'Bod yn Gymro' yn help wrth ddatblygu addysg Wyddeleg Gogledd Iwerddon

Iolo gyda'i wraig AislinnFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Iolo gyda'i wraig Aislinn. Mae'r ddau bellach yn byw yn ninas Galway

  • Cyhoeddwyd

Mewn cymuned mor ranedig lle mae iaith yn bwnc mor sensitif roedd gan un tad fantais wrth frwydro i gael addysg Wyddeleg i'w blant yng Ngogledd Iwerddon - y ffaith ei fod o'n Gymro.

Dyna brofiad Iolo Eilian - ynghyd â thalu staff o’i boced ei hun ar adegau - gan nad oedd o'n perthyn i un ochr wleidyddol.

Ac mae ystadegau’r ysgol yn fesur o'r llwyddiant - cynnydd o 24 i 150 disgybl, gyda rhai erbyn hyn yn dod o deuluoedd Protestannaidd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Iolo, y plant pan oedden nhw oedran ysgol - Niamh, Aoibhinn ac Uillin - a'i wraig Aislinn

Un o bentref Llanrug, ger Caernarfon, ydi Iolo ac ar ôl cyfarfod merch o Ogledd Iwerddon oedd yn y coleg gydag o yn Wrecsam yn yr 1990au fe symudon nhw i’w thref enedigol hi yn Dungannon er mwyn magu teulu.

Roedden nhw’n awyddus i’w plant gael addysg Wyddeleg ac mewn cyfweliad ar raglen Beti a’i Phobol ar BBC Radio Cymru, eglurodd Iolo sut oedd gwleidyddiaeth yn agos iawn at y wyneb wrth iddo geisio bod yn rhan o wella’r ddarpariaeth i’w blant.

“Yng Ngogledd Iwerddon os oedda chi’n bart o ysgol Gaelic roedda chi’n cael eich gweld fel part o’r Catholic community a’r bobl oedd wedi bod yn cwffio dros yr iaith,” meddai. “Felly roedda chi’n mynd i mewn i gyfarfod efo pobl oedd ella wedi bod yn bart o’r Troubles. Mi oedd o’n reit anodd bod yn bart o’r system.”

Ysgol feithrin fechan yn unig oedd yn Dungannon, neu Dún Geanainn, ar y pryd ac ar ôl i’w blant ddechrau yno dechreuodd Iolo fod yn rhan o’r criw bychan oedd yn rhedeg yr ysgol nôl yn 2007.

'Doedd yna ddim arian i dalu cyflogau'

Wrth geisio symud yr ysgol yn ei flaen roedd yn gofyn nifer o gwestiynau - tan i’w gyd-aelodau gael llond bol.

Eglurodd: “Un diwrnod dwi’n meddwl o’n i wedi gofyn gormod o gwestiynau a dyma'r chairman a’r ysgrifennydd a’r tri arall yn codi a gafael yn y bocs a rhoi bocs yn ganol y bwrdd a deud ‘da ni wedi cael digon, gei di go rŵan’.

“A dyma nhw’n cerdded allan a gadael fi yno efo’r goriadau, y bocs a dau aelod o staff i dalu’r diwrnod wedyn.

“Doedd ‘na ddim arian i dalu cyflogau. Un neu ddau o weithia roedd rhaid i Aislinn a fi - a doedd ganddo ni ddim llawer o bres chwaith efo tri o blant a gweithio - roedd rhaid i ni dalu cyflogau un neu ddau o weithia. Doedda' ni methu disgwyl i bobl neud gwaith a ddim yn cael eu pres.”

Disgrifiad o’r llun,

Iolo Eilian o flaen ysgol Aodha Rua Dún Geanainn, yn 2018

Mae gan Dungannon, sydd yn sir Tyrone, le amlwg yn hanes trafferthion Gogledd Iwerddon.

Roedd yr orymdaith hawliau sifil gyntaf un i gael ei chynnal yng Ngogledd Iwerddon nol yn 1968 yn mynd o Coalisland i’r dref.

