'Gwireddu breuddwyd': Cynrychioli Cymru ar ôl trawsblaniad calon
- Cyhoeddwyd
Pan wnaeth Gareth Jones wisgo'r crys coch a rhedeg ar y cae pêl-droed yn Yr Eidal fis Medi, roedd yn ystyried ei hun yn ŵr ffodus dros ben.
Ddwy flynedd yn unig ers cael trawsblaniad ar ei galon, mae wedi cynrychioli Cymru yng Nghwpan Pêl-droed Trawsblaniad y Byd.
Cennydd Davies sydd â stori y gŵr o'r Felinheli.
Cael ail gyfle
Mae yna sawl ffordd i gyrraedd y copa mewn bywyd ac mae’r daith i Gareth Jones o’r Felinheli ger Caernarfon wedi bod yn ymhell o fod yn esmwyth a di-drafferth.
Ddwy flynedd yn ôl fe drawsnewidiodd bywyd y gŵr 42 oed yn gyfan gwbl pan fu’n rhaid iddo gael trawsblaniad calon; cyfnod a fyddai yn ei lethu ond na fyddai yn ei guro.
“Yr adeg yna roeddwn i yn Ysbyty Gwynedd ac yn ddifrifol wael, ac mi wnes i ddarganfod mai fy nghalon oedd yn methu arna i," eglurodd ar raglen BBC Radio Cymru Ar y Marc.
"Ges i’n symud i Fanceinion ac yn fan'na 'nes i ffeindio allan oedd rhaid i fi gael trawsblaniad, felly oeddwn yno ar beiriannau’n cadw fi i fynd.
"Ar ôl pythefnos es i ar y rhestr ar gyfer organau i gael calon newydd a'r diwrnod wedyn ges i galon! Chwe wythnos wedyn o’n i allan o'r ysbyty.
"Dwi’n ystyried fy hun yn lwcus dros ben.”
Trechu rhwystrau
Ag yntau ar y canfas a’i fywyd wedi troi wyneb i waered mi oedd yn gyfnod pryderus ac yn gyfle i bendroni ynglŷn â’r dyfodol.
“Ar ôl cael trawsblaniad mae’n rhyfedd o beth, ti’n teimlo’n unig a ti’n gweld y byd mewn ffordd wahanol; bod hi’n fath o ail gyfle mewn ffordd," eglurodd Gareth.
"Felly o’n i’n trio meddwl am rywbeth gwallgof, a nes i weld fod 'na dîm Cymru [i chwaraewyr â thrawsblaniad] ar Instagram a nes i ofyn am gêm.”
Er yn awyddus i wneud y gorau o sefyllfa hynod heriol a cheisio byw bywyd i’r eithaf doedd addasu a dygymod â’i gyflwr ddim wedi digwydd dros nos.
Gareth - sy’n parhau i weithio fel plymer - yw’r unig aelod o’r garfan sydd wedi cael trawsblaniad i’r galon a dyw chwarae gêm gorfforol, egnïol yn amlwg ddim yn dasg hawdd.
“Mae cael trawsblaniad y galon yn golygu fod hi’n anoddach na petawn i wedi gorfod cael un ar yr iau, yr aren neu’r pancreas. Ond nes i ddyfalbarhau a 'naethon nhw ddweud wrtha i am ymuno yn y sesiynau ymarfer ac er eu bod nhw lawr ym Mhen-y-bont sy' bedair awr i ffwrdd, nes i benderfynu mynd.
"'Da ni 'di chwarae mewn sawl cystadleuaeth a rŵan twrnaiment Cwpan y Byd!”
Cwpan Pêl-droed Trawsblaniad y Byd
Dyma’r tro cyntaf i gystadleuaeth o’r fath gael ei chynnal a Cymru yn un o 11 tîm yn y digwyddiad yn Cervia yn yr Eidal gyda’r rownd derfynol yn digwydd ar 14 Medi.
Mae yna saith chwaraewr ym mhob tîm ac 20 munud i bob hanner.
Yn anffodus wnaeth tîm Cymru ddim llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol wedi iddyn nhw fethu mynd allan o'u grŵp, ond fe wnaeth Gareth fwynhau'r profiad - a chreu hanes.
"Neshi sgorio pedwar gôl yn y twrnamaint ac un ohonyn nhw yn erbyn Lloegr," meddai. "Os dwi'n gywir, fi ydi'r unig chwaraewr sydd wedi sgorio yn erbyn Lloegr mewn World Cup!"
Dyma benllanw dwy flynedd anoddaf ei fywyd. Ar un adeg roedd o ar ei wely angau, ond ar ôl disgyn i’r dyfnderoedd a chyfadde’ fod 'na sawl diwrnod tywyll wedi bod, mae cyrraedd Cwpan y Byd a chynrychioli ei wlad wedi bod yn foment emosiynol.
Mae hefyd yn brawf pendant o’i gymeriad i frwydro nôl ac mae Gareth, yn ddigon naturiol, yn falch o'r hyn mae o wedi ei gyflawni.
“Mae’n deimlad arbennig," meddai. "O’n i byth 'di meddwl faswn i'n chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd. Dwi wir yn gwireddu breuddwyd."
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd15 Mai 2024
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2023