Eich canllaw i ardal Rhondda Cynon Taf

treorci
Disgrifiad o’r llun,

Canol tref Treorci yn Y Rhondda

  • Cyhoeddwyd

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Rondda Cynon Taf eleni bydd miloedd yn heidio i’r Cymoedd, rhai ohonynt am y tro cyntaf.

Ond ble yn union mae Rhondda Cynon Taf? Beth yw’r ffiniau, beth yw’r trefi mawr yno a phwy yw rhai o’r enwogion sy’n dod o’r ardal?

Dyma rywfaint o wybodaeth.

Creu'r sir

Mae Rhondda Cynon Taf yn fwrdeistref sirol yn ne Cymru a ddaeth i fodolaeth yn dilyn ardrefniant llywodraeth leol yng Nghymru yn 1996. Fe unwyd y rhanbarthau o’r hen Morgannwg Ganol; Rhondda, Cwm Cynon a Taf-Elái (gan eithrio ardaloedd Creigiau a Phentyrch a ymunodd â Chaerdydd).

Roedd Cwm Cynon a Taf-Elái yn ardaloedd llywodraeth leol o 1974 i 1996, ond roedd y Rhondda’n ardal lywodraeth leol o 1877 i 1996.

Mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn nodi enw tair afon sy’n llifo drwy’r rhanbarth; afon Rhondda, afon Cynon ac afon Taf.

Mae’r sir yn ffinio â Merthyr Tudful a Chaerffili i’r dwyrain a Chaerdydd a Bro Morgannwg i’r de. I’r gorllewin mae Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot, ac mae Powys i'r gogledd.

Disgrifiad o’r llun,

Ffiniau Rhondda Cynon Taf

Maint

Mae Rhondda Cynon Taf yn 424 km² mewn arwynebedd (sef tua'r un maint â Sir Y Fflint). O’r 22 sir yng Nghymru, Rhondda Cynon Taf yw’r 13eg mwyaf.

Mae Rhondda Cynon Taf bron iawn yr union yr un maint â Barbados.

Poblogaeth

Mae 240,000 o bobl yn byw yn Rhondda Cynon Taf. Dyma’r drydedd sir fwyaf poblog yng Nghymru – Caerdydd yw’r mwyaf, ac Abertawe’n ail.

Mae gan Rhondda Cynon Taf boblogaeth debyg i ddinasoedd Southampton a Blackpool yn Lloegr, Lille yn Ffrainc, a Swydd Kildare yn Iwerddon.

Prif drefi

Er mai ym Mhontypridd mae pencadlys y sir, y dref fwyaf yw Aberdâr.

Yn ôl y cyfrifiad diwethaf y tri lle mwyaf poblog yw Aberdâr efo 37,691 o bobl, 31,914 o drigolion ym Mhontypridd, ac 17,203 yn Nhonypandy.

Ymysg rhai o'r llefydd eraill mwyaf poblog mae Pentre'r Eglwys, Porth ac Aberpennar.

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r trefi a'r pentrefi yn Rhondda Cynon Taf

Y Rhondda Fawr a'r Rhondda Fach

Mae rhannau penodol a gwahanol i'r sir - Y Rhondda, Cynon a Taf. Ond mae hefyd dwy ran i'r Rhondda ei hun - y Rhondda Fawr a Rhondda Fach.

Wrth deithio o'r gogledd o'r Porth ('Y Porth i'r Rhondda') mae'r cwm yn cael ei rannu'n ddau... i'r chwith mae'r Rhondda Fawr, ac i'r dde mae'r Rhondda Fach.

Ardaloedd Y Rhondda Fawr: Blaencwm, Blaenrhondda, Cwm Clydach, Cwmparc, Cymer, Dinas Rhondda, Edmondstown, Gelli, Glynfach, Llwynypia, Pentre, Penygraig, Penyrenglyn, Porth, Ton Pentre, Tonypandy, Trealaw, Trebanog, Trehafod, Treherbert, Treorci, Tynewydd, Trewiliam ac Ystrad.

Ardaloedd Y Rhondda Fach: Blaenllechau, Glynrhedynog, Y Maerdy, Penrhys, Pontygwaith, Pendyrus, Stanleytown, Aberllechau ac Ynyshir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aberdâr, tref fwyaf Rhondda Cynon Taf

Hanes diwydiannol

Mae hanes yr ardal yma ynghlwm â’r diwydiannau trwm. Roedd Y Rhondda’n enwog am fod â glo o ansawdd uchel, ac roedd hwn yn cael ei allforio ledled y byd. Roedd adeg ble roedd dros 60 o byllau glo yn Y Rhondda yn unig, gyda miloedd o ddynion yn gweithio dan ddaear.

Am flynyddoedd roedd y tirwedd wedi ei orchuddio efo tomenni o wastraff glo, ond mae ymdrechion wedi bod yn ddiweddar i dacluso’r ardal.

