Plant yn mynnu ymddiheuriad am driniaeth bocsiwr du

Cuthbert Taylor, y bocsiwrFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tras Caribïaidd Cuthbert Taylor yn golygu ei fod wedi'i wahardd rhag cystadlu am deitl bocsio proffesiynol

  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o blant Cymru wedi ysgrifennu at Fwrdd Rheoli Bocsio Prydain yn mynnu ymddiheuriad ar ôl gwylio drama sy'n adrodd hanes bocsiwr du o Ferthyr Tudful.

Mae The Fight yn adrodd hanes sut y cafodd Cuthbert Taylor ei rwystro rhag cystadlu am deitl Prydeinig oherwydd lliw ei groen.

Dywedodd y cynhyrchwyr eu bod wedi'u syfrdanu gan ymateb angerddol y plant a’r bobl ifanc fu’n ei wylio.

Mae nifer o’r ysgolion nawr wedi lansio ymgyrch yn mynnu ymddiheuriad ffurfiol gan gorff llywodraethu’r gamp - y BBBoC.

Dywedodd y BBBoC eu bod yn condemnio'r gwaharddiad ar sail hil oedd mewn lle rhwng 1911 a 1948, ond na fyddan nhw'n ymddiheuro "am benderfyniadau cyn-aelodau’r bwrdd".

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Cuthbert Taylor yrfa broffesiynol lwyddiannus rhwng 1928 a 1947, gyda 151 buddugoliaeth, 22 gornest gyfartal a 69 colled

Mae mwy na 300 o blant o 13 o ysgolion wedi anfon llythyrau ac e-byst hyd yma at y BBBoC yn galw am ymddiheuriad ffurfiol am sut y cafodd Taylor ei drin.

Maen nhw wedi cael eu cefnogi gan wleidyddion Cymreig gan gynnwys y gweinidog diwylliant, Jack Sargeant.

Mae’r ymateb wedi syfrdanu Theatr na nÓg, sy'n llwyfannu'r ddrama.

“Mae’r plant wedi mynd ati ar eu liwt eu hunain i ysgrifennu, maen nhw 'di teimlo mor gryf â hynny!" meddai awdures y ddrama Geinor Styles.

Rheol 'dau riant gwyn' yn ei rwystro

Er i Taylor gystadlu fel bocsiwr pwysau plu i Brydain yng Ngemau Olympaidd 1928, ni chyflawnodd ei botensial yn llwyr oherwydd y gwaharddiad hil.

Roedd y rheol, oedd mewn grym o 1911 i 1948, yn dweud fod yn rhaid i focswyr gael “dau riant gwyn” i gystadlu am deitlau Prydeinig.

Fe gafodd Taylor ei eni ym 1909 ym Merthyr Tudful, i dad o dras Caribïaidd a mam Gymreig gwyn, ac yn sgil hynny, ni chafodd ymladd am deitl.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Geinor Styles, awdures y ddrama ac yn enedigol o Ferthyr, yn teimlo bod stori Cuthbert Taylor yn un bwysig i'w hadrodd

Penderfynodd pobl ifanc o ysgolion ar draws y de alw am ymddiheuriad ar ôl gwylio Theatr na nÓg o Gastell-nedd yn ailadrodd stori Taylor ar lwyfan.

Mae'r ymateb wedi syfrdanu Geinor Styles, cyfarwyddwr artistig Theatr Na nÓg ac awdures y ddrama.

“Ni wastad wedi gwneud sioeau sydd gyda straeon gwahanol. Ni’n trio cael plant i feddwl yn ehangach ... ond mae hyn really wedi’n syfrdanu ni," meddai.

“Mae’r plant wedi mynd ati ar eu liwt eu hunain i ysgrifennu, maen nhw 'di teimlo mor gryf â hynny - dyna be' mae’r athrawon wedi dweud wrthon ni.

“Dyw e ddim fel rhan o’r cwricwlwm yn hynny o beth, ddim yn rhan o’r prosiect i gael nhw i ysgrifennu; maen nhw jyst wedi gweld y ddrama, gweld bod 'na anghydraddoldeb gyda’r peth a just wedi mynd ati i sgwennu’r llythyrau.

“Beth dwi’n meddwl sy’n syfrdanu’r plant yw bod rhywbeth fel hyn wedi digwydd ond does dim ymddiheuriad."

Ffynhonnell y llun, Dimitris Legakis, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Simeon Desvignes sy'n chwarae rôl Cuthbert Taylor yn y ddrama lwyfan

Ymhlith yr ysgolion sydd wedi ysgrifennu at y bwrdd mae disgyblion Ysgol Gymraeg Santes Tudful ym Merthyr, wedi iddyn nhw fynd i weld y ddrama fis diwethaf.

Yn ôl Elin Jones athrawes blwyddyn 5 yn yr ysgol: "Mae'r ddrama wedi cael effaith arbennig ar y plant - wedi taro adre oherwydd bod Cuthbert Taylor yn dod o Ferthyr.

"Maen nhw mor angerddol am yr anghyfiawnder ac mae gyda ni dros 100 o lythyron sydd am gael eu danfon at y bwrdd bocsio - gobeithio erbyn diwedd yr wythnos."

