Ateb y Galw: Garry Hughes

Mae Garry Owen ar fin rhyddhau ei sengl unigol gyntaf
- Cyhoeddwyd
Prif leisydd Jambyls ac Yr Oria sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon.
Mae Garry Hughes yn dod o Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol ac ar fin rhyddhau ei sengl unigol gyntaf, Golau Stryd, sydd wedi ei sgwennu am ei blentyndod ar strydoedd Blaenau Ffestiniog.
Mae Garry wedi cymryd seibiant o gerddoriaeth tan yn ddiweddar, ac wedi gweld budd mawr o wneud hynny.
Dywedodd: "Dwi heb fod yn ddiog yn ystod yr amser yma, dwi di bod yn sgwennu’n araf bach.
"Ma' seibiant wedi rhoi amser i fi feddwl mwy am yr ochr sgwennu, ac adlewyrchu ar be' dwisho neud, sef i ista lawr, peidio brysio a jest trio sgwennu caneuon da cyn recordio."
Drwy gefnogaeth nawdd gan EOS fydd Garry hefyd yn rhyddhau EP newydd ym mis Tachwedd ac yn gobeithio gigio gyda band yn y flwyddyn newydd a pherfformio'r caneuon newydd.
Dyma ddod i adnabod Garry ychydig yn well.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Elvis yn chwarae ar dâp neu feinyl yn y tŷ.
Roedd cerddoriaeth wastad yn cael yn chwarae’n tŷ tra oedden ni’n fach.

Roedd caneuon Elvis Presley i'w clywed yn aml yng nghartref Garry pan oedd yn iau
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Adra! Yn ardal Trawsfynydd hefo’n nheulu a mynd â Hallie, y ci, am dro o gwmpas yr ardal hyfryd 'ma.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Swil, gorffeddylus... siŵr 'di hwn ddim yn air. Ydi o'n air dwi newydd ei greu?!
Dwi hefyd yn falch o be' sgen i, felly diolchgar.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Fyswn i'n dweud bod un o nosweithiau yma shwr braidd o fod yn JMJ yn y brifysgol ym Mangor. Ond, fedra i ddim cofio'r mwyafrif o'r rhain.
Dwi'n mwynhau chwarae pêl-droed hefyd, ac roedd curo'r gynghrair hefo Blaenau Amateurs a churo cwpan hefo Bermo yn uchafbwynt.

Roedd ennill y gynghrair gyda Blaenau Amateurs yn uchwfbwynt i Garry
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ma' hyn yn digwydd yn ddyddiol!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Colli Nel fy nghi gyntaf. Chwalfa llwyr!
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Chwarae ar Heno hefo Jambyls. Pedwar dyn yn trafeilio lawr i Tinopolis yn Llanelli yn y fan leiaf erioed llawn stwff oedd ddim yn ffitio!
Ddim yn gyfforddus, ond am hwyl!

Jambyls yn perfformio ar Heno ar ôl taith anghyfforddus lawr i Lanelli
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Cnoi’n rhy uchel yn ôl pob sôn a clywad yn lle gwrando ar adegau.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Harry Potter ma'n siŵr. Mae fy mhartner Amy wrth ei bodd hefo nhw, felly dwi wedi gwylio nhw o leiaf mil o weithiau, a hynny dim ond y flwyddyn yma!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Jam ar y gitar hefo John Mayer a sgwrs am bêl-droed hefo Alan Shearer a Gary Speed gan fy mod i'n cefnogi Newcastle.

Mae Garry wrth ei fodd yn mynd â Hallie y ci am dro o amgylch ei hoff ardal yng Nghymru, Trawsfynydd
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi erioed wedi bod fyny'r Wyddfa.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cael parti a bod yn ddiolchgar o be' sgen i.
Ella taflu bricsan drwy ffenest, just i weld sut ma’n teimlo!

Mae Garry yn gefnogwr brwd o Newcastle a basai'n hoffi sgwrs gyda'r diweddar Gary Speed ac Alan Shearer am bêl-droed
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun o Owain y mab yn y walet a llun scan ein babi bach sydd ar y ffordd.
Oedd gen i lun o'r chwaraewr pêl-droed Pelé wedi ei arwyddo. Ond, roedd Bobby Moore yn y llun hefyd, felly, fel Cymro, y pethau gorau i mi oedd symud o’n ei flaen.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Elon Musk dwi’n meddwl, i fi gael syniad am y lle i roi arian ar gyfer y buddsoddiad mawr nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2024