Democratiaid Rhyddfrydol yn addo arian i 'achub' y GIG
- Cyhoeddwyd
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo sicrhau arian ychwanegol i "achub" y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Wrth lansio eu maniffesto Cymreig mae'r blaid wedi addo buddsoddi mewn gofal, amaeth, carthffosiaeth ac inswleiddio cartrefi.
Yn ôl Jane Dodds AS, arweinydd y blaid yng Nghymru, mae pleidlais i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bleidlais i "ethol llais cryf yn lleol".
"Fel y Ceidwadwyr, mae Llafur Cymru wedi gadael cymunedau i lawr, mae'r canlyniadau yn y gwasanaeth iechyd ymysg y gwaethaf yn y DU ac maen nhw, i bob pwrpas, yn anwybyddu cefn gwlad Cymru," meddai.
Mae'r maniffesto yn cynnig "pecyn achub" gwerth £417m i'r gwasanaeth iechyd, a £260m y flwyddyn yn ychwanegol erbyn 2028-29.
Eu ffocws yw gwella'r system ofal, ac maen nhw'n addo rhoi £210m i'r sector os ydyn nhw'n ennill yr etholiad cyffredinol.
Ar yr amgylchedd, mae'r blaid eisiau gwario £50m y flwyddyn yn ychwanegol ar amaeth a rhoi mwy o arian i Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn monitro a gweithredu ar lygredd carthffosiaeth mewn afonydd.
Fe wnaeth y blaid lansio eu maniffesto Cymreig ym mae Caerdydd ddydd Llun.
Dywedodd Ms Dodds, os bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael eu hethol, y bydden nhw'n canolbwyntio ar sicrhau fod pobl Cymru yn cael "mynediad cyflym i'w doctoriaid a'u deintyddion ac yn rhoi bargen deg i ofalwyr y wlad".
"Byddwn yn rhwystro carthffosiaeth rhag cael ei ollwng i'n hafonydd, byddwn yn gwarchod iechyd meddwl ein plant ac yn inswleiddio tai fel eu bod yn gynnes yng nghanol yr argyfwng costau byw," meddai.
"Mae gobaith a newid ar y gweill, ond rhaid i chi bleidleisio amdanyn nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2024