Carcharu dyn am achosi marwolaeth dynes, 87, trwy yrru peryglus

CCTV o eiliadau cyn y gwrthdrawiadFfynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o’r llun,

Mae lluniau CCTV yn dangos y foment y gwnaeth Matthew Parrott geisio pasio'r bws

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 42 oed o ardal y Drenewydd wedi ei garcharu am dair blynedd am achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Cyfaddefodd Matthew Parrott iddo achosi marwolaeth dynes 87 oed, Margaret Lee, mewn digwyddiad ar 27 Tachwedd, 2023.

Roedd Parrott wedi ceisio pasio bws ar yr A458 yn Nhreberfedd, rhwng y Trallwng a'r Amwythig.

Pasiodd y bws ar linellau gwyn dwbl, a gwrthdaro gyda char Ford Fiesta oedd yn gyrru i'r cyfeiriad arall.

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod terfyn cyflymder o 50mya a bod y bws yn teithio ar 42mya.

'Amlwg yn lle anniogel i basio'

Dywedodd yr erlynydd, Simon Parry, fod y symudiad i basio wedi digwydd ar ôl i Parrott basio arwydd yn rhybuddio am bantiau cudd, a bod y gair 'araf' wedi'i ysgrifennu ar y ffordd.

Y bore hwnnw roedd Margaret Lee, oedd yn byw'n lleol, yn gyrru o'i chartref i brynu papur newydd, ac mi gafodd hi anafiadau "trychinebus".

Dywedodd Mr Parry iddi farw yn uned drawma Stoke on Trent yr un diwrnod.

Yn amddiffyn, dywedodd Dafydd Roberts fod y diffynnydd yn "ei chael hi'n anodd dod i delerau â'r ffaith mai ei weithredoedd ef a arweiniodd at y farwolaeth".

Dywedodd: "Dyma rywun sydd wirioneddol yn edifar."

Rhoddodd y Barnwr Timothy Petts waharddiad gyrru o chwe blynedd a hanner gyda phrawf estynedig.

Dywedodd wrth Parrott ei bod hi'n "glir nad oedd gan Margaret Lee unrhyw gyfle o gwbl i osgoi'r hyn ddigwyddodd".

Ychwanegodd y barnwr nad oedd angen i Parrott basio'r bws, ac yn "amlwg yn le anniogel".

Pynciau cysylltiedig