Clwb Rygbi Abercraf yn dathlu 130 mlynedd

Abercraf RFC, enillwyr pencampwriaeth West Wales Bowl tymor 2024/25
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Rygbi Abercraf yng Nghwm Tawe'n dathlu 130 mlynedd ers sefydlu'r clwb gan lowyr yr ardal.
Ar 21 Mai bydd un o gyn-chwaraewyr Abercraf a Chymru, Adam Jones yn rhannu straeon am ei yrfa mewn noson arbennig yng nghartref y clwb ym Mhlas-y-Ddol.
Yn ôl Darryl Williams, cadeirydd Abercraf RFC mae'r clwb wedi meithrin cenedlaethau o dalent, rhywbeth mae Darryl sy'n gyn-chwaraewr i dîm cyntaf Abercraf yn falch ohono:
"Does yr un chwaraewr hyd heddiw wedi cael ei dalu i chwarae i Abercraf. Mae llwyddiant y clwb ar y cae oherwydd y conveyor belt o dalent sydd wedi dod aton ni a sydd wedi cael eu methrin yn yr adrannau ieuenctid."
Â'r clwb wedi bod yn gartref cyntaf i ddoniau fel Adam Jones, Clive Rowlands ac Eddie Morgan, Darryl fu'n rhannu hanes Clwb Rygbi Abercraf gyda Cymru Fyw:
Y dyddiau cynnar: Glowyr yn sefydlu'r clwb
Sefydlwyd Clwb Rygbi Abercraf 'nôl yn 1894 gan griw o lowyr o un o'r pedwar pwll glo oedd ar agor yn ardal Abercraf bryd hynny. Roedd Ystradgynlais ac Ystalyfera eisoes wedi ffurfio timau Rygbi'r Undeb ac felly nid oedd gwŷr Abercraf am i'w cymdogion gael y blaen arnyn nhw!
Chwaraewyd y gemau cyntaf ar gae ger Eglwys Dewi Sant. Roedd gemau rhwng pentrefi yn brin oherwydd anawsterau teithio. Gyda chart a cheffyl y byddai pobl yn teithio bryd hynny, ac yna'r siarabancs modur yn ddiweddarach.
Byddai'r cerbydau yma'n torri i lawr yn enwedig ar elltydd felly roedd yn rhaid cynnal gemau yn fewnol gyda thrigolion Abercraf yn chwarae yn erbyn ei gilydd.
Roedd gweinidogion ac aelodau'r gwahanol gapeli ac eglwysi yn condemnio rygbi oherwydd eu bod yn credu fod rygbi'n cael ei chwarae gan bechaduriaid ac yfwyr cwrw! Byddai'r glowyr yn dod i'r cae i chwarae rygbi a darganfod bod pobl grefyddol y pentref wedi taenu tail gwartheg dros y cae.
Yn y pendraw daeth pobl i dderbyn rygbi fel gêm bwysig i'r gymuned yn Abercraf.

Lliwiau bathodyn y clwb yw coch, du ac ambr. Mae'n cynnwys blodyn garlleg gwyllt sy'n tyfu ar lannau Afon Tawe. Cafodd ei ddylunio gan David Bedgood
Y tîm yn hollti: Y Gleision a Sêr Abercraf
Yn 1903 symudodd y clwb yn nes at eu cartref presennol i Blas-Y-Ddol yn Llwyn Neuadd. Arhosodd hwn yn gartref tan 1907 pan symudon nhw unwaith eto tu ôl i dafarn y Lamb and Flag.
Roeddent yn defnyddio'r cae hwn hyd at ddechrau'r Rhyfel Mawr. Fe stopiodd y chwarae yn ystod y cyfnod yma wrth i fechgyn ifanc Abercraf gael eu galw i ryfel.
Pan ddychwelodd bechgyn y pentref i Abercraf yn dilyn diwedd y Rhyfel Mawr, yn 1919 ffurfiwyd tîm Demob XV gyda thafarn y Red Lion yn bencadlys iddynt. Roedd eu cae chwarae yn Heol-Gwydde yn ffinio â glan orllewinol afon Tawe.
Bu'r tîm yn chwarae yma tan 1945 diolch i haelioni T.J. Davies, Maes-y-Deri, Caehopcyn, a roddodd y cae i'r clwb am rent o swllt y flwyddyn. Roedd hyn mewn sawl ffordd yn sicrhau dyfodol y clwb.

