iau, daeth cannoedd o bobl at ei gilydd i angladd Dewi Pws, gyda degau o bobl yn sefyll ar hyd strydoedd Nefyn ar gyfer taith olaf y diddanwr poblogaidd trwy'r dref lle bu'n byw tan ei farwolaeth.
Roedd yn fwyaf adnabyddus fel actor a chanwr, ond roedd hefyd yn fardd, awdur, cyflwynydd, cyfansoddwr ac ymgyrchydd iaith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst
- Cyhoeddwyd22 Awst
- Cyhoeddwyd22 Awst