Ar long i Lydaw i nôl nionod
- Cyhoeddwyd
Dros yr haf mae criw o forwyr ar hen long hwyliau wedi bod yn dilyn llwybrau masnachu sydd wedi bodoli ers canrifoedd rhwng Cymru a Llydaw gan ddod â bwydydd gan ein cefndryd Celtaidd yn ôl dros y môr i Gymru.
Mae llong y Klevia bellach wedi ei hangori am y gaeaf ym Mhorth Penrhyn ger Bangor ond rai wythnosau nôl roedd ei bwrdd yn llawn nionod, seidr a halen o Lydaw.
Dyma’r bumed flwyddyn i’r daith yma gael ei gwneud o ogledd Cymru a bydd y criw yn codi hwyliau eto’r flwyddyn nesaf i wneud y daith unwaith yn rhagor.
Cymdeithas budd cymunedol Celtic Coasts – Sail and Trade sy’n trefnu’r daith, a’r nod ydi ail-greu llwybrau masnachu cynaliadwy a dysgu sgiliau’n ymwneud â’r diwydiant llongau.
Nionod a’r ‘Sioni Winwns’
Mae Llydaw’n enwog am nionod pinc Roscoff. Hyd at saithdegau’r ganrif ddiwethaf roedd nifer o bobl cefn gwlad Cymru yn cael cyflenwad o’r nionod yma gan y ‘Sioni Winwns’, gwerthwyr nionod o Lydaw oedd yn teithio Cymru’n gwerthu eu nionod enwog wedi eu clymu’n rhaffau.
- Cyhoeddwyd14 Awst 2018
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021
Mae criw’r Klevia wedi gallu gwerthu’r nionod nôl yng Nghymru unwaith eto ynghyd â halen môr enwog y wlad, halen Guerande. Roedden nhw hefyd yn cario ambell focs o win a seidr lleol ond dim ond at eu defnydd eu hunain roedd yr alcohol oherwydd rheolau mewnforio.
“Symbolaidd ydy’r cargo mewn gwirionedd,” meddai Adrian Farey, trefnydd y daith ac un o sylfaenwyr y cwmni nid-er-elw.
“Ond mae’n gadael inni ddangos be' sy’n bosibl. Rydyn ni’n gwneud y teithiau yma er mwyn casglu gwybodaeth am gleientiaid, cwsmeriaid, cynhyrchwyr, y costau a’r holl anawsterau trefnu y byddai unrhyw fenter fel hyn yn dod ar eu traws.”
Mae Llydaw a Chymru yn rhannu gwreiddiau ieithyddol a diwylliannol a’r cysylltiadau morwrol a masnachol wedi bodoli rhwng y ddwy wlad, a’r gwledydd Celtaidd eraill, ers canrifoedd.
Roedd y daith o Borth Penrhyn drwy Fôr Iwerddon, heibio Abergwaun a Chernyw ac ar draws y Sianel i ogledd Llydaw ac yn ôl tua 800 milltir i gyd. Gyda’r môr yn dymhestlog ar brydiau fe gymerodd bythefnos i’w chwblhau.
Roedd y 12 oedd ar y daith yn gyfuniad o forwyr profiadol a di-brofiad ac mae’r cwmni’n awyddus i gynnig lle i unrhyw un sydd eisiau dysgu a theithio.
Un o’r rhai oedd yn hwylio am y tro cyntaf oedd Siôn Dilwyn Evans, mab fferm o Ddinbych sy’n gweithio fel meddyg coed (tree surgeon).
Roedd wedi clywed am y teithiau ac yn meddwl y byddai’n rhoi cynnig arni i helpu. Oherwydd ei waith roedd ei sgiliau rhaffau a dringo yn ddefnyddiol ac fe gymerodd at fywyd ar y môr.
“Roedd o’n wych, dipyn o antur, o’n i reit lwcus achos ro’n i wedi cymryd iddo fo reit hawdd,” meddai.
“Roedd o dipyn gwahanol i be' dwi wedi ei wneud o’r blaen. Dwi erioed wedi hwylio ond wedi bod ar y fferi i Ffrainc! Roedd angen cael y sea legs!
“Mae popeth yn cymryd amser, mae’n neis slofi lawr ac ymlacio dipyn bach, er dydi o ddim yn holidê! O’n i’n gweithio mewn shiffts tair awr on a chwech awr off.
