Diffyg cefnogaeth iechyd meddwl i or-gasglwyr
- Cyhoeddwyd
Mae tasglu Cymreig yn galw am fwy o gymorth iechyd meddwl i bobl sy’n gorgasglu pethau yn eu tai er mwyn atal sefyllfaoedd rhag gwaethygu.
Mae arbenigwyr casglu, yn ogystal â seicolegwyr, y gwasanaeth tân a chymdeithasau tai yn dweud bod angen atal pobl sy'n rhentu rhag colli eu tai oherwydd y broblem.
Y flaenoriaeth ydy cadw pobl yn eu tai yn ddiogel, yn ôl cymdeithas dai fwyaf Cymru.
I un fenyw o dde Cymru mae’r sefyllfa yn ei thŷ fel byw gyda “chyfrinach dywyll”.
'Teimlo cywilydd'
Mae Rosemary, sy’n byw yn ne Cymru, wedi cael gyrfa lwyddiannus fel rheolwr prosiectau.
Ond mae'n teimlo cywilydd am ei hangen i gasglu a chadw pethau.
"Ychydig iawn o bobl sydd wedi bod yn fy nghartref mewn gwirionedd," meddai.
“Mae’n teimlo fel cyfrinach dywyll."
Yn ôl Rosemary, mae'n anodd deall yn union pam ei bod yn cadw cymaint o bethau.
Mae'n credu bod yr angen yn gysylltiedig â phrofiadau yn ystod ei phlentyndod - sef y cyfnod pan oedd ei rhieni yn cael gwared ar ei phethau heb ei chaniatâd.
“Mae'n teimlo'n llethol oherwydd rydych chi'n meddwl 'ydw i fyth yn mynd i ddod drwy hyn?'
“Weithiau gall hynny wneud i mi deimlo’n eithaf digalon wrth i mi feddwl na allaf fyth oresgyn yr arfer.”
Er ei heriau, mae Rosemary yn obeithiol bod ei sefyllfa hi'n gwella, a hynny'n cael ei hadlewyrchu yn ei chartref.
'Cyflwr iechyd meddwl' yw e
Mae Rosemary wedi derbyn cefnogaeth gan Holistic Hoarding - sefydliad sy’n defnyddio cymorth therapiwtig ac ymarferol i amddiffyn pobl rhag colli eu tai o ganlyniad i gasglu gormod o bethau.
Mewn rhai amgylchiadau, gall landlordiaid a chymdeithasau tai orfodi tenantiaid i symud os yw casglu yn torri rheolau’r cytundeb.
"Mae un ym mhob tri o'n cleientiaid wedi teimlo eu bod yn gorfod casglu hyn ac arall,” medd Kayley Hyman, cyfarwyddwr Holistic Hoarding.
“Mae 97% ohonyn nhw yn casglu eto. Mae'n amlwg nad yw [cael eu gorfod i adael eiddo] yn gweithio.”
Yn ôl Kayley, mae ei thîm hi yn adeiladu perthnasau gyda’r cleientiaid er mwyn ceisio deall pam maen nhw eisiau cadw pethau, cyn mynd ati i glirio’r nwyddau.
“Mae angen i orgasglu gael ei ddeall fel cyflwr iechyd meddwl,” yn ôl Sam Wainman, ymchwilydd seicolegol ym Mhrifysgol Birmingham.
“Mae'r cyflwr wedi’i gynnwys mewn nifer o’r llawlyfrau diagnostig fel anhwylder iechyd meddwl, ac mae angen ei drin felly gan ddeddfwriaeth.”
Cefnogi tenantiaid sy'n gorgasglu
Ar ôl 15 mlynedd o weithio ym maes iechyd meddwl, dywed Kayley fod yna brinder gwasanaethau ar gyfer pobl sy'n casglu gormod.
Dywed hefyd nad yw'r rhai sydd wedi cael gorchymyn cyfreithiol i glirio eu tai yn cael digon o gefnogaeth.
Mae hi wedi bod yn arwain tasglu o seicolegwyr, grwpiau cymorth, a darparwyr gwasanaethau - maen nhw wedi ymrwymo i ddod o hyd i ddull "empathetig" o gynorthwyo tenantiaid sy’n casglu.
Hyd yma, mae Cyngor Caerffili a Chyngor Dinas Casnewydd wedi dweud eu bod yn gefnogol.
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2023
Yn ôl Kayley mae angen “uno’r holl wasanaethau hyn” ar sail y ffaith fod pob un eisiau “i’r person fod yn ddiogel” yn ystod y broses.
Mae United Welsh, cymdeithas dai fwyaf Cymru, wedi arwyddo polisi sy'n cytuno i beidio â chael gwared ar denantiaid sy'n ceisio cael help.
“Rydym yn rhan o’r tasglu oherwydd ein bod ni’n credu bod angen ffordd sensitif ac empathetig i gefnogi pobl sy’n casglu,” meddai Craig Singler, cyfarwyddwyr tai a chymunedau United Welsh.
“Ein blaenoriaeth ydy cadw pobl yn ddiogel gan sicrhau eu bod nhw’n gallu parhau i fyw yn eu tai.
“Y cam olaf un ddylai gorfod mynd i'r llys i gael meddiant o eiddo."