Mae Cwm Cynon a Chwm Rhondda’n enwog am filoedd o dai teras ar hyd eu bryniau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Canolfan treftadaeth y Rhondda yn Nhrehafod

Guto Nyth Brân

Un o feibion enwocaf yr ardal yw Guto Nyth Brân (1700 - 1737), ond mae'n anodd dweud gyda sicrwydd pa rannau o'i fywyd sy'n ffeithiol gywir, a pha rannau sydd wedi datblygu o chwedlau.

Griffith Morgan oedd ei enw iawn, ond cafodd ei fagu ar fferm Nyth Brân, ar gyrion Porth, Y Rhondda. Roedd yn dipyn o athletwr gan ennill rasys ar hyd de Cymru, a hefyd guro ceffyl mewn rasyn ôl y sôn.

Yn y ras olaf iddo'i rhedeg, rhedodd 12 milltir rhwng Casnewydd a Bedwas, yn erbyn Sais o'r enw Prince. Bu bron iddo â cholli'r ras, ond Guto oedd fuddugol yn y diwedd. Yn ôl yr hanes, wedi i'r ras orffen fe wnaeth ei gariad, Siân, ei guro mor galed ar ei gefn wrth ddathlu nes i'r ergyd ei ladd. Cafodd ei gladdu yn Llanwynno, pentre' bychan rhwng Cwm Cynon a Chwm Rhondda.

Ers 1958 mae yna ras 5km bob Nos Galan o gwmpas ganol Aberpennar er cof amdano, gyda thua 2,000 yn rhedeg. Yn ôl y traddodiad mae 'na 'redwr cudd' enwog yn cymryd rhan - yn eu plith dros y blynyddoedd mae enwau fel George North, Colin Jackson, John Hartson, Linford Christie a Nicole Cooke.

Disgrifiad o’r llun,

Cerflun o Guto Nyth Brân ar Oxford Street, Aberpennar

Yr iaith Gymraeg

Yn ôl Cyfrifiad 2021 mae 12.4% o drigolion Rhondda Cynon Taf yn siarad Cymraeg, ond mae’r ystadegau’n awgrymu fod y Gymraeg wedi tyfu dros y blynyddoedd diweddar.

Mae 14 ysgol gynradd Gymraeg yn y sir, a phedair ysgol uwchradd Gymraeg; Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Ysgol Gyfun Garth Olwg, Ysgol Gyfun Llanhari a Ysgol Gyfun Rhydywaun.

Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Llanhari, a agorwyd yn 1974

Yr anthem

Pontypridd wrth gwrs yw cartref yr anthem genedlaethol. Cafodd yr anthem ei chyfansoddi ym mis Ionawr 1856.

Evan James (1809-1878) ysgrifennodd y geiriau, ac fe gyfansoddwyd y dôn gan ei fab, James James (1833-1902). Gwehydd a bardd oedd y mab, a thelynor oedd y tad.

Enw gwreiddiol y gân oedd Glan Rhondda, a gafodd ei berfformio am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor, Maesteg, yn Ionawr neu Chwefror 1856, gan y gantores ifanc leol, Elizabeth John.

Disgrifiad o’r llun,

Cerflun o Evan James (ar y chwith) a'i fab James James ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd

Enwogion Rhondda Cynon Taf

Mae ardal Rhondda Cynon Taf yn un cyfoethog am bobl sydd wedi rhagori mewn sawl maes - dyma ond ychydig ohonynt.

Gyda'r anthem genedlaethol yn dod o'r sir mae'n briodol ei fod yn gartref i gantorion o fri. Daw Tom Jones, un o'r Cymry mwyaf adnabyddus erioed, o ardal Trefforest, Pontypridd. Cafodd ei hit gyntaf yn 1964, ac ers 60 mlynedd mae ganddo ddilyniant enfawr ledled y byd.

Daw Sophie Evans o Donypandy yn Y Rhondda, a Ian H Watkins o'r band pop Steps o Lwynypia, hefyd yn Y Rhondda. Daw Kelly Jones, prif leisydd y Stereophonics, o Gwmaman ger Aberdâr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tom Jones, Sophie Evans, Kelly Jones ac Ian H Watkins

Cafodd Ioan Gruffudd ei eni yn Llwydcoed ger Aberdâr yn 1973. Ymysg ei roliau enwocaf mae Titanic, King Arthur a Fantastic Four.

Mae Iris Williams yn gantores adnabyddus a oedd yn hynod o enwog yn y 1970au, 80au a 90au cynnar. Cafodd ei geni yn Rhydyfelin ger Pontypridd a chafodd yrfa lwyddiannus yn canu yn Gymraeg a'r Saesneg. Mae hi bellach yn byw yn Rancho Mirage, California.

Un mae pobl yn aml anghofio amdano fel Cymro yw Paul Whitehouse. Daw Whitehouse o Stanleytown yn Y Rhondda, ond fe symudodd i Enfield yn Middlesex pan oedd yn blentyn. Mae'n enwog am ei rannau yn The Fast Show a Harry Enfield & Chums, yn ogystal â ffilm nodedig Armando Iannucci, The Death of Stalin.