Fel cymaint o gymunedau eraill, fe gafodd nifer eu lladd dros y degawdau a tydi’r gorffennol byth yn bell o’r presennol yno.

“[Roedd] pipe bomb ar y ffenest i ni un bore,” meddai Iolo.

“Mi roedd y staff wedi cyrraedd a ffonio fi, ac wrth gwrs roedd rhaid chi ffonio'r bomb disposal, so ddaeth nhw i gyd allan a mynd a’r pipe bomb i ffwrdd… felly roedd hwnnw’n ddiddorol.

“Ond nath o ddim stopio ni… natho ni ddim troi a deud ‘na da ni wedi cael digon’ natho ni gario mlaen i’r step nesa.”

'Ddim yn gweld fi fel Protestant na Catholig'

Roedd Iolo ar y pryd yn gweithio fel rheolwr gyda gwasanaeth iechyd Gogledd Iwerddon ac felly’n gweithio’n agos gyda gwleidyddion lleol ac yn Stormont.

Daeth i adnabod nifer o aelodau blaenllaw o bleidiau’r Unoliaethwyr yn y Senedd yn Belfast, a nifer ar ochr y gweriniaethwyr hefyd, gan gynnwys Bernadette Devlin McAliskey, oedd ar y brotest gyntaf honno yn 1968 a chafodd ei hethol i San Steffan y flwyddyn ganlynol - y person ieuengaf erioed ar y pryd.

Meddai Iolo: “Doedda' nhw ddim yn gwbod be’ i neud ohona fi.

“Yn llgada rhai pobl o'n i’n Brotestant yn dod i mewn yno i redeg ysgol Gatholig, ac o'n i’n ganol Sinn Fein a’r bobl yma i gyd a doedda' nhw ddim yn gwybod be' i neud ohona fi.

“Doedda' nhw ddim yn gweld fi fel Protestant na Catholig… roedda' nhw’n gweld fi fel Cymro yn dod i mewn efo profiad o iaith a nath nhw gymryd fi a deud reit ‘come on ta, nawn ni weithio efo chi’ ac wrth gwrs roedd hynny’n agor drysau wedyn…

“Ac mi roedd yr education department yn cael ei redeg gan wleidyddion o’r DUP (plaid unoliaethol) ond ro'n i'n gweithio efo nhw efo’r adran iechyd felly o’n i’n gallu gweithio efo’r DUP a Sinn Fein ac o'n i’n gallu cael arian o bob ochr felly dyna sut o'n i'n gallu symud ymlaen.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Iolo a'i deulu heddiw

Dros y blynyddoedd fe sefydlwyd ysgol gynradd a’i datblygu. Erbyn hyn mae 150 o ddisgyblion yno yn cael eu dysgu gan 12 o athrawon.

Bellach mae Iolo yn is-gyfarwyddwr cenedlaethol gwasanaeth iechyd Gweriniaeth yr Iwerddon a’r teulu wedi symud i Galway ond mae o’n dal mewn cysylltiad gyda staff yr ysgol.

“Pam o’n i’n gadael (yn 2018) roedda' ni wedi cael arian i adeiladu ysgol newydd a geshi fideo gan y brifathrawes wythnos ddiwetha' ac mi oedd yr education minister yn yr ysgol - ac mae o’n dod o’r DUP.

“Fedrwch chi feddwl o le yda ni wedi dod o - lle roedda' ni’n gorfod cwffio i gael yr ysgol feithrin i ddechrau, i’r minister o’r DUP yn yr ysgol… sy’n anhygoel.

“Mae petha' wedi newid yng Ngogledd Iwerddon. Mae cael yr iaith wedi mynd fwy middle class… lot o bobl yn dod i mewn i’r ysgol, mwy o arian ganddyn nhw ac yn hapus i roi arian i’r ysgol felly mae o wedi newid yn hollol.”

  • Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru am 18:00 dydd Sul 15 Medi ac ar BBC Sounds