Ystyr enwau lleoedd Maldwyn

Meifod
Disgrifiad o’r llun,

Meifod yw cartref Eisteddfod yr Urdd eleni

  • Cyhoeddwyd

O Gaersŵs i Groesoswallt, Trefaldwyn i'r Trallwng a Meifod i Fachynlleth - mae nifer o leoedd diddorol yn ardal Eisteddfod yr Urdd eleni.

Ond faint ydych chi'n ei wybod yr ystyr tu ôl i'r enwau?

Trefaldwyn

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Tre + Baldwyn, sef y Norman, Baldwin de Boulers, a oedd yn arglwydd yn yr ardal.

Daw'r enw Saesneg ar y dre', Montgomery, o gyfenw blaenllaw yn yr ardal, de Montgomerie. Roger de Montgomerie oedd Iarll cyntaf yr Amwythig.

Llandinam

Ffurf wreiddiol yr enw oedd Llandynan, sef llan + dinan (caerbychan).

O'r pentref hwn yr allfudodd rieni Murray Humphreys (y gangster enwog Murray the Hump) i Chicago ddiwedd yr 1890au.

Machynlleth

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ma (maes) + Cynllaith - y tir isel gwastad mae'n siŵr oedd y tir rhwng y dref bresennol a'r afon Dyfi. Ond does yna neb yn gwybod pwy ydi Cynllaith oedd yn berchen arno.

Penffordd-las

Ystyr yr enw yw tir comin uwch ben y ffordd las.

Mae'r enw Saesneg ar y pentref - Staylittle - yn llawer mwy anghyffredin. Mae'n debyg fod y gof lleol mor sydyn yn pedoli ceffylau, fel nad oedd angen i neb aros yn hir yno!

Llanrhaeadr-ym-Mochnant

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ystyr 'moch' yn y cyd-destun yma ydi buan neu gyflym. Mae hyn yn awgrymu fod y nant yn ffrydio'n gryf.

Yn y dref yma y cyfieithodd William Morgan y Beibl i'r Gymraeg. Mae Pistyll Rhaeadr, tu allan i'r dref, yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.

Caersŵs

Caer + Sŵs / Swys. Mae o bosib yn safle caer Rufeining. Yn ôl traddodiad, brenhines oedd Swys, ac enw'r ardal yn wreiddiol oedd Caer Swys Wen.

Dim lle i gariadon gwrdd am sws wedi'r cyfan...!

Y Drenewydd

Ffynhonnell y llun, Gary Williams

Mae'r enw yn enghraifft o enw lle Cymraeg sydd wedi deillio o'r enw Saesneg, sef Newtown.

Roedd gan y dref enw Cymraeg arall yn wreiddiol - sef Llanfair-yng-Nghedewain - ystyr 'Cedewain' yw tir Cadaw. Mae'r un elfen i'w gweld yn yr enw Betws Cedwain hefyd - daw 'betws' o'r Saesneg bead house sydd yn golygu lle i weddio neu eglwys fach.

Croesoswallt

Dyma'r man lle cafodd croes ei chodi gyda phen y brenin Oswald arni wedi iddo gael ei orchfygu yn 642.

Mae'r dref bum milltir o'r ffin â Chymru ac wedi bod yn rhan o Loegr yn swyddogol ers y Deddfau Uno yn 1536. Mae nifer yn ei galw yn 'dref fwyaf Cymreig Lloegr'!

Llanfyllin

Ffynhonnell y llun, Gary Williams

Llan + Myllin. Efallai mai fersiwn o enw'r sant Gwyddelig Moling yw hwn, a oedd yn byw yn y 7fed ganrif. Fodd bynnag, does yna ddim tystiolaeth ei fod wedi ymweld â Chymru, ond mae'n bosib i rai o'i ddilynwyr ddod yma a sefydlu eglwys yn ei enw.

Mae trigolion Llanfyllin wedi bod yn manteisio ar rinweddau iachusol ffynnon Sant Myllin yn y dref ers y chweched ganrif.

Aberhafesb

Dyma ble mae aber yr afon Hafren ac afon Hafesb. Ystyr 'Hafesb' yw afon sy'n sychu, neu yn hesb, yn yr haf.

Cafodd Neuadd Aberhafesb ei hadeiladu tua 1675, a hi oedd un o adeiladau brics cynta'r ardal.

Y Trallwng

Y + tra + llwng sy'n golygu pwll budr neu fan corsiog.

Dyma oedd tarddiad yr enw Saesneg - cafodd 'Welsh' ei ychwanegu at 'pool', er mwyn osgoi cymysgu â Poole yn Dorset. Mae hefyd wedi ymddangos fel Le Pool yn y gorffennol.

Meifod

Ffynhonnell y llun, Gary Williams

Mae 'mei' yn golygu hanner neu canol, a 'bod' yn golygu cartref, sef lle i deithwyr gael seibiant dros nos. Awgrym arall yw ei fod yn cynnwys enw mis Mai, a'i fod yn enw ar gartref y byddai pobl yn symud iddo yn ystod Mai.

Mae'n debyg fod eglwys wedi bod yn yr ardal ers i Sant Gwyddfarch sefydlu un yn y flwyddyn 550, a bu'n ganolbwynt crefyddol Powys yn yr 8fed ganrif, tra bod Mathrafal yn ganolbwynt gwleidyddol yr ardal.

Cafodd fersiwn o'r erthygl yma ei chyhoeddi'n wreiddiol yn 2015