Dywedodd ei bod yn credu i'r ddrama gael cymaint o effaith ar y disgyblion am ei fod yn "arwr lleol" oedd wedi cael ei drin mor amlwg yn annheg.

"Mi oedd yn ddyn o Ferthyr - arwr lleol - a doedd y plant methu credu sut o'dd e wedi cael ei drin," meddai Ms Jones.

"Mae'n anodd i ddeall pam bysa'r anghyfiawnder yma'n bodoli a bod dim ymddiheuriad wedi dod."

Mae disgyblion o ysgolion eraill wedi ysgrifennu hefyd, gan gynnwys Ysgol Gynradd Gymraeg y Cwm yn Bon-y-Maen, Abertawe, Ysgol Cwm-nedd, Ysgol Gynradd Gatholig St Joseph, Port Talbot, Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfaes yn Aberhonddu, ac mae nifer yr ysgolion yn parhau i dyfu.

Ffynhonnell y llun, Dimitris Legakis, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Cwm-nedd yn un o'r rheiny a gafodd eu hysbrydoli gan y ddrama

Mae The Fight wedi cael ei pherfformio i fwy na 4,600 o blant yn Theatr Dylan Thomas yn Abertawe, ac erbyn hyn yn cael ei llwyfannu yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu.

Er i Geinor Styles gael ei magu ym Merthyr Tudful, fel Cuthbert Taylor, doedd hi heb glywed sôn amdano.

“Dwi’n dod o Ferthyr, ac ro’n i’n tŷ Mam pan roedd hi’n clirio allan hen luniau o’r ysgol ac roedd 'na lun o’i dosbarth hi, pan roedd hi’n tyfu fyny ym Merthyr," meddai.

"Yn y llun dosbarth, roedd 'na ferch fach ddu, ac roedd hynny’n rywbeth reit anghyfarwydd ym Merthyr ar y pryd, ro’n i’n teimlo.

"Fe ofynnais i Mam ‘oedd y ferch 'ma yn cael ei bwlio yn yr ysgol?’

"A wedodd Mam ‘na, oherwydd roedd hi’n perthyn i Cuthbert Taylor’, ac o’n i’n meddwl ‘pwy yw Cuthbert Taylor?’"

Roedd Geinor yn teimlo bod stori Taylor yn un oedd angen cael ei chlywed.

“Fel rhywun sy' 'di tyfu fyny ym Merthyr, dwi’n really ymwybodol o’n paffwyr – Howard Winstone, Eddie Thomas, Johnny Owen.

"Ond o’n i 'rioed 'di clywed am Cuthbert, so pan wedodd Mam wrtha i’r stori, bod e 'di cael ei wrthod mynd am deitl, o’n i’n meddwl bod hi’n stori wych i blant a phobl ifanc glywed.

“Mae’n stori sydd ddim yn gyfarwydd ond fe ddylse fod yn gyfarwydd.

"Mae 'na loads o statues ym Merthyr o baffwyr enwog a does dim un o Cuthbert, a dwi’n meddwl bod e’n haeddu’i le hefyd.”

Brwydro am ymddiheuriad ers blynyddoedd

Mae teulu Cuthbert Taylor wedi bod yn brwydro am fwy o gydnabyddiaeth i’r paffiwr ers blynyddoedd, ac wedi bod yn galw am ymddiheuriad ar ei ran.

Yn 2021 cafodd cofeb i Taylor, fu farw ym 1977, ei ddadorchuddio yn Nhŷ’r Cwrt ym Merthyr Tudful, lle roedd Taylor yn arfer hyfforddi.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r plac yn dweud bod Taylor wedi cael ei rwystro yn sgil lliw ei groen

Mae Bwrdd Rheoli Bocsio Prydain (BBBoC) wedi ymateb gan ddweud eu bod “yn gwbl ymwybodol o'r ddrama... a'r effaith ddofn a gafodd ar ddisgyblion ysgol gynradd” a’u bod “hefyd yn ymwybodol o’r ymgyrch gan deulu Cuthbert Taylor sy’n galw am ymddiheuriad".

Maen nhw’n dweud fod bocsio yn un o’r “chwaraeon mwyaf amrywiol a chynhwysol” yn y DU ac yn cydnabod bod y gwaharddiad ar sail hil yn anghywir, ond yn gwrthod ymddiheuro.

“Wrth gwrs, mae’r bwrdd yn cydnabod bod gweithredu’r ‘gwaharddiad lliw’ yn wahaniaethol, ac mae’r bwrdd yn derbyn bod hyn yn anghywir," meddai llefarydd.

"Yn wir, mae Bwrdd Rheoli Bocsio Prydain yn condemnio’n gryf y gwaharddiad lliw a oedd yn bodoli ym myd bocsio proffesiynol rhwng 1911 a 1948.”

Ychwanegodd: "Mae’r awgrym o ddal y Bwrdd Rheoli Bocsio Prydeinig presennol yn gyfrifol am benderfyniadau cyn-aelodau’r bwrdd yn anfoddhaol iawn.

"Ein barn ni yw y dylai unrhyw ymddiheuriad i’r teulu Taylor ynghylch Cuthbert Taylor gael ei arwain gan y llywodraeth gan fod y ‘gwaharddiad lliw’ wedi’i orfodi ar gais y llywodraeth (Swyddfa Gartref) ar y pryd.”