Tîm Y Gleision 1919-20
Erbyn tua diwedd 1919 roedd rhwyg o fewn y tîm a ffurfiwyd tîm cystadleuol o'r enw Sêr Abercraf. Defnyddiodd y tîm hwn y cae tu ôl i'r Lamb and Flag fel eu pencadlys chwarae unwaith eto. Yn eu tymor cyntaf, enillodd y Sêr, dan gapteniaeth Jim Vale, Gwpan y Rhanbarth drwy guro Cwmllynfell yn y rownd derfynol.
Cadwodd y tîm gwreiddiol, a oedd yn cael ei adnabod fel 'Y Gleision', eu hunaniaeth fel Clwb Rygbi swyddogol Abercraf.
Roedd gemau rhwng y ddau dîm yn cael eu cynnal yn gyson ac roedd ambell i ffrae dros gwrw neu ddau ar ôl y gemau hefyd!

Tîm Sêr Abercraf 1922-23
Peli rygbi yn cael eu colli yn afon Tawe
Yn 1923/24 codwyd pafiliwn ar lan ddwyreiniol afon Tawe a wasanaethodd y clwb yn dda am rai blynyddoedd.
Yn ystod y 1920au roedd gan Abercraf lai na thraean o'i phoblogaeth bresennol, ond eto roedden nhw'n gallu rhedeg pedwar tîm i chwarae bob dydd Sadwrn – Y Sêr, The Cherrys, Abercrave Seconds a'r tîm gwreiddiol, Y Gleision.
Daeth yr elyniaeth rhwng tîm Y Gleision a Sêr Abercraf i ben, chwaraeodd Clwb Rygbi Abercraf fel un, ac fe ailddechreuodd y chwarae ar gae Heol-Gwydde.
Roedd afon Tawe gerllaw cae Heol-Gwydde ac fe gollwyd llawer o beli rygbi i'r dyfroedd. Mae'n siŵr bod sawl pêl hirgron wedi eu pysgota gan glybiau cyfagos ymhellach i lawr yr afon!
Roedd un stori ddoniol am beli coll yn ymwneud â gêm gyda Chwmllynfell. Mae'n debyg bod y bedwaredd bêl a'r olaf wedi gwneud ei ffordd i lawr yr afon i gyfeiriad Bae Abertawe.
Heb beli ar ôl galwodd capten y dydd Matthew Pedric y ddau dîm at ei gilydd a datrys y broblem gyda'r geiriau – "Bois, peidiwch â becso am y bêl, dewch i whare 'mlan heb un!"

Cherries Abercraf 1921-1922
Symudodd y clwb i'w safle presennol yn 1957, gan brynu'r cae chwarae ym Mhlas-Y-Ddol yn rhad gan Gymdeithas Les Glowyr Abercraf.

Y cae chwarae gyda chlwb Plas-Y-Ddol yn y cefndir
Meithrin mawrion... o Clive Rowlands i Adam Jones
Mae'r clwb wedi meithrin mawrion byd rygbi Cymru gan gynnwys:
Eddie Morgan a gafodd ei gap cyntaf i Gymru a'r Llewod yn 1938.
Clive Rowlands; yr unig ddyn i fod yn gapten, yn hyfforddwr ac yn rheolwr ar dîm Cymru.
Alun Donovan a gafodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Awstralia yn 1978.
Huw Richards a chwaraeodd yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn 1987 ac a dorrodd y record anffodus o fod y chwaraewr cyntaf i gael cerdyn coch yn nhwrnamaint Cwpan Rygbi'r Byd.
Adam Jones a gafodd ei gap cyntaf i Gymru yn 2006. Cynrychiolodd Cymru 95 gwaith cyn ei ymddeoliad yn 2018. Mae'n un o grŵp bychan o chwaraewyr Cymreig i ennill tair Camp Lawn.
Craig Price a gynrychiolodd Cymru mewn rygbi saith-bob-ochr yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2014.
Dafydd Howells a gafodd ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn Japan yn 2013. Mae'n dal record byd am y cais cyflymaf ers cychwyn gêm - fe sgoriodd gais i dîm dan 20 Cymru yn erbyn Japan mewn llai nag wyth eiliad! Bellach mae'n un o hyfforddwyr Abercraf.

Llun o ieuenctid y clwb a dynnwyd i ddathlu canmlwyddiant y clwb yn 1994. Yr hogyn tal yn y cefn yw cyn prop Cymru, Adam Jones

Memorabilia i ddathlu cyfraniad Adam Jones i rygbi Abercraf a Chymru yng nghabinet bar y clwb
Beth yw gobaith Darryl i'r bennod nesaf yn hanes y clwb?
"Mae Abercraf RFC wedi chwarae rhan enfawr yn fy mywyd a rwy'n gobeithio y bydd yn parhau i wneud am flynyddoedd i ddod. Rwy'n bwriadu codi gwydr i ddathlu 150 mlwyddiant y clwb mewn 20 mlynedd," meddai.
Pen-blwydd hapus i Glwb Rygbi Abercraf.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2023