Anafiadau difrifol i ddynes ar ôl cael ei tharo gan gar

St Johns RoadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ddynes ei tharo gan gar ar Heol St Johns yn Nhonyrefail brynhawn Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi dioddef anafiadau allai newid ei bywyd ar ôl cael ei tharo gan gar yn Rhondda Cynon Taf.

Roedd y ddynes yn cerdded ar Heol St Johns - sy'n rhedeg trwy stad dai yn Nhonyrefail - pan gafodd ei tharo gan gar tua 14:40 dydd Iau.

Cafodd y ddynes ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Arhosodd gyrrwr y car yno wedi'r gwrthdrawiad ac mae'n cynorthwyo gydag ymholiadau'r heddlu.

Cafodd rhan o Stryd Fawr Tonyrefail ei gau wrth i wasanaethau brys ymateb i'r digwyddiad, cyn ailagor am 17:20 ddydd Iau.

Pynciau cysylltiedig