Mae Daniel Evans yn actor a chyfarwyddwr o'r Rhondda. Aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen, a pan oedd yn 17 mlwydd oed, enillodd Wobr Goffa Richard Burton yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yn actio am flynyddoedd ond yna trodd ei ffocws tuag at gyfarwyddo. Ers 2023 mae'n gyd-gyfarwyddwr Artistig y Royal Shakespeare Company.

Ffynhonnell y llun, getty
Disgrifiad o’r llun,

Ioan Gruffudd, Iris Williams, Paul Whitehouse a Daniel Evans

Mae Rhondda Cynon Taf hefyd wedi gwneud cyfraniad hynod bwysig ym meysydd gwleidyddiaeth, y celfyddydau a gwyddoniaeth.

Roedd Annie Powell yn wleidydd Comiwnyddol, a hi oedd y maer Comiwnyddol cyntaf ym Mhrydain. Roedd Powell yn athrawes ac fe gafodd ei gwleidyddiaeth ei ddylanwadu gan ddigwyddiadau'r Streic Gyffredinol yn 1926. Yn 1955 etholwyd Powell fel cynghorydd Comiwnyddol ar gyfer Penygraig, gan golli yn 1957. Yn 1961, ail-etholwyd Powell fel cynghorydd yn Y Rhondda, ac roedd hi'n gynghorydd am 20 mlynedd.

Cafodd Leanne Wood ei geni yn Llwynypia yn 1971, a hi oedd arweinydd benywaidd cyntaf Plaid Cymru (2012-2018). Roedd hi'n Aelod o'r Senedd o 2003 tan 2021, ac yn adnabyddus am ei safiadau asgell chwith sosialaidd, gweriniaethol a chenedlaetholgar.

Roedd James Kitchener Davies (1902-1952) yn fardd a dramodydd yn wreiddiol o Geredigion, ond roedd ei waith wedi ei ddylanwadu yn fawr gan Drealaw a Chwm Rhondda ble roedd yn byw. Roedd yn aelod o Gylch Cadwgan, grŵp o lenorion o'r Rhondda a oedd hefyd yn cynnwys Rhydwen Williams, Pennar Davies a Gareth Alban Davies. Safodd Davies dros Blaid Cymru yn Nwyrain Rhondda yn 1945, ac yna yn etholaeth Gorllewin Rhondda yn etholiadau 1950 a 1951.

Roedd Elaine Morgan yn awdures a dramodydd o Drehopcyn ger Pontypridd. Aeth i Brifysgol Rhydychen cyn mynd mlaen i gael gyrfa lwyddiannus yn ysgrifennu ar sawl pwnc. Ysgrifennodd nifer o ddramâu teledu i'r BBC, gan gynnwys The Life and Times of David Lloyd George (1981). Ond fe hefyd ysgrifennodd ar anthropoleg esblygol gan awduro The Descent of Woman, The Aquatic Ape, The Scars of Evolution, The Descent of the Child, The Aquatic Ape Hypothesis a The Naked Darwinist. Bu farw Morgan yn Aberpennar yn 2013.

Ffynhonnell y llun, getty
Disgrifiad o’r llun,

Annie Powell, Leanne Wood, James Kitchener Davies ac Elaine Morgan

Mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn rhagori ym myd chwaraeon.

Daw Jayne Ludlow, rheolwr tîm menywod Cymru o 2014 i 2021, o Lwynypia yn Y Rhondda.

Freddie Welsh oedd ail bencampwr bocsio'r byd i ddod o Gymru (1914 i 1917). Frederick Hall Thomas oedd ei enw iawn, ac yn ôl y sôn fe newidiodd ei enw i Welsh fel bod ei fam ddim yn clywed ei fod yn bocsio.

Enillodd Kelly Morgan o Bontypridd fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad 1998 yn Kuala Lumpur, ac fe enillodd fedal arian ac efydd ym Mhencampwriaethau Ewrop.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jayne Ludlow, Freddie Welsh, Kelly Morgan a Neil Jenkins

Roedd Neil Jenkins yn un o'r chwaraewyr rygbi mwyaf adnabyddus o'i genhedlaeth. Roedd yn chwarae dros Bontypridd, Caerdydd a'r Celtic Warriors.

Enillodd Jenkins 87 cap dros Gymru, a chwaraeodd mewn pedair gêm brawf dros Y Llewod. Ar un pwynt Jenkins oedd yn dal y record am y chwaraewr rygbi a oedd wedi sgorio'r nifer fwyaf o bwyntiau rhyngwladol. Fe wnaeth ymddeol o chwarae yn 2004, ac mae bellach yn rhan o dîm hyfforddi'r garfan cenedlaethol.

Ffynhonnell y llun, CRPontypridd
Disgrifiad o’r llun,

Yr enwog Heol Sardis, cartref Clwb Rygbi Pontypridd