Pobol y Cwm yn 50: Fy hoff straeon gwych a gwallgo'
- Cyhoeddwyd
Mae Gruffydd Siôn Ywain yn siwpyr-ffan o'r opera sebon Pobol y Cwm, sydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed ar 16 Hydref 2024, ac yn cofio pob un manylyn am bob un stori sydd wedi bod dros yr hanner canrif (... bron).
Yma, mae Gruffydd yn rhannu ei gariad tuag at ei hoff raglen deledu, ac yn sôn am rai o'i hoff straeon sydd yn parhau yn y cof.
Ac er y byddai wedi gallu rhestru degau o straeon mwyaf cofiadwy y gyfres dros y blynyddoedd, meddai, mae wedi penderfynu canolbwyntio ar y rhai oedd ychydig mwy... od...
"Gruffydd Sion Ywain dwi, gohebydd Cymru Fyw yng Nghwmderi.
"Mae 'na sôn mod i’n superfan o’r gyfres. Ac ydi, mae'n bosib fy mod yn ymddiddori yn helyntion Megan Harries fwy na’r rhan fwyaf o bobl, a do, mi es i’n star- struck i gyd pan weles i Gillian Elisa mewn caffi un tro...
"Mae fy nheulu yn taeru fy mod fel plentyn ifanc yn dawnsio pryd bynnag oedd cerddoriaeth gyfarwydd credydau agoriadol Pobol y Cwm i’w glywed ar y teledu.
"Pan symudais i Lundain daeth S4C ar gael dros y we am y tro cyntaf ac roedd cael rhywbeth Cymraeg i'w wylio yn rheolaidd yn atgof o adref.
"Y llynedd cefais y fraint o wylio’r bennod gyntaf i mi ei hysgrifennu yn cael ei recordio o 'nghuddfan yng nghefn y Deri Arms tra bod Sue Roderick a Victoria Plunkett yn dod â ngeiriau yn fyw gyda’u perfformiad.
"Superfan neu beidio, mae un peth yn sicr - o’r cychwyn cyntaf mae Pobol y Cwm wedi bod yna, yn rhan o’m mywyd bob dydd. Weithiau yn y blaendir wrth i’r gyfres groesi gyda’m mywyd proffesiynol neu wrth i stori arbennig fynnu cael ei drafod yn dwll gyda ffrindiau.
"Ar adegau eraill mae yn y cefndir. Yn ugain munud o’r dydd sy’n mynd a dod heb sylw.
"Mae o wastad yna, ac wedi bod ers 50 mlynedd erbyn hyn a gobeithio wir bydd yn parhau i fod yno am y 50 mlynedd nesa' hefyd."
Hoff straeon gwych a gwallgo' Gruff
Rhaid rhoi canmoliaeth uchel i rhain... y straeon wnaeth ddim cweit 'neud y cut
Pat a Dave, y swingers
Marwolaeth ffug Iori
Boob job Michelle Hill
Tatŵ Cilla (o enw Mark Jones)
Atgyfodiad Anti Marian
A beth yw'r pump uchaf? Gwyliwch y fideo uchod i ffeindio allan...
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2024