Enwi aelodau Bwrdd newydd sydd i gael gwared ar TB mewn gwartheg
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi enwau aelodau Bwrdd newydd, sydd â'r dasg o gael gwared ar TB - neu'r diciâu - mewn gwartheg.
Cafodd y Bwrdd ei sefydlu fis Awst wrth i'r llywodraeth weithio at eu nod o Gymru heb TB erbyn 2041.
Mewn cynhadledd yn Aberystwyth ddydd Mercher, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies bod holl aelodau’r Bwrdd â "chyfoeth o wybodaeth a phrofiad ymarferol".
Bydd y Bwrdd Rhaglen Dileu TB Buchol yn cyfarfod am y tro cyntaf fis Rhagfyr.
Pwy yw'r aelodau?
Sharon Hammond, ffermwr cig eidion, defaid a dofednod fydd y cadeirydd.
Dywedodd Irranca-Davies fod ganddi "gymwysterau rhagorol i arwain".
Aelodau eraill y Bwrdd yw:
Gemma Haines - Ffermwr menter cig eidion a defaid yn ne Cymru;
Roger Lewis - Ffermwr llaeth o Sir Benfro;
Evan Roberts - Ffermwr llaeth o Dreffynnon, Sir y Fflint;
Alan Gardner - Ffermwr o Sir Drefaldwyn;
Yr Athro Glyn Hewinson - Cadeirydd Grŵp Cynghori Technegol TB, fydd yn darparu cyswllt rhwng y ddau grŵp;
Sian Evans - Ffermwr cig eidion a defaid o Ynys Môn.
Bydd cynrychiolydd o Gymdeithas Filfeddygol Prydain Cymru, Philip Thomas, ynghyd â chynrychiolydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru a’r NFU.
Bydd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Pennaeth Polisi TB Gwartheg Llywodraeth Cymru a chynrychiolydd o'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion hefyd yn eistedd ar y Bwrdd.
Yn y gorffennol, fe ddywedodd Irranca-Davies, yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, mai ei fwriad oedd i’r Bwrdd gynnwys gan fwyaf ffermwyr o wahanol rannau o Gymru a phobl o gefndiroedd ffermio.
"Mae cynrychiolaeth ffermio gref ar y bwrdd," meddai.
Byddan nhw'n cyfarfod bob chwarter ac yn rhoi cyngor strategol i Brif Swyddog Milfeddygol Cymru a Gweinidogion Cymru.
Mae gwartheg yn cael eu profi’n gyson am bresenoldeb yr haint, ac yn cael eu difa os ydyn nhw’n ei gario.
Rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024 cafodd 11,197 o wartheg eu difa yng Nghymru ar ôl i TB gael ei ddarganfod.
'Targed realistig ond her enfawr'
Yn y gynhadledd yn Aberystwyth dywedodd Huw Irranca-Davies y bydd y Bwrdd yn gwneud “gwahaniaeth enfawr".
"Bydd profiad direct o TB gyda ffermwyr, veterinarians hefyd," meddai.
"Maen nhw’n gwybod beth yw pwysigrwydd gwneud y gwahaniaeth i waredu TB erbyn 2041.”
Ychwanegodd fod y targed hwnnw yn "realistig ond mae’n her enfawr".
"Wrth weithio gyda’n gilydd mae’n rhaid i ni godi i’r her ond mae’n rhaid i ennill y wobr enfawr yma i waredu TB - dyna’r peth pwysig. Mae e’n bosib.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror
- Cyhoeddwyd13 Chwefror
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2021