Llywydd y Steddfod yn ofni y bydd denu pobl i grwydro'r sir gyfan yn her
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf dywed Llywydd yr Ŵyl ei fod yn gobeithio'n fawr y bydd eisteddfodwyr yn crwydro'r ardal gyfan.
Bydd Cennard Davies, sy'n frodor o Dreorci yng Nghwm Rhondda, yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn brynhawn Sadwrn.
"Dwi'n sylwi bod llawer iawn o'm ffrindiau yn aros yng Nghaerdydd oherwydd diffyg gwestai ac yn y blaen ac er holl frwdfrydedd Siambr Fasnach Treorci ac ardaloedd eraill i ddenu pobl - dwi'n ofni y bydd hi'n dipyn o job i ddenu pobl yma," meddai.
Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni, Helen Prosser, ei bod hi'n "fraint anrhydeddu Cennard Davies" - gan ei ddisgrifio fel "dyn ei filltir sgwâr sydd wedi cyfrannu at Gymru gyfan".
"Gobeithio'n wir y bydd eisteddfodwyr yn mentro i Dreorci ac ardaloedd eraill. Mae gen i erthygl yn y rhifyn cyfredol o Barn yn awgrymu llefydd i bobl ymweld â nhw," meddai Mr Davies.
"Mae'r Rhondda, er enghraifft, yn hardd ac yn wyrdd iawn erbyn hyn. Dwi'n cofio pysgota am grachwns pan oedd yr afon yn ddu - dyna'r unig bysgod oedd yn gallu goroesi!
"Rywsut dyw llawer o bobl ddim yn gwybod rhyw lawer am y Rhondda - pan rwy' wedi bod yn mynd i gyfweliad neu gyfarfod yng Nghaerdydd mae pobl wedi bod yn gofyn i fi a ydw i angen llety!
"Dyw e ddim yn bell. Mae'n braf iawn yma gyda'r mynyddoedd o gwmpas yn fendigedig - felly gobeithio bydd pobl yn dod."
Yn ei erthygl yn Barn, mae Cennard Davies yn annog eisteddfodwyr i ymweld â gwahanol fannau yn yr ardal.
Ymhlith y llefydd ar y rhestr mae Parc Treftadaeth y Rhondda yn Nhrehafod, Y Porth, cartref y bardd a'r dramodydd Kitchener Davies yn Nhrealaw, Tonypandy, Llwyn-y-pia, Ton Pentre, Treorci, Treherbert, Blaenrhondda, Pen-rhys, Tylorstown, Ferndale a'r Maerdy.
"Mae'n ardal hyfryd ac yn un sydd wedi codi llawer o arian mewn amser byr at yr Eisteddfod," ychwanegodd Mr Davies.
"Tua mis Medi y llynedd na'th pethe ddechrau o ddifri' ac ers hynny mae nifer o achlysuron codi arian wedi bod.
"Mae'r ardal wedi codi dros £300,000 mewn byr amser - yr ardal gyfan yn hynod o gefnogol."
Ysgolion yn 'destun gobaith ar gyfer y dyfodol'
Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, dychwelodd Cennard Davies i’w hen ysgol, Ysgol Ramadeg y Porth, fel athro am gyfnod cyn mynd i Goleg y Barri i arwain cwrs yn y Gymraeg ar gyfer athrawon.
Bu wedyn yn dysgu Cymraeg i oedolion am weddill ei yrfa.
Wrth drafod dyfodol y Gymraeg yn y Rhondda dywed fod yna lawer iawn o ymrwymiad i'r iaith ymhlith y trigolion a bod yr ysgolion Cymraeg yn llwyddo.
"Mae pobl yn difaru nad ydyn nhw'n gallu siarad yr iaith. Mae'r ysgolion yn llewyrchus. Mae yna bump o ysgolion yn y Rhondda ond eto i gyd mae'n gallu bod yn anodd gan nad ydyn nhw'n ysgolion lleol.
"Maen nhw'n ysgolion ardal ac felly o ganlyniad mae pwysau ar y cyngor i ddarparu trafnidiaeth i fynd â'r plant i'r ysgol.
"Gan nad yw incwm y pen i bob disgybl yn uchel iawn 'ma - mae yna bwysau wedyn ar deuluoedd ac mae hynny yn gallu penderfynu ar ddewis rhieni.
"Ond ni'n lwcus bod yma bump o ysgolion ac ysgol uwchradd ond i fynd i'r ysgol uwchradd o Flaenrhodda mae'n rhaid teithio wyth neu naw milltir bob dydd.
"Mae hynny'n gofyn tipyn ond maen nhw'n ysgolion llwyddiannus iawn sy'n destun gobaith ar gyfer y dyfodol."
- Cyhoeddwyd1 Awst 2024
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2020
Ychwanega Cennard Davies ei fod yn hynod o falch bod yna fwy o barch i'r Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diweddar.
"Yn fy nghyfnod i ychydig iawn o fy ffrindiau o'dd yn siarad Cymraeg a phan na'th mam John Bwlch-llan ofyn am gael rhywfaint o Gymraeg yn yr ysgol, yr ateb oedd bod hi'n gyfnod o ryfel a bod angen uno pobl yn hytrach na'u rhannu.
"Yr adeg honno roedd y Gymraeg yn cael ei gweld felly - fel rhywbeth oedd yn rhannu pobl yn hytrach na'u cyfannu. Diolch fod y sefyllfa wedi newid."
Mae cryn edrych ymlaen at araith Cennard Davies yn yr Eisteddfod ddydd Sadwrn.
Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni, Helen Prosser: “Mae’n fraint anrhydeddu Cennard Davies fel Llywydd Eisteddfod 2024 – dyn ei filltir sgwâr sydd wedi cyfrannu at Gymru gyfan.
“Mae ei gyfraniad i’r sector Dysgu Cymraeg – yn lleol ac yn genedlaethol – yn amhrisiadwy. Gŵr bonheddig a sgwrsiwr heb ei ail, mae’n donic i gael treulio amser yn ei gwmni.”