'Dim cefnogaeth' i gael diagnosis syndrom ofari polysystig
- Cyhoeddwyd
Mae dwy chwaer sy’n byw â syndrom ofari polysystig (PCOS) yn dweud iddyn nhw deimlo’n unig a heb gefnogaeth wrth geisio cael diagnosis o’r cyflwr.
Fe brofodd Annika Thomas, 39, a Sarah Davies, 44, o Sir Gaerfyrddin symptomau fel mislif anghyson, problemau ffrwythlondeb ac effaith ar eu hiechyd meddwl.
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd yn awgrymu bod y cyflwr, sy’n effeithio ar sut mae’r ofariau’n gweithio, yn dod yn fwy cyffredin.
Mae’r gwaith yn awgrymu bod angen nifer o wahanol apwyntiadau ar fenywod oherwydd yr ystod eang o symptomau, sy’n costio amcangyfrif o £1.2bn y flwyddyn i economi’r DU.
Dywedodd yr ymgynghorydd a’r athro mewn endocrinoleg, Aled Rees bod angen “buddsoddiad ac adnoddau” i helpu cleifion.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd eu cynllun iechyd menywod yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn, a’u bod yn buddsoddi mewn ymchwil.
Treuliodd Annika a Sarah flynyddoedd yn gweld gwahanol feddygon mewn apwyntiadau amrywiol cyn cael diagnosis o PCOS.
Fe sylwodd Annika fod ganddi fislif anghyson yn ei harddegau, ond aeth “tua 10 mlynedd” cyn iddi gael diagnosis.
"O'dd y doctors ddim rili yn meddwl lot am byti fe,” dywedodd.
"'Na'i gyd o'n nhw'n 'neud o'dd newid y math o contraceptive o’n i arno.
"O'dd y dyddiau yn teimlo fel misoedd. O'dd e'n flwyddyn ambell waith cyn bod unrhyw beth wedi digwydd.”
Yn fam i dri erbyn hyn, dywedodd Annika iddi gael blynyddoedd heriol cyn geni ei mab cyntaf yn 2018 trwy driniaeth IVF.
"Pryd ma' PCOS 'da ti, ti jyst moyn bod yn normal. O'dd e'n rili, rili tough.”
A hithau'n fis ymwybyddiaeth PCOS, yn ôl ei chwaer, Sarah, mae bylchau yn y system sy’n golygu ei bod wedi gorfod mynd i wahanol apwyntiadau ar gyfer y gwahanol symptomau o PCOS yr oedd hi’n eu profi.
“O’dd e fel bod y doctoriaid moyn [datrys] un peth, ond ma’ lot o bethe’ iddo fe,” dywedodd.
“O’n i ddim yn cael periods yn aml, weithie o’dd misoedd yn mynd heb gael un, ond ambell waith o’n i’n gwaedu am dros fis.
“Y croen, acne, lan a lawr ‘da pwysau drwy’r amser a dal yn gwneud ‘na nawr. Oedd e’n gallu bod yn eitha’ caled.”
- Cyhoeddwyd25 Medi 2023
- Cyhoeddwyd24 Awst 2022
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod nhw “bob amser yn flin i glywed os yw cleifion yn anhapus gyda’r driniaeth maen nhw wedi’i derbyn”.
“Rydym bob amser yn ymdrechu i wella cyfathrebu rhwng ein hadrannau fel bod cleifion yn cael eu gweld gan y clinigwr a all eu helpu orau cyn gynted â phosibl.”
Beth yw PCOS?
Mae PCOS yn gyflwr sy’n effeithio ar sawl rhan o’r corff, gan gynnwys metabolaeth a sut mae’r ofarïau’n gweithio.
Un o’r prif symptomau yw mislif anghyson o ganlyniad i’r anhawsterau gyda’r ofariau’n rhyddhau wyau yn gyson, sy’n gallu arwain at broblemau gyda ffrwythlondeb.
Mae symptomau hefyd yn cynnwys mwy o wallt ar y corff, problemau gyda’r croen, ac i rai cleifion, cynnydd mewn pwysau.
Yn hir dymor, fe allai cleifion wynebu risg uwch o iselder, gorbryder, clefyd y galon a diabetes math 2.
Galw am fwy o fuddsoddiad
Mae mwy o bobl yn cael diagnosis erbyn hyn, yn ôl yr astudiaeth ddiweddar yn Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd.
Yn ôl yr arbenigwyr, a wnaeth yr astudiaeth gyda 120,000 o fenywod ar draws y DU, mae grwpiau llai breintiedig a phobl o gefndir ethnig Asiaidd yn wynebu mwy o risg o gael y cyflwr.
Daethon nhw i’r casgliad bod angen mwy o fuddsoddiad i wella adnoddau a chefnogaeth i gleifion.
Yn ôl yr Athro Aled Rees mae cleifion yn cael eu “heffeithio’n sylweddol” gan y cyflwr a does dim triniaeth benodol ar ei gyfer.
“Fe fydden i’n annog y llywodraeth, arianwyr a phobl sy’n gwneud polisiau ynglyn â chyflwr fel PCOS i roi rhagor o fuddsoddiad," meddai.
“Ma' pobl yn gallu bennu lan gyda oedi sylweddol wrth ddod i ddiagnosis mewn amser prydlon.
“Mae pwysigrwydd hefyd bod pobl yn cael eu cyfeirio at arbenigwyr os oes angen.”
Dywedodd Katie Baskerville o Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, sy'n byw â’r cyflwr ei hun, nad yw casgliadau’r ymchwil yn dod fel syndod.
“Dwi ‘di bod yn byw efo PCOS ers o’n i’n ysgol,” dywedodd.
“O’n i’n mynd yn ôl i’r GP a 'nôl i’r ysbyty a 'dach chi just ddim yn gw'bod be' i 'neud efo’ch hun.
“Does neb yn coelio chi pan 'dach chi’n sôn am y symptomau 'ma. Does neb yn gweld y peth yn holistaidd.”
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i bob bwrdd iechyd “gymryd camau cadarnhaol i wella profiadau a chanlyniadau menywod a mynd i’r afael ag unrhyw anghydraddoldebau”.
“Eleni fe wnaethom benodi’r arweinydd clinigol cyntaf erioed ar gyfer iechyd menywod a sefydlu Rhwydwaith Iechyd Menywod sy’n datblygu’r cynllun iechyd menywod 10 mlynedd i Gymru,” ychwanegodd.
“Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar ystod o faterion iechyd menywod, gan gynnwys iechyd mislif a PCOS.
"Mae disgwyl i’r cynllun gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2024.
“Fe wnaethom ni hefyd gyhoeddi £750,000 i ymchwil sy’n canolbwyntio ar flaenoriaethau iechyd menywod i’w lansio yn 2025.”