Dewi Pws: Ei fywyd mewn lluniau

Dewi Pws yn cyflwyno rhaglen am gerddoriaeth werin wedi ei recordio ar gyfer yr Ŵyl Pan-Geltaidd yn Killarney yn 1974
- Cyhoeddwyd
Mae’r cerddor, actor a’r digrifwr Dewi ‘Pws’ Morris wedi marw yn 76 oed.
Roedd yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfa S4C fel actor mewn cyfresi yn cynnwys Pobol y Cwm a Rownd a Rownd, ac am ei ran yn y ffilm eiconig, Grand Slam.
Mi wnaeth gyfraniad mawr i fyd cerddoriaeth yng Nghymru hefyd, fel prif leisydd y grŵp Y Tebot Piws ac fel un o sefydlwyr y band roc Edward H Dafis.
Dewi Pws, fel yr oedd pawb yn ei adnabod ers degawdau, oedd seren rhai o gyfresi cynnar mwyaf llwyddiannus S4C fel Torri Gwynt, Mwy o Wynt a Hapus Dyrfa.
Ysgrifennodd nifer o lyfrau ac roedd yn fardd medrus, gan gystadlu gyda thîm Crannog yng nghyfres Talwrn y Beirdd.
Roedd yn ymgyrchydd cyson dros yr iaith Gymraeg ac yn genedlaetholwr brwd. Roedd yn lleisio'i farn yn aml ar hawliau siaradwyr Cymraeg ac yn gefnogol o fudiadau dros annibyniaeth, fel Yes Cymru.
Dyma gipolwg ar ei yrfa mewn lluniau.

Dewi oedd prif leisydd y grŵp Y Tebot Piws gydag Emyr Huws Jones, Alun 'Sbardun' Huws a Stan Morgan-Jones. Roeddent yn un o'r grwpiau pop cyntaf Cymraeg.

Y Tebot Piws ar raglen Disc a Dawn yn 1971: Dewi 'Pws' Morris, Alun 'Sbardun' Huws a Stan Morgan-Jones

Yn 1971, cyfansoddodd Dewi gân fuddugol Cân i Gymru sef Nwy yn y Nen. Dyma fe gyda Rheolwr BBC Cymru ar y pryd, John Rowley yn derbyn ei wobr ar raglen Disg a Dawn.

Chwaraeodd Dewi'r cymeriad 'Wayne Harries' ar Pobol y Cwm o gychwyn y rhaglen yn 1974 hyd at 1987

Dewi Pws gyda Gillian Elisa yn yr opera-roc 'Melltith ar y Nyth' yn 1975

Chwaraeodd rhan Jiwdas yn yr opera-roc 'Gorffennwyd' a ddarlledwyd ar raglen Twndish yn 1977

Dewi gyda chast y ffilm eiconig Grand Slam yn 1978

Dewi'n perfformio sgets ar raglen Hywel Gwynfryn yn 1983

Dewi yn recordio pennod o'r rhaglen adloniant Dros Ben Llestri ar BBC Radio Cymru gyda Emyr Wyn, Lyn Ebenezer, Huw Llewelyn a Peter Hughes Griffiths yn 1987.

Yn 1992 bu Dewi'n rhan o raglen adloniant ysgafn llawn sgetsys a chaneuon digrif o'r enw Bechingalw, gyda Caryl Parry Jones ac Emyr Wyn.

Gyda chast y rhaglen gomedi gan BBC Cymru i S4C, Bechingalw? yn 1992. O'r chwith i'r dde: Emyr Wyn, Dewi 'Pws' Morris, Caryl Parry Jones a Rhys Parry Jones

Rhai o'r cymeriadau lliwgar yr oedd Dewi yn eu chwarae yn y gyfres adloniant, Bechingalw (1992)

Yn 1995 roedd Dewi'n un o feirniaid y rhaglen dalent 'Tip Top' gyda Ray Gravell yn cyflwyno

Chwaraeodd Dewi ran Islwyn Morgan yn Rownd a Rownd o ddechrau'r gyfres yn 1995 hyd at 2007

Y Tebot Piws - Dewi a'i fraich ar ysgwydd ei ddiweddar gyfaill Alun 'Sbardun'

Hel atgofion am ei ffrind Alun 'Sbardun' Huws ym Mhabell Lên Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2015
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2024
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2015