Etholiad 2026 yn 'foment tyngedfennol' i Gymru - Eluned Morgan

Dywedodd Ms Morgan ei bod eisiau "adeiladu gwlad" a fyddai'n "manteisio ar y chwyldro deallusrwydd artiffisial"
- Cyhoeddwyd
Mae'r prif weinidog yn dweud y bydd etholiadau'r Senedd yn 2026 yn "foment tyngedfennol" i Gymru.
Yn ei haraith i gynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno dywedodd Eluned Morgan ei bod yn deall fod "pethau yn anodd" ar hyn o bryd ond bod ei llywodraeth "yn gwneud cynnydd".
Fe wnaeth hi gydnabod fod rhestrau aros y gwasanaeth iechyd yn parhau i fod yn her, ond mynnodd bod gan Lafur gynllun i "fynd ymhellach ac yn gynt".
Yn ogystal, fe wnaeth hi addo y byddai Llafur yn sicrhau "mynediad agored i gymorth iechyd meddwl" pe bai nhw'n ennill yr etholiad nesaf, gan honni mai Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y byd i gynnig gwasanaeth o'r fath.
- Cyhoeddwyd11 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd9 Mehefin
"Bydd yr etholiadau nesaf yn ddewis, dewis rhwng gwahanol weledigaethau dros ein gwlad - nid dyma'r amser i edrych i ffwrdd, dyma'r amser i edrych ymlaen ac i ysgrifennu'r bennod nesaf yn hanes ein gwlad," meddai yn ei haraith brynhawn Sadwrn.
Honnodd fod arian sydd wedi dod i goffrau Llywodraeth Cymru yn ddiweddar o San Steffan yn brawf bod yna "bŵer yn y bartneriaeth".
Er hynny, dywedodd nad oedd hi "ofn codi llais pan mae'r angen yn codi", gan nodi ei bod hi wedi mynegi pryder am y newidiadau i'r system budd-daliadau, a'r toriadau i daliadau tanwydd y gaeaf.
Mynnodd hefyd bod ei gweithredoedd yn "gwneud gwahaniaeth".
"Dwi'n falch fod Llywodraeth y DU yn lywodraeth sy'n gwrando - maen nhw wedi clywed ein pryderon ac wedi newid eu cynlluniau i dorri taliadau lles," meddai.
"Ond pan rydyn ni'n llywodraethu yng Nghymru, rydyn ni bob amser yn gwneud hi yn ein ffordd ni - y ffordd goch Gymreig - ffordd sydd wedi'i ffurfio gan ein gwerthoedd, ein pobl, a'n blaenoriaethau ni."
'Bygythiad i'r ffordd Gymreig o fyw'
Cyfeiriodd Ms Morgan hefyd at y gwrthbleidiau, ac yn benodol at "fygythiad" Reform: "Dyw Reform ddim eisiau amddiffyn y GIG, maen nhw eisiau ei dynnu yn ddarnau, a'i gyfnewid am system yswiriant," meddai yn yr araith.
"Ni yw'r blaid sy'n cynnig atebion, dim esgusodion, nid ni yw'r blaid sy'n lledaenu ofn."
"Ond heb os, maen nhw'n fygythiad i'ch GIG, i'ch hawliau - ac i'r ffordd Gymreig o fyw."
Fe wnaeth Ms Morgan hefyd addo y byddai'n "parhau i geisio hawlio mwy o rymoedd i Lywodraeth Cymru".
"Os ydyn ni eisiau Cymru gryfach, yna mae angen i ni dderbyn yr hyn 'da ni ei angen i allu gwneud hynny ein hunain - rheolaeth dros gyfiawnder ieuenctid sy'n canolbwyntio ar adferiad a chytundeb teg o ran Ystad y Goron fel bod yr arian sy'n dod o'n hadnoddau naturiol yn aros yng Nghymru."
Cyfeiriodd hefyd at ei huchelgais i "adeiladu gwlad" a fyddai'n "manteisio ar y chwyldro deallusrwydd artiffisial".
Dywedodd y byddai Cymru yn gartref i "barth twf AI o'r safon uchaf" ac y byddai Llywodraeth Cymru yn sefydlu adran ar gyfer AI.

Fe wnaeth Syr Keir Starmer ganmol arweinyddiaeth Eluned Morgan yn ei araith ddydd Sadwrn
Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog y DU wedi honni y byddai cynlluniau Nigel Farage ar gyfer y diwydiant dur yng Nghymru yn arwain at dorri 5,000 o swyddi.
Yn ei araith i'r gynhadledd yn Llandudno, fe wnaeth Syr Keir Starmer feirniadu arweinydd Reform UK a'i gyhuddo o geisio closio at Arlywydd Rwsia Vladimir Putin.
Awgrymodd hefyd nad oedd gan Mr Farage unrhyw ddiddordeb yng Nghymru.
Mae Reform yn gobeithio sicrhau cynrychiolaeth yn y Senedd am y tro cyntaf yn yr etholiadau ym mis Mai y flwyddyn nesaf, gyda rhai arolygon barn diweddar yn awgrymu eu bod o flaen Llafur yn y ras.
Yn ystod ymweliad diweddar â Phort Talbot, fe wnaeth Mr Farage ddweud y byddai'n hoffi gweld y ffwrneisi chwyth ar safle Tata yn ail-agor.
"Maen nhw'n (Reform) honni mai nhw yw plaid y gweithwyr, ond eto maen nhw'n pleidleisio yn erbyn hawliau gweithwyr," meddai Syr Keir.
"Dyw Farage ddim yn poeni am Gymru. Mae o'n poeni am Nigel Farage ac mae'n meddwl ein bod ni gyd yn ddall i hynny."
Honnodd y byddai cynlluniau Reform yn gweld y broses o godi ffwrnais drydan ym Mhort Talbot i ben, ac y byddai hynny yn torri 5,000 o swyddi.
Dywedodd Reform fod sylwadau Syr Keir yn "hurt".
'Y person cywir i arwain Cymru i'r dyfodol'
Ar ôl gwadu bod yna raniadau o fewn ei blaid wedi wythnosau o feirniadaeth gyhoeddus gan arweinydd Llafur Cymru, fe wnaeth y Prif Weinidog ganmol gwaith Eluned Morgan.
Dywedodd Syr Keir fod Prif Weinidog Cymru yn "gweithio'n galed dros Gymru, yn Brif Weinidog gwych ac yn rhywun sy'n rhoi popeth i'r wlad".
Ychwanegodd mai Ms Morgan "yw'r person cywir i arwain Cymru i'r dyfodol".
Hefyd yn ei araith ddydd Sadwrn fe wnaeth honni y byddai Plaid Cymru yn fodlon cydweithio gyda Reform a'r Torïaid wedi'r etholiad nesaf.
Mae Plaid Cymru, sydd wedi gwrthod y posibilrwydd o weithio gyda Reform yn llwyr, wedi cyhuddo Syr Keir o "ledaenu celwyddau".
Cafodd protest o blaid Palestina ei gynnal y tu allan i'r gynhadledd yn Llandudno ddydd Sadwrn, tra bod ffermwyr hefyd wedi cynnal gwrthdystiad ar wahân.