Cyn-Ysgrifennydd Cymru, David Jones, yn ymuno â Reform

Mae cyn-weinidog y Ceidwadwyr, David Jones, wedi cyhoedd ei fod wedi ymuno â Reform UK
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-AS Ceidwadol oedd yn Ysgrifennydd Cymru, David Jones, wedi cyhoeddi ei fod wedi ymuno â Reform UK.
Ddydd Llun fe gyhoeddodd Mr Jones, a oedd yn Ysgrifennydd Cymru yn llywodraeth David Cameron rhwng 2012 a 2014, ei fod yn ymuno â phlaid Nigel Farage.
Daw hyn ar ôl iddo dreulio mwy na 50 mlynedd fel aelod o'r Blaid Geidwadol.
Dywedodd Mr Jones, a oedd yn AS dros Orllewin Clwyd o 2005 tan 2024, fod y penderfyniad "wrth gwrs yn un anodd iawn".
"Fel mater o gwrteisi, ysgrifennais at gadeirydd y blaid ym mis Hydref i'w hysbysu o fy mwriad i beidio ag adnewyddu fy aelodaeth. Chefais i ddim ateb."
Dywedodd: "Ymunais â'r Ceidwadwyr yr holl flynyddoedd hynny yn ôl gan fy mod yn credu mai dyma'r blaid a oedd yn adlewyrchu fy ngwerthoedd a'm credoau orau.
"Yn anffodus, nid yw hynny'n wir mwyach", meddai.
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd16 Mai
- Cyhoeddwyd28 Mehefin
Fe wasanaethodd hefyd fel gweinidog yn yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd o dan Theresa May rhwng 2016 a 2017.
Dywedodd Mr Jones nad oedd yn bwriadu bod yn ymgeisydd, ond ei fod yn barod i roi "cefnogaeth lawn" i'r blaid mewn etholiadau.
Mae Reform wedi dweud eu bod yn "hynod falch" bod Mr Jones wedi ymuno, a bod hynny'n "adlewyrchu'r awch am newid go iawn a gwleidyddiaeth synnwyr cyffredin".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.