“Wnes i fwynhau mynd ar hyd arfordir Cymru ar y ffordd adre a’i weld yn newid, pasio Caernarfon ac i’r Felinheli. Roedd yn teimlo fel ychydig bach o whirlwind a bod dim llawer wedi newid ond rydech chi wedi bod ar dipyn o antur.”
Yn ogystal a nôl nwyddau gan gynhyrchwyr organig lleol yn Roscoff, Aber Wrac’h a Moguériec, mae’r criw wedi gwneud cysylltiadau arbennig yn Douarnenez - y porthladd pysgota y canodd Meic Stevens amdani.
Eu gobeithion yn y dyfodol yw gallu gwerthu’r holl gynnyrch gyda’r trwyddedau a’r hawliau mewnforio cywir a masnachu rhwng porthladdoedd Cymru a draw i Iwerddon hefyd.
Meithrin crefftwyr
Yn ogystal â dangos y potensial i fasnachu yn gynaliadwy drwy ddefnyddio gwynt a hwyliau yn hytrach na thanwydd ffosil, pwrpas arall y fenter yw meithrin sgiliau seiri ac adeiladwyr llongau.
Maen nhw’n gwneud hynny drwy adnewyddu hen gychod gan gynnig prentisiaethau yn eu gweithdy ym Mhorth Penrhyn.
Teimlad o anesmwythyd bod y sgiliau yma’n diflannu, yn ogystal â’r coed lleol i gyflenwi’r diwydiant, oedd sbardun y syniad, meddai Adrian sy’n rheolwr coetiroedd wrth ei waith bob dydd.
“Drwy redeg cwch, a gwneud digon i dalu am ei thrwsio a’i hailadeiladu, yna rydyn ni’n ymestyn i’r gymuned ehangach – gofaint, seiri, pobl sy’n tyfu a rheoli’r coed.
“Dwi’n ymwybodol iawn bod diwydiant lleol bron wedi diflannu a'r sgiliau hynny i gyd bron wedi mynd. Dwi’n credu eu bod nhw’n hanfodol os am unrhyw fath o ddyfodol cynaliadwy i Gymry y bydd angen adfywio’r diwydiannau lleol yma a'r adnoddau sy’n mynd efo nhw,” meddai.
Lle’r oedd yna fasnachu’n arfer bod i bedwar ban byd, dim ond cychod pleser sydd yn ein porthladdoedd bellach i bob pwrpas, meddai Adrian.
“Rydyn ni wedi gadael i’r cyfan ddiflannu. Ond os edrychwch chi ar beth oedd yn digwydd ar hyd ein glannau a gofyn ydy hi’n bosibl gwneud hynna eto, mi faswn i’n dweud mai’r ateb ydy, gallwn!”
Mae’r teithiau i Lydaw yn cael eu hariannu drwy werthu llefydd ar y cwch, a thrwy wneud eu gorau i gadw’r costau i lawr gobeithiant dargedu pobl ifanc sydd â diddordeb fel eu bod nhw’n dod nôl, efallai fel criw.
Hefyd yn allweddol mae ewyllys da perchennog y cwch, ac un o gyd-syflaenwyr Celtic Coasts, Scott Metcalfe, a oedd ar y daith gyda’i wraig, Ruth.
Adeiladwr cychod yw Scott sydd bellach yn un o berchnogion newydd marina Felinheli lle mae’n gobeithio annog treftadaeth ddiwydiannol yr harbwr.
Mae Adrian yn cyfaddef ei fod yn ramantydd ond mae’n hollol ddifrifol am y potensial i gludo nwyddau mewn ffordd gynaliadwy ac ail-ddysgu crefftau traddodiadol: “Mae’r môr yno, mae’r gwynt yno.
“Mae angen y swyddi yma,” meddai Adrian sydd bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i unrhyw ran o’r cynllun – o adeiladu cychod i hwylio ar daith fasnach.
“Mae’r potensial i Gymru yn ffantastig, mae ganddi gymaint i’w gynnig ond fel mae hi, mae beth sy’n digwydd yn drychinebus. Os na allwn ni droi pethau rownd, mae’n edrych yn ddu arnon ni. Ond mae’r potensial yn rhyfeddol!”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2024
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd17 Awst 2023