Arestio menyw ar ôl i gi frathu plentyn ifanc

Cafodd swyddogion eu galw i Stryd Bush, Doc Penfro nos Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 42 oed wedi'i harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi allan o reolaeth a pheryglus yn dilyn ymosodiad ar blentyn ifanc.
Cafodd swyddogion eu galw i Stryd Bush, Doc Penfro, am tua 18:50 nos Sadwrn i adroddiad bod plentyn ifanc wedi cael ei frathu gan gi.
Mae'r plentyn yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Cafodd y ci ei ddifa.
Mae'r fenyw bellach wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod eu hymchwiliadau yn parhau ac maen nhw'n gofyn i bobl beidio dyfalu am amgylchiadau'r digwyddiad.