Dynes gafodd bum strôc a gwaedlif ar yr ymennydd yn nofio Llyn Padarn
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Fôn ddechreuodd nofio gwyllt ar ôl cael gwaedlif ar yr ymennydd a pum strôc wedi nofio hyd Llyn Padarn i gasglu arian at achos da.
Fe gafodd Heather Hughes, o Lanfairpwll, ei tharo’n ddifrifol wael bum mlynedd yn ôl gan dreulio wythnosau yn ysbyty arbenigol Walton, Lerpwl, ac Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Ond wedi i’w ffrind ei pherswadio i ddechrau nofio gwyllt fel rhan o’i hadferiad mae wedi bod yn mynd yn gyson drwy’r flwyddyn - a nawr wedi llwyddo i nofio am dros ddwyawr yn y llyn ger Llanberis.
"Do’n i erioed wedi sylweddoli pa mor hir ydi Llyn Padarn,” meddai.
"Dwi ddim yn athlete, felly i 'neud hynny roedd o’n her i fi. I gael pobl pen arall yn cheerio pan nesh i gyrraedd, roedd o’n emosiynol iawn."
Roedd Ms Hughes, sy’n 56 oed, yn gadael Venue Cymru yn Llandudno ar 15 Ebrill 2019 pan gafodd boen dychrynllyd yn ei phen.
"Chesh i ddim rhybudd - dim byd o gwbl," meddai. "A nesh i dd'eud yn syth ‘dwi’n meddwl mod i 'di cael brain haemorrhage’."
Aeth i’w gwely gyda thabledi lladd poen cyn cael ei pherswadio i fynd i Ysbyty Gwynedd, Bangor.
O fewn dim roedd hi’n cael ei gyrru ar frys i Lerpwl lle achubodd tîm meddygol Walton ei bywyd.
Cafodd wybod bod ganddi hydrocephalus, pan mae hylif yn casglu ar yr ymennydd, a chael triniaeth cyn dychwelyd i Fôn pum wythnos yn ddiweddarach.
Nofio yn hwb i iechyd meddwl
O fewn wythnosau roedd hi'n ôl yn Ysbyty Gwynedd ar ôl cael pedwar strôc.
Fe gafodd un arall yn 2021 ac roedd y cyfan yn effeithio’i hiechyd corfforol a meddyliol.
"Roedd 'na ffrind wedi gweld 'mod i angen help a dyma hi’n dweud ‘ti’n dod i nofio’,” meddai.
"Dwi’n cofio mynd fewn i’r môr am y tro cynta’ a gweiddi ‘o ma’n oer’... a dyma fy ffrind yn d'eud 'gwranda, ti wedi geni tri o blant jest anadla fewn ac allan trwy dy geg a fyddi di’n iawn'.
"Roedd hi’n gwybod y bydda fo’n llesol. Ti’n rhoi dy ben o dan y dŵr a ti’n cael yr endorphins hit yma. Dwi wrth fy modd.
"Ma' 'ngŵr yn gwybod os dwi heb fod am ychydig o ddyddiau."
Bellach mae hi’n mynd pedair gwaith yr wythnos, fel arfer i draethau dwyrain Môn, ac yn nofio drwy’r flwyddyn heb wisg cadw’n gynnes.
Ar ôl nofio lled Llyn Padarn yn ddiweddar fe benderfynodd nofio’r 3.2 cilomedr o bont Penllyn, Brynrefail, i ben arall y llyn yn Llanberis i gasglu arian i elusen SHINE.
Dros yr haf roedd hi’n ymarfer tra ar ei gwyliau yn Corfu gan gynyddu ei hamser yn y pwll nofio bob dydd er mwyn cyrraedd ei tharged.
Ond mae nofio mewn pwll ar un o ynysoedd Groeg yn yr haf yn wahanol i lyn dwfn yn Nyffryn Peris wrth i’r hydref agosáu.
"Mae dŵr y môr yn ysgafnach oherwydd yr halen - a do’n i’m yn gwybod hynny tan i rywun dd'eud wrtha i," meddai.
"Roedd y llyn yn choppy pan nesh i gyrraedd hanner ffordd a’r gwynt yn erbyn fi. Ar adegau do’n i’m yn meddwl mod i'n symud o gwbl.
"Pan nesh i gerdded allan 'nath fy nghoesau i jest fynd - roeddan nhw fel jeli! Ond nesh i 'neud o."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd31 